Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MAWRTH, 1908. DYDD-LYFR GWEINIDOG. GAN---------------------? Nodiadau a ysgrifenwyd yn ystod y Diwygiad o Hydref 1904 hyd Hydref 1905. YR wyf yn weinidog eglwys luosog yn Neheudir Cymru, un o'r eglwysi hyny lle yr ystyrir y weinidogaeth yn sefydlog. Bu fy rhagflaenydd yma am yn agos ugain ìnlynedd, a'i ragflaenydd yntau am ddeugain mlynedd. Yr wyf finau yma er's yn agos ugain mlynedd, a lle fy medd yn barod y tu allan i fur y capel. Nid yw yn fy mwriad i symud ond yn unig i'r fynwent, a gwn mai chwith iawn fyddai gan fwyafrif yr eglwys hon feddwl am i rai symud i un lle arall ; ac y maent ar eu goreu am fy nghadw rhag syinud i'r fynwent hefyd. Nid wyf yn sicr nad oes ambell eglwys yn hyrwyddo symudiad ei gweinidog yno. Eglwys luosog, garedig, ddirodres yw yr eglwys hon, ac yr wyf wedi treulio yma fy nyddiau goreu, ac yn bwriadu rhoddi iddi y goreu o'r hyn fydd genyf am ychydig flynyddau eto, os arbedir fì. Nid oeddwn i, ac nid oedd y mwyafrif o aelodau yr eglwys wedi gweled diwygiad. Clywsom lawer o son am dano—dyna'r oll. Gwel- som rai adegau llewyrchus iawn—ond dim i fyny a'r " son " am yr hen ddiwygiadau gynt. Hiraethem am ei weled a'i deimlo, ac fe ddaeth,— a diolch byth am hyny; ond nid oedd yn hollol yr hyn a ddisgwyliem, a chawsom ynddo brofì rhai pethau digon poenus, ond yr oedd y rhanau goreu o hono uwchlaw desgrifiadaeth—yn " anrhaethadwy " nefoi—yn wir Baradwys Duw. Y mae yn arferiad genyf i ysgrifenu/ nodiadau.' Nid cronicliad o ffeithiau a digwyddiadau yn unig, fel geir mewn dydd-lyfr, ond math o fyfyrdodau ac ymsonau yn ogystal. Ysgrifenais gryn lawer yn ystod y diwygiad, ac wrth eu hail ddarllen meddyliais y gallasent fod o fudd a bendith i rywun wrth eu cyhoeddi, a bod ynddynt hefyd ryw ychydig o hanes mewnol y symudiad pwysig a adnabyddir mwv yn hanes Cymru fel " Diwygiad 1905." Mae ljawer