Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. HYDREF, 1908. Y PUM " IAGO." YN aml wrth ddarllen ac astudio'r Testament Newydd down ar draws yr un enwau ; ond awgryma'r amgylchiadau eu bod yn bersonau gwahanol; ac nid yw peth o'r fath yn rhwyddhau llawer ar ein gwaith o ddeall y Beibl. Ceir tri neu bedwar yn dwyn yr enw ' Ioan;' a phump neu chwech yn gwisgo yr enw ' Mair'; mwy nadauyn cael eu galw yn ' Judas;' a chynifer a phump yn hawlio yr enw ' Iago.' Beth sydd i'w wneyd mewn amgylchiadau fel hyn ? Teimlwn yn fynych y carem gael rhywun wrth law i'n tywys o'r benbleth. Pwy oedd y pum Iago hyn, ac a oes rhywbeth i'w ddweyd am bob un o honynt ? Wel, fe geisiwn fwrw golwg dros yr enwau, a threio deall a oes ryw ffeithiau y gellir eu crynhoi am bob un ; a sut i'w gwahan- iaethu, a dodi pob Iago yn ei le ei hun. I.—IAGO TAD JUDAS. Os troir i Efengyl Luc, y bedwaredd benod a'r 13eg adnod, fe geir hanes Crist yn galw ac yn ethol deuddeg apostol iddo ei Hud ; ac yn eu mysg y mae un o'r enw " Judas brawd Iago," (16eg adnod). Yn awr mae'n ymddangos mai camsyniad oedd dodi yr enw i lawr fel y gwnaed : nid " brawd Iago" ydoedd, ond " mab Iago" mewn gwirionedd. Pan yn cyfieithu'r Testament Newydd o'r Gymraeg i'r Saesneg ymddengys i'r cyfieithiwr ddyrysu ychydig rhwng y Judas hwn ag un arall, sef Judas brawd Iago, ie, ac un o frodyr yr Arglwydd Iesu ei Hun, ran hyny. Yn Meibl Wycliff, ac yn Meibi Tyndale, íe geir yr enw wedi ei argralfu yn wahanol: " Judas a Iago " y mae Wycliff wedi roi i lawr ; " Judas fàb Iago " y mae Tyndale wedi roi. Ond daeth ein cyfieithiad presenol ni o'r Testament Newydd oddiwrth un arall,— un Lladin Beza. Felly dyma i ni'r Iago cyntaf hwn yn dad i un o'r deuddeg apostol. Ychydig iawn yn rhagor a wyddis am dano na'r