Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AWST, 1883. ír^lprr p êfomtûw, tix ŵraîẃr p Dau ddosbarth ag y mae yn bwysig iddynt ddeall eu gilydd yw y pregeth- wr a'r gwrandawr. Mae eu perthynas agos, eu dibyniaeth ar eu gilydd, a'u cyfrifoldeb dwfn, yn peri fod cydymdeimlad rhyngddynt yn hanfodol i gyrhaedd yr amcan, er mwyn yr hwn y mae y ddau yn bodoli. Ni raid egluro pwy a feddylir wrth y pregethwr. Mae ei swydd yn anwyl gan ein cenedl ni, ei hanes wedi ei gyfrodeddu am hanes ein gwlad, ei ddylanwad yn amlwg yn ffurfiad ein cymeriad mcesol, a byddai yn well genym fel cen- edlgolli ein gafael ar bob peth a phawb nag ar y " pregethwr." Efegododd ei lais yn nghanol tywyllwch ao ofergoeliaeth yr oesau blaenorol, gan ddwyn i ni wirionedd ysbrydol sydd yn santeiddio deall a chalon. Efe a wrthdystiodd yn lleoedd amlaf y bobloedd yn erbyn anghyfiawnder a thrahausder gormeswyr, y rhai a ddirwasgent ein tadau i'w beddau gan eu trais. Efe a weithiodd o dan sylfeini sefydliadau pwdr a llygredig cym- deithas ; sychodd gorsydd lleidiog, dwfn, abudr ardaloedd; ddileodd arfer- ion annuwiolyr oesau, ac a sefydiodd foesau a gwirionedd yn alluoedd byw, anwrthwynebol, i dderchafu dynoliaeth i'w sefyllfa bresenol. Y mae i'r pregethwr ei le yn hanes ein cenedl, ei hawl ar barch ein gwlad; an- wylir ef gan yr oasau a enir ar gyfrif ei waith, a byddai yn greulondeb cadw oddiwrtho yr hyn a emliodd drwy fywyd ac angeu. Gwna, fe gedwir hwn yn anwyl at ei chalon gan y genedl Gymreig, ac na wawried y dydd pan y dianrhydeddir y swydd gan gymemdau Uygredig, nac y diystyrir pregethwyr cyfiawnder gan drigolion efengylaidd Oymru lân. Ond tra y mae y pregethwr yn amlwg yn ein hanes fel cenedl, mae y gwrandawr i'w weled ynddi heíyd. Mae y naill a'r llall yn codi ac yn myned i lawr gyda'u gilydd, a boddlonant gydnabod eu dyled i'w g'!ydd. Yr ydym yn meddwl wrth wrandawr, dyn sydd mewn cydymdeiinlad ar gwnonedd, un yn dal ei hun yn onest yn wyneb y drych. Wid y cr;;chfeirniad aufoddog, hunanol, twyllodrus, a honiadol, ond dyu gonest; nid yr hwn sydd o dan ddylanwadau syniadau anianol, hoJlol amddifad o gydj mdeirnlad ag amcan mawr gweinidogaeth yr efengyl, yn dysgwyl cael g ^lais ei deimladau; ond y dyn sydd yn meddwl, ac yu dyfod i'r oedfa er mwyn cael rhywbeth sydd arno eisieu. Nid yr hwn a wena wrth glywed tonyddiaeth llais y 36