Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TACHWEDD, 1884. fórpi p g gpifc GAN Y PAROH. R. MORGAN, ST. CLEARS. " Dnw, wedí iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy y proffwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab."—Heb. i. 1. " Heb ddim rhagarweiniaid, cyflwynaf y gosodiadau canlynol, ar y mater pwysig uchod, i sylw darllenwyr y Diwygiwr :— I. FOD DüW WEDI GWELED YN DDA I RODDI DADGÜDDIAD O HONO EI HÜN i'R BYD. Y mae pedair amod yn hanfodol i fodolaeth a defnyddioldeb dadgudd- iad. Yn gyntaf, Bodolaeth Duw. Yn ail, Sicrwydd o fodolaeth creadigol. Yn drydydd, Gallu Duw i wneud ei hun yn adnabyddus i'w greaduriaid. Yn bedwerydd, Cymhwysder mewn dyn i dderbyn a gwerthfawrogi dad- guddiad wedi ei gael. Heb y tair amod blaenaf, byddai rhoddiad dad- guddiad yn anmhosibl; heb yr olaf, ni atebai ei roddiad ei amcan o gwbl. Nid oes dim yn amlycach yn hanes dyn nag arwyddion amìwg ei fod yn mhob oes, ac yn mhob gwlad, ac o dan yr amgylchiadau mwyaf amrywiol ag y gall dyn fyw ynddynt, yn seíyll mewn angen am ddadguddiad. Y mae y duedd grefyddol ag sydd mewn dyn yn derbyn moddion ei maeth, ei chynydd, a'i dadblygiad, nid o honi ei hun, nac ynddi ei hun; ond ymddibyna am y naill a'r llall o'r pethau hyn ar rhywbeth ar ffurf dad- guddiad y tuattan iddi hi ei hun. Y mae gan rai olwg fawr ar reswm dynol fel defnydd cyuydd, a dadblygiad, ac arweiniad y duedd grefyddol hon. Y mae y bobl ag sydd am dderchafu rheswm ar draul anwybyddu gwerth dadguddiad, yn ddieithriad, yn rai ag sydd wedi cyfranogi o oleuni dadguddiad; ond yn anfoddlon cydnabod mai yn y mwynhad o oleuni dadguddiad y mae eu rheswm hwy wedi codi i'r safle urddasol y mae }-n- ddo. Y mae y dosbarth hwn o ddynion, pan yn ymresymu am nerth eu rheswm i lanw lle dadguddiad mewn rhoi cyfeiriad iawn i'w tueddiadau crefyddol, yn peri i ni gofio am y gorphwyllddyn ag oedd bob amser yn beio trefn y cread, " pe buaswn I," ebe fe, " yn cael caniatad i wneud y byd, gwnawn ef yn llawer mwy trefnus a gwasanaethgar nag y mae wedi cael öi wneud, gwnawn I y byd a'r haul yn cêdi yn y nos pan y mae ei eisieu, ac nid ynty dyddpryd nad oes ei eisieu.1' Hanes rheswm dynol dros y byd i gyd, ac yn mhob oes ar y byd yw, ei fod yn eolii yn y safle uchel, arwein- 51