Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EBRILL, 1888. ifoìŵf $oml GAN Y PARCH. J. RANSOM WILLIAMS, LLANITHEL, MYNWY. EILUNADDOLIAETH. (Gorchymyn II.) " Idolatry, the worshipping of dead idols as the Divinity, is a thing they (Propheis) cannot away-with, bnt have todenouncecontinually and brand with inexpiable reprobation; it is the chief of aíl the sins they see done under the sun."—Thomas Carlyle. Wedi i Dduw amddiffyn ac argymhell ei hawl fel yr unig Dduw, teilwng o bob gwarogaeth yn y Gorchymyn Cyntaf, â yn mlaen yn y Gorchymyn hwn i wahardd Eilunaddoliaeth yn hollol, yn mhob ffurf arno:—" Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a'r y sydd yn y ddaear isod, nac a'r sydd yn y dwfr tan y ddaear. Nac ym- gryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegyd myfi yr Arglwydd dy Dduw wyf Dduw eiddigus ; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casant. Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fy nghor- chymynion." (Exodus xx. 4—6.) Dyma Eilunaddoliaeth yn gwbí waharddedíg yn unrhyw ffurf; a thyma gymeradwyaeth Duw yn ddangosedig i'r rhai a gadwant ei orchymynion. Felly, mae AmUduwiaeth yn gyfeiliornad pwysig; mae Holldduwiaeth ac ymostyngiad addoliadol gormodol i ymddangosiadau (phenomena) yn gyf- eiliornad llawn mor bwysig. Mae dyn dan rwymedigaeth i gymdeithasu â natur, am ei tod yn ddarn o honi; ond nid yw dan rwymedigaeth i'w haddoli—Duw sydd i'w addoli yn unol â deddf pethau; ao yn unol â bam bod uwch—-ddaearol:—" Addola Dduw." Y peth cyntaf y sylwir arno yw, ystyr y gair Eilunaddoliaeth. Meddylia rnai y gellir dadansoddi y gair fel yma, eil} o ail, megys yr eilddydd, hyny yw, yr ailddydd—lun yw y ffurf feddal am llun, ac addoliaeth—Ail-llun- addoliaeth. Ac yn wir, gydag ystyriaeth, y mae cryn lawer o debygolrwydd gwir- ioneddol yn hyn. Dyma yw Eihnaddoìiaeth—gosod yr Anfeidrol ar lun 16