Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MEDI, 1888. ffajam gr fogf p ^mtíírpfor ? GAN Y FÂECH, B. MORGAN, ST. CLEARS. ANERCHIAD I FYFYRWYR CAERFYRDDIN. Ffaith adnabyddus i ni yw fod y byd crefyddol yn cael ei ranu i wahanol enwadau a phleidiau. Y mae gan y pleidiau hyn lawer o bethau ÿn nghylch pa rai y perfíaith gydunant, ac nid yw y pethau yn nghylch pa rai y gwahaniaethant bob un o bwys cyfatebol. Gesyd rhai bwyshanfodòl ar bethau nad yw y Beibl yn rhoi pwys felly iddynt, tra y mae ereill ỳn yinddwyn at bob peth o nodwedd grefyddol ac enwadol fel pethau'dibwys. Ond tra y cyfaddefir yn ewyllysgar fod llawer o dda yn perthyn i bob plaid grefyddol o G-ristionogion, y mae yn iawn i bob un ag sydd wedi dewis ei blaid i fod yn barod bob amser i ateb i bob un a ofyno ganddo am y rheswm ac am y gobaith sydd ynddo, " gydag addfwynder, ac ofn, a chenym gydwybod dda, fel yn yr hyn y maent yn ein goganu fel drwg- weithredwyr, y cywilyddio y rhai sydd yn beio ein hymarweddiad da yn Nghrist." Y mae lluawso'r pleidiau hyn a'u gwahaniaethau mor ddibwys, fel, pan byddo am gylchiadau, megys newid cymydogaethau, neu bethau ereill cyffelyb yn dygwydd i ni, yr ydym, heb droseddu un egwyddor, gyda chyd-ddealldwriaeth brawdol, a chymeradwyaeth cydwybod, yn cy- meryd ein lle yn eu mysg, ac yn mabwysiadu eu henw a'u trefn. Ond er fod yn bosibl ac yn ddyinunol i wneud hyn mewn rhai amgylchiadau, eto i gyd nid wyf yn credu fod llacrwydd yn y mater o enwadaeth yn beth i'w gymeradwyo o gwbl. Tra yr ydym yn condemnio dallbleidiaeth a phenboethni, credwn ar yr un pryd fod llacrwydd yn y mater o enwadaeth yn ddangosiad o anwybodaeth neu anystyriaeth o werth y pethau a dybir ein bod yn credu ynddynt. Y mae rhyw amgylchiadau ac amserau ag sydd yn gosod pwys fod y Uinellau ag sydd yn ein gwahaniaethu oddi- wrth enwadau ereill yn cael eu dangos yn amlẅg, a'i fod yn fater cyd- wybod, ac argyhoeddiad cysegredig genym i beidio croesi y Uinellau hyn o gwbl; a thybiaf mai yr ystyriaeth o hyn gynhyrfodd y pwyllgor i'm cymhell i'ch hanerch chwi ar nodweddion gwahaniaethol yr enwad parchus aç yr ydych chwi a minau yn cael y fraint a'r anrhydedd o berthyn iddo. > ' • ■•--•••■,, 41 - -*■ ;