Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GORPHENHAF, 1883- ŵjoŵwí g f arrjr. H^ §0^, gJteMtt. GAN Y PARCH. B. WILLIAMS, CANAAN. Nm dyn cyffredin oedd y diweddar Mr. Jones. Yr oedd cadernid ei gorff, sirioldeb ei wynebryd, moesgarwch ei ymddygiad, gwroldeb ei ysbryd, a duwioJdeb dwfn ei galon yn cydweithio 1 wneud ein Hybarch. dad ymadaw- edig yn un o freninoedd anghoronedig cymdeithas. Teimlid dylanwad ei ddoethineb a'i burdeb yn mhob cwmni—enillodd hyder a pharch ei gyd- nabod ar gyfrif uniondeb ei egwyddorion ac unplygrwydd ei gymeriad. Gwasanaethodd ei Arglwydd am dymhor maith gyda ffyddlondeb difwlch—arweiniodd fywyd gwastad, heb unrhyw amgylchiadau cyffrous ac eithriadol i dori ar wirionedd a llyfnder ei lwybr—cyflawnodd ddyledswyddau ei swydd gyda gonestrwydd gwr yn cael ei lywodraethu gan ofn Duw a chariad at ei "Waredwr—gorphenodd ei yrfa hirfaith gan bwyso ei hun, megys Ioan, y dysgybl anwyl, ar ddwyfron yr Iesu, a chymerwyd ef ymaith i wisgo coron cyfiawnder yn y nefoedd. Nid rhyfedd fod coÖadwriaeth un cyfiawn felly yn anwyl a bendigedig, ac y mae ei ymgysegriad llwyr i'w waith, ei gymeriad gloew, dysglaer fel y grisial, a'i ffydd ddiysgog yn Nuw yn Jlefaru wrth yr oesau a ddel mai " Gwyn ei fyd a gafio ddoethineb, oblegyd ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfryd- wch, a'i holl lwybrau hi ydynt heddwch." Ganwyd Mr. Jones yn nhref Caerfyrddin, Hyd. 23ain, 1791. Yr oedd ei rieni yn aelodau ffyddlon a gweithgar yn Heol Awst, ac yr oedd ei dad yn ddiacon yn yr eglwys hono. Cafodd felly feithriniad crefyddol pan yn ieuanc, ac mae yn sicr nad anghofiodd "y broffwydoliaeth a ddysg- odd ei fam iddo " Byddai ihieni, y dyddiau hyny, yn dra gofalus iddysgu ffeithiau ac egwyddorion crefydd i'w plant. Nid oedd ond ychydig o ysgolion dyddiol i'w cael, a'r cyfryw yn hynod anmherffaith yn eu trefn- iant a dieffaith o ran trwyadledd yr addysg a gyfranent. Nid oedd yr Ysgol Sabbathol wedi cyrhaedd dylanwad a phoblogrwydd mawr y dydd iau hyny, ac oblegyd y ffeithiau hyn yr oedd rhieni crefyddol yn ymdeimlo â'u cyfrifoldeb o ddysgu crefydd i'w plant eu hunain. Gellir ymddiried dysgu pethau ereill i'r plant i athrawon dyeithr, ond mae planu egwytidorion crefydd yn nghalon plentyn mor bwysig ac mor anhawdd, fel na fedr neb ei wneud mor llwyddinaus a rhieni duwiol. Cymerodd rhieni William Jones ei addysg grefyddol iV llaw eu hunain, ac yr oedd ŵ 31