Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GBEAL. TACHWEDD, 1855. DEONGLIAETH.-EFUGYRAU ¥ BEIBL. RHIF xiir. Y Bannoo Ho, He, To=Yr, Y. Un achos o anwybodaeth mewn Beirn- iadatth Beiblaidd, yn gystal ag o an- mheifFeithrwydd a chanoligedd mewn ysgolheigdod cyffredin, ydyw esgeulns- dra efrydwyr i graffu gyda niwy o fanyl- dra ar beth y gellir edrych arno yn nihlith " pethau lleiat'" dysgeidiaeth; sef arwyddocâd y geiriau bychain mewn iaith, y rhai, o herwydd yr aingylchiad hwnw yn unig, nid ydyntyn derbyn y sylw dyledus ag y mae pwysigrwydd eu hystyr yn galw ain dano. Bod gwybod- aeth glir, gynnilfryd, a diamwys o ystyr y geiriau mwyaf mewn iaith, y rhai sydd yn perthyn i'r Rhanau ymadrodd a ys- tyrir yn fwyaf arbenigol, megys yt Enw, y Ferf, a'r Ansoddair, yn bwysig a gwir anghenrheidiol, nid oes neb yn ammheu ; eto, pebyddemyngwybod y dirgelionoll, ac yn meddu yr holl wybodaeth,o berth- ynas i ystyr ac arwyddocâd y geiriau mwyaf cymhleth a cnyfaiisawdd yn yr iaitn,—pe byddai pob meddylrith a syn- iad y mae pob Enw a Berf, mewn un- rhyw dafodiaith, yn eu cynurychioli, inegys ar flaenau ein bysedd,ni byddem, wedi'r cwbl, yn meddu yr hawl eiddilaf i'r anrhydedd o gael ein cyfrif yn mhlith Deonglwyr a Beirniaid dysgedig, tra na hyddom yn meddu ond adnabyddiaeth ganolig ac anmherffaith o ystyron geir- iau perthynasol iaith, megys y Bannod, yr Arddodiad, Cyssylltiad, ac felly yn mlaen. Gallem fod yn gydnabyddus, heb hyny, âg arwyddocâd prif elfenau yr yinadrocld neu y frawddeg—galletn feddu dirnadaeth o ystyron y geiriau y dichon y rhan fwyaf o ddarllenwyr roddi arben- igrwydd iddynt; ond, er y cwbl, oddi- eithr bod genym syniadau eglur a gwa- haniaethol o'r lleilí, gallem aros yn hollol anwybodus o berthynasau a chysylltiad- au y syniadau hyny, a'r modd y mae y Haììl yn dibynu ar y llall. Un achos, yn mhlith lliaws, sydd yn peri fod anhawsder yn gyssylltiedig â chyfìeithiad o unrhyw iaith i'r eiddotn e'n hunain, yw, bod geiriau, y rhai a J»tyrir megys cyfystyrolion, ac yn perth- yn i'r un Rhan ymadrodd, yn gwahan- iaethu mewn rhyw bethau. Yn mhlith y dosbarth hwn, y mae y gair a ddodas- om uwch ben yr ysgrif hon, sefy Bannod Groeg. Y mae hwn yn meddu ystyr llawer helaethach na'r Bannod Cymreig Y neu Yit, yr hwn, yn gyffredin, a olygir yn gyfystyiol iddo. Ni a gyfyngwn ein sylwadau arno yn unig i'r arferiad o hono yn yr Ysgrythyrau; ond yn fwyaf nei'.lduol yn y Testament Newydd. Y maey defnydd o'r Bannod, gan hyny, yn ia th gysst-fiii yr Ysgrythyr Lân, yn rhoddi i'r Enwau sydd yn ei ddilyn ystyr Briodol, Arddangosol neu Arbennodol, Cyt'enwadol, ac Arbenigol. I. Y Bannod yn troi Enw yn Briodol. Y mae gosod y Bannod o flaen Eowau cyffredin, weithiau,yn eu troi yn Enwau priodol, neu i'r un ystyr ag Enwau pri- odol. Enwan priodol, fel y gŵyr Gra- madegwyr, ydyw enwau uniyoíion, neu y sawl sydd yn perthyn i un gwrthddrycfr yn unig; felly, y mae rhyw briodoledd- au, gweithredoedd, neu orchestion yn gyfryw ag sydd yn perthyn i ryw unig- j oliou, a hyny yn gwbl neu mewn rhan ; ac y mae gosod y Bannod o flaen yr I enwau sydd yu dynodi y cyfryw briod- | oleddau neu weitliredoedd, yn en cyf- \ yngu i uuigolion; ac, o ganlyniad, yn ; eu gwneuthur yn Enwau priodol. Felly, pan ddywedai y Groegiaid Ho poicte^ y j Bardd, deallid mai Homer a olygent; yr i Areithydd a olygai Deinosthenes; a'r Daearyddtor oedd Strabo. Yr un inodd, yn tnhlith Cristionogion, ko baptistcs, y Bedyddiwr, ydyw Ioan, mab Sacharias ; ho prodotes, y Bradwr, a olyga Iudaa Iscariot; ho poneros, y Drygionus, sydd enw priodol i'r Diafol ; ho paraba- tes, neu ho apostutes, y Gwrthgiliwr, yd- yw Julian yr Ymerawdwr. Yr un modd, y Ffydd, a olyga y grefydd Gristionogol; yr íachawdwr, yr lesu, y Messiah, yr Enneiniog, ydynt enwan a briodolir yn unig i uit Ferson; ac, am y rheswm hwnw, y maent i'w hystyried megys Enwau priodol.