Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. AWST, 1908. 11x1 ujybrau Äthrylíth. •:-o-:- PRIOD "ANN GRIFFITHS" AC ERAILL. NIS gwyddom i sicrwydd beth yw ystyr y gair " Meifod "— enw un o'r aîdaloedd tecaf yn Mhowys. Yr oedd un gwladwr yn haeru mai y ffordd i esbonio'r gair oedd gwrando ar draddodiad geir yn y fro. Pan oeddynt yn chwilio am le' i adeiladu'r eglwys, clywyd llais clir croyw uwchben yn dweyd " Yma i fod," gm gyfeirio at lecyn neillduol yn y plwyf ; ac yno gan hynny y codwyd y cyssegr ; fel mai ystyr yr enw * Meifod ' mewn gwirionedd, ebe'r ieitheg hon, yw ' Yma i fod.' Prin y derbynid dehongliad fel hyn gan neb ieithydd heddyw. Eraill a ddywedant mai talfyriad yw Meifod o "Meudwyfod,"—gan fod bryn yn yr ardal a elwir yn "fryn yr ancr," ac wrth gwrs meudwy yw ancr,—anchorite yn Saesneg. Tueddir pobl i feddwl mai talfyru meudwyfod i " feufod " a wnaed, gan ei sillebu'n ddiweddar yn Feifod. Gall fod gwir yn y dehongliad hwn. Gydag enwau lleoedd fel hyn, rhaid cyrchu'r esboniad o bell, fel rheol; ac nid cymeryd y peth agosaf i law : a dyna bob amser y gair a swnir yn ein clust yn dod eto,— " philology of sound is not sound philology." Ceir purion engraifft o hynny yn null George Borrow o esbonio'r gair " Portdinorwig," fel hyn—" port of the man of Norway " Afraid treulio amser gydag ieitheg o'r fath yna. Eithr er clywed am Feifod a'i gyssylltiad ac " yma i fod "a"meudwyfod," yr oeddym yn arfer meddwl bob amser fod y gair Meifod yn un lled ddiweddar, ac nas golygai f wy na " Mai-fod,"— iluest ar gyfer Mai: tebyg i hafod = haf-fod—summer residenee. Yn y canoloesoedd ceir Mai o hyd fel pe'n gyfystyr a'r haf ; a phrif fis y beirdd yn ddios ydyw. " Mynwn pes nef a'i mynai, .' ■ " ì Pei deuddeng mis fai mis Mai," mèdd Daîydd ab Öwilym ; ac yn yr irn cywair y cân y lleill i gyd