Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. CORFFENAF, 1908. DYDD-LYFR GWEINIDOG. Gan-----------------------? Nodiadau a ysgrifenwyd yn ystod y Diwygiad o Hydref 1904 hyd Ilydref 1905. 1905. lonawr 2il. Dydd Llun. Yr wyf yn edrych yn ôl ar ddoe a'r Sadwrn mewn pensyfrdandod. Bu cyfarfodydd prydnawn a nos Sadwrn, a ddoe drwy'r dydd. Cyfarfodydd ofnadwy o frwd ar adegau, teimladau lletliol ; bryd arall yn boenus o anrhefnus, afreolaidd, ac ysgafn. Mae Duw a Satan gledd yn nghledd yn nghanol oedfaon grymusaf y Diwygiad. Yr oedd y capel yn orlawn hanner nos—noa Sidwrn. Ni fum erioed yn derbyn y flwyddyn newydd i fewn dan y fatti amgylchiadau. Ar adeg ei dyfodiad i fewn yr oedd oddeutu un- ar-bymtheg ar eu gliniau yn y sedd fawr, a degau yma a thraw ar hyd a lled y capel—a'r teimladau dwysion, dyfnion, yn cerdded fel tonan, neu fel awelon. Saib dawel, yna tòn lifeiriol,—distawrwydd, yna cor- wynt cryf. Yr oedd rhai o'r awelon yn ogoneddus. Mae gwir llyth- renol yn y llinell ' Awel o Galfaria fryn.' Rywbeth tebyg fu oedfaon y Sul ar eu hyd. Dim pregethu. Y teimlad yn angerddol ar adegau. Ond pa beth all fod amcan y brodyr dieithr yma ? Yr oedd tri neu bedwar o honynt gyda ni ar hyd y dydd, ac yn flaenllaw iawn yn mhob cyfarfod. Gallesid meddwl fod holl gyfrinachau yr Ysbryd Glân wedi eu hymddiried iddynt hwy, Cymerais un o honynt o'r neilldu, a dywedais wrtho am fyned adref ! Yr wyf yn cael ychydig o fy mlino heddyw am i mi fod braidd yn llym wrtho. Önd os y pery pethau fel hyn bydd yn rhaid bod yn llymach eto. Mae rhai o'r brodyr hyn sydd yma yn ' cyneu tân ' yn gymeriadau amheus—yn dweyd anwiredd yn ddigon oer, ac yn ddiofal iáwn am daiu eu dyledion, a chredaf fod yn ddyledswydd arnaf en cyfarwyddo adref ! Yr oedd dau neu dri o honynt wedi dianc erbyn oedfa'r itos, a chafwyd gwell trefn ar betbau. Daeth un o gymeriadau iaeìàf; j/\ j^mdogaeth i'r gyfeillach beno, bydd yn ddyddorol gwyliç.ibélUjdàft^*