Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. GORFFENAF, 1909. Trethiad Gwerth TiroL -------GAN------- MR. W. J. PARRY, BETHESDA. AE'R dirwasgiad masnachol wedi dwyn i'r wyneb y cwestiwn trethol, a chwestiwn y diwaith, cyfiawnder y naill, a'r modd i wella y lla.ll. Hoffai pawb allu myned yn ddidrethiad, ond hyd yn hyn nis gellir ei osgoi ; ond gall y Senedd newid seiliau anghyfiawn y trethiad, a dyledswydd y Llywodraeth i'r Trethdalwr, yw gwneud hyn. Gyda golwg ar gwestiwn y diwaith, nid yw yn hawdd cael gafael ar berson unigol na chorfforaeth sydd yn barod i roi gwaith os na bydd yn troi yn elw, a dyma lle daw ein anhawsder. Yn y rhan yma o'r wlad yr ydym yn ymddibynu i raddau mawr ar y Fasnach Lechi, a hono yn dra isel, a gobeithia llawer ei bod yn ei man gwaethaf ; ond yn bersonol mae arnaf ofn nad yw y gwaethaf arni eto wedi ei weled, a hyny fel canlyniad i'r ddwy Streic fyrbwyll, alaethus a dinystriol yn y Penrhyn. I'm golwg i, y gwir achos am barhad y dirwasgiad masnachol yw ab- senoldeb gofyn digonol am Lechi, ac nid am fod gormod o weithwyr. Y peth sydd wedi dwyn hyn oddiamgylch sydd fater arall. Mae genyf fy marn gadarn ar ol ystyriaeth fanwí o'r fasnach am gyfnod o ddeugain mlynedd, am yr achosion, a phwy sydd gyfrifol am hyn. Ond yn bresenol ni a adawn hyn o'r neilldu, a cheisiwn ddod o hyd i'r hyn sydd yn parhau parlysiad y gofyn. Mae llwyddiant y fasnach adeiladu yn dwyn perthynas agos a llwydd- iant masnachoedd eraill, megis,—dodrefn, paentio, plymio, toi, mwnglodd- io, cludo, a Llechgloddio. Os trwy gyfreithiau drwg, a threfniadau trethol gorthrymus, y gwesgir yn anheg ar y fasnach adeiladu, yr ydym yn cyn- i ,orthwyo i ddwyn cyfyngder ar nifer fawr o fasnachau eraill. Hyn y mae y . trefniad trethol presenol yn ei wneud. . Mae pob masnach, yn mhob gwlad, yn dibynu mewn rhyw ffordd neu gilydd ar y cyfleustra i ddod ar y tir,—rhai yn uniongyrchol, megis i Amaethyddiaeth, Mwnyddiaeth, Adeiladaeth, Chwarelyddiaeth, a Choed- blaniaeth ; ac eraill yn dibynu yn anuniongyrchol, megis Gwehyddiaeth, Pilladaeth, Pobyddiaeth, a Maeliaeth. Gan fod cyfleusdra i ddod'ar y tir