Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEEAL. IONAWR, 1865. GWAITH ESGOB YN CAEL EI YSTTEIED MEWN PREGETH A DRADDODWYD I FYFYRWYR ATHROFA LLANGOLLEN. AR DDYDD EU CYFARFOD BLYNYDDOL, AWST 17EO, 1864. ffîan 2 $arctj. U. Joneö, ftlanllBfnú "Gwir yw ygair, od ywnebyn chwenychswydd esgob, gwaith da y mae yn ei chwenych."—1 Tim. iii. 1. Y mae pob swyddog a phob aelod yn eglwys Dduw yn meddu ei waith. Nid oes yr un swyddog segur, na deiliad segur yn perthyn i'w deyrnas. Dwy swydd sefydlog a berthynant i deyrnas Crist—y ddwy swydd hyny yw esgobion a diaconiaid. Y mae deoniaid, canoniaid, ficeriaid, ac offeiriaid, yn bethau cwbl ddyeithr i'r Testament Newydd. Dwy swydd yn unig y mae y Testament Newydd yn son amy cymhwysderau anghenrheidioî i'w llenwi, na'r dyledswyddau gofynol ynddynt. Y swydd flaenaf, uchaf, a phenaf yn eglwys Crist yw swydd esgob, sef yr athraw a'r bugail Cristionogol. Wrth "esgob" yn y wíad hon y golyga llawer y boneddigion hyny sydd yn bugeilio bugeiliaid yr eglwys wladol. Y mae y gair esgob (episcopos) yn arwyddo arolygwr; y mae yn enw priodol i henuriaid neu hen weinidogion yr eglwys, oblegyd y gofaí pwysig sydd arnynt i wylio dros eneidiau. Y mae'r apostol wrth annerch henuriaidEphesus, yn dy wedyd fel hyn:—" Edrychwch gan hyny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwyr." (Act. xx. 28.) Yn awr fe wyr pob dyn a wyr y pethau lleiaf am yr iaith wreiddiol, mai y gair a gyfieithir yn olygwyr yn y geiriau uchod yw gair am esgobion yn mhob man y coffheir y gair ; gan hyny, onid yw yn eithaf eglur mai yr un rhai yw henuriaid ag esgobion yn meddwl Paul ? Nid oes dim modd fod dim yn fwy eglur ac anwrthwynebol. Gallesid cyfeirio at fanau ereill yn y Testament Newydd y rhai ydynt yn llawn mor benderfynol, ond gan nad oes neb o'r Bedyddwyr mewn un ammheuaeth ar y mater, nid oes eisieu ymhelaethu. Oddiwrth y testyn, ar yr achlysur pwysig y daethom yn nghyd, ymdrechwn draethu ychydig am waith esgob, gydag ychydig o gyfarwyddiadau ac annogaethau i gyflawni y gwaith. I. Ymdrechwn i roddi golygiad byr am waith esgob. Pan y meddylioch am esgob, meddyliwch am weithiwr caled. Y mae lle i ofni fod mwy yn fynych o ymofyn am swydd esgob, am anrhydedd, ac am le esgob, nac sydd o ymofyn gwirioneddol am waith esgob, sef y gwaith priodol a berthyna i'r swydd bwysig hon. Gobeithiwn y bydd i'n gwyr ieuainc, pan yn gadael yr athrofa, yn ymofyn am waith, ac nid yn ymofyn lle i fyw, neu le i segura. O barth y gwaith hwn,— 1. Y mae gwaith esgob yn waith anrhydeddus a phwysig. Y mae yn waith digon urddasol a phwysig i'r angel uchaf yn y nef. Nid oedd pregethu yr efengyl yn ddarostyngiad i Fab Duw ei hun. Ni ymddiriedwyd gwaith mwy pwysig i un creadur o dan y nef. Y mae effeithiau tymhorol a thragywyddol y gwaith hwn yn ardderchocach na dim a effeithir trwy unrhyw waith. Parotoi eneidiau i ddedwyddwch diddiwedd yw prif amcan y gwaith hwn. Casglu llafur enaid Iesu i fynwes Iesu: datod gweithredoedd y diafol, a dileu pechod a'i effeithiau. Y mae yn effeithio mwy ar ddedwyddwch tymhorol y byd na phob peth arall gyda'u gilydd. Beth yw y príf foddion a gyfododd Brydain i'w gogoniant presennol ond llafur ei hefengylwyrî beth a gyfododd Gymru i'r peth ydyw yn awr? ymdrech hunanymwadol ei phregethwyr ymneillduol yn benaf, y rhai a lafuriasant yn ffyddlon o dan bob dirmyg ac anfanteis- ion: ond ei heffeithiau tragywyddol yn y byd arall yw ei heffeithiau 'anfeidrol. Pan fyddo gwaith pob celfyddydwr wedi myned ar dân, aholl gerfiadau a chywrain bethau y ddaear wedi diflanu, fe fydd argraff ac effaith gwaith y pregethwr èfengylaidd yn ymddysgleirio yn mherlau gogoneddus palas Duw yn oes oesoedd. 2. Y mae gwaith esgob yn waith gofalus ac anhawdd. Gwaith ysbrydol ydyw: gwaith yn ymwneyd â Duw ac âg eneidiau dynion. Y mae y cenadwr Cristionogol yn sefyll