Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR MAI, 1908. JENNY LIND. YMA un o brif gaitoresauy byd yn ddios. Gelwid hi yn Eos Sweden gan bawb—The Swedish Nightingaìe. Merch i weithiwr tlawd a diddarbod ydoedd, a'i mham yn wraig o dymer groes ac afrywiog ; ond yr oedd Jenny Lind yn gwbl wahanol i'r ddau. Yr oedd ei thymer hi yn rhyfeddol o fwyn ac anwyl, ac yr oedd o ysbryd darbodus, ond ni bu erioed yn grintachlyd a chybyddlyd. Datblygodd grefyddolder dwys hefyd, a pharhaodd ar hyd ei hoes i ofni Duw ac i ddarllen ei Air yn ofalus. Ganed hi yn Stockholm, Sweden, yn 1820, a bu fyw i gyrhaedd 67 mlwydd oed. Treul- iodd ran fawr o'i hoes yn Mhrydain, er ei bod yn adnabyddus ymhob gwlad yn Europ, ac wedi canu ymhob llys ar y cyfandir ymron. Yr oedd ganddi dy—cottage fel y galwai hi'r adeilad,—yn mysg bryniau Malvern. Enw y lle oedd Wynds Point, ac yno y bu hi farw ar yr ail o Dachwedd 1887. Rhoed math o geiflun o honi yn Mynachlog Westminster yn agos i eiddo Handel. Yr oedd Jenny Lind yn canu yn gyhoeddus yn un o Chwareudai Sweden yn ddeng mlwydd oed, a daliodd i ganu o wlad i wlad am lawer iawn o flynyddau. Canai hen alawon ei gwlad ei hun gyda dylan- wad mawr, fel y gwnai Madame Stockwell gydag alawon Switzerland, ac Edith Wynne gydag alawon Cymru, Ond ymddangosai Jenny Lind yn y prif oratorios; ac yn arbenig mewn operas o hyd ymron, gan actio yn ogystal a chanu ; ac yr oedd gallu anghyffredin ganddi i'r perwyl hwn. Byddai cynulleidfaoedd yn colli arnynt eu hunain yn ei Bwn digymar, ac yn taflu torch&u o ûodau ac anrhegipn ereül at ei