Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MEHEFIN, 1908. DYDD-LYFR GWEINIDOG. Gax----------- Nodiadau a ysgrifenwyd yn ystod y Diwygiad o Tlydref 1904 hyd Hydref 1905. lihagfyr 9. Nos Wener. Yr wyf yn darllen llyfrau Mark Rutherford, ac er fod eu harddull yn swynol, a chwrs yr ystori yn ddyddorol, mae'r naws sydd ynddynt yn rhy an-efengylaidd i fy ysbryd ar hyn o bryd. Wedi dod o'r cyfarfod heno ceisiais ddarllen ymlaen, ond bu raid i mi daflu'r llyfr o'r neilldu, a chymeryd Actau yr Apostol- ion yn ei le. Nid wyf yn gallu darllen nemawr ddim y dyddiau hyn ond y Beibl. Yr wyf yn cael blas ar lyfr Dr. Campbell Morgan ar yr " Ysbryd Glân,": hefyd " Open Secret " Dr. Horton, ond y Beibl yn benaf. Pan yn fy ngofid teuluaidd flwyddyn i nawr, methais ddar- llen dim ond y Salmau ac Efengyl Ioan am rai wythnosau. Rhaid fod rhyw gyfaddasder rhyfedd yn yr Hen Lyfr i gwrdd a'r dyfnaf ynof. Nid oes amheaaeth nad yw yn llyfr ysbrydoledig. Yr wyf heno, a'r dyfnaf ynof wedi ei ddeffro, a rhaid i mi gael y Beibl ar ei gyfer— Actau yr Apostolion. Yr wyf wedi treulio gormod o'm heinioes fer i chwilio am brofion o wirionedd Cristionogaeth mewn llyfrau. Mae'r Diwygiad yn dysgu i mi nad wyf wedi byw yn ddigon cadarnhaol. Yr wyf wedi darllen Apologetics yn ddidor, ar hyd y blynyddoedd, a fy meddwl yn cael ei adael yn sigledig o hyd ! Yn He y fath doraeth o ddarllen, dylaswn fod wedi hyw Crist, gan gymdeithasu a'i ysbryd. Dylaswn fod wedi rhoddi prawf llawnach, mwy ymarferol, a pheisonol, ar Grist a'i grefydd drwy eu byw. Mor ychydig o wir ufudd-dod. Mor ychydigo wir ufudd-dod tuhwnt i hunan, a chlod, a byd. Yr wyf yn myned i ddarllen llai a byw mwy. Mae Actau yr Apostolion yn ddigon o Apologetics am íìl o flynyddoedd eto. Mae cael Crist i'r bywyd yn ddigon am dragwyddoldeb.