Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GRÊAL. CHWEFROR, 1865. CYFADDASRWYDD YR EEENGYL I DDYN. dSan Habflj Uobtrtt, (Helta,) îLerptol. Y mae dyn yn fôd anghenus iawn; y mae llawer o bethau yn oíynol eu cael at ddiwallu anghenrheidiau y corph, er mai yn lled brin y mae y rhai hyn yn dyfod i afael llawer un: ond y mae y meddwl yn ymofyn, ac mewn anghen am bethau llawer mwy sylweddol, a llawer mwy eu parhad na'r corph. Y mae y byd yma yn cynnyrchu pethau at ddiwallu anghenrhéidiau y corph, ond nid yw yn alluog i lanw meddwl dyn; y mae rhyw beth yn eisieu o hyd yn y meddwl er cael llawer o bethau y byd hwn. Ond dyma efengyl y tangnefedd yn gwynebu ar ddyn, ac yn llanw ei anghenion ysbrydol; y mae yn ogoneddus gyfaddas ar gjŵr cymmeriad, amgylchiadau, ac anghen dyn. Cymmerwn yr olwg a fynom ar yr efengyl, y mae yn cyfateb yn Uawn i'r hyn y darparwyd hi, yn ei bendithion, ei hamlygiadau, a'i dybenion. Y mae yn gwynebu ar ddyn fel bôd ysbrydol, ac yn darparu ar ei gyfer fendithion ysbrydol, y rhai yn unig a allant ei wneyd yn fôd dedwydd. Y mae yn annerch dyn fel bôd deallgar, moesol, a gweithredol. Y mae rhai o wirioneddau yr efengyl wedi eu cyfaddasu i ddylanwadu yn fwy neillduol ar y gydwybod er ei hargyhoeddi, pan y mae ereill o honynt yn ymwneyd â'r galon er ei moêsoli; y maent ôll yn addas i'r dybenion gor- uchel a nefolaidd y darparwyd hwy iddjTit. Pan y gweithreda y gwirioneddau hyn yn briodol ar ddyn, y maent yn gadael effeithiau moesol arno. Y mae y llygredigaeth ag sydd wedi meddiannu dyn i'w weled yn ei anewyllysgarwch i dderbyn cyfarwyddiadau da, ac yn anmharodrwydd ei serchiadau at ddim ag sydd yn rhinweddol. Y mae pob tuedd ag sydd mewn dyn wedi myned yn hollol groes i bob daioni, am hyny y mae yn rhaid ei gyfnewid, a rhaid i'w serchiadau a'i ddeall gael eu hadnewyddu, cyn y gellir dysgwyl trefn arno fel bôd moesol. Pan y bydd Ysbryd Buw fel goruchwjîiwr mawr yn dwyn y gwaith rhyfedd, a'r cyfnewidiad gogoneddus yma oddi amgylch, y mae yr efengyl yn gyfaddas'íel oíferyn yn llaw Duw, i ddwyn y gelyn yn gŷfaill, a'r hwn oedd yn farw yn fyw drachefn. Y mae gwerth yr efengyl yn ymgodi oddiar ei chyfaddasrwydd, a chyflawnder y trysorau a'r bendithion anfeidrol sydd ynddi ar gyfer anghen a thrueni y natur ddynol. Dywedir fod yr efengyl fel y cleddyf yn meddu cymhwysder i dori pan yn gorwedd yn llonydd. Y mae yr argraff yn cael ei wneyd ar y cwyr gan y sel, ond er hyny rhaid cael y gwres. Y mae yn natur dyn duedd i addoli, ond wedi y cwymp moesol, y mae icedi myned yn anwybodus am wir wrthddrych addoliad. Y mae enaid dyn wedi cael ei feddiannu gan gaddug o dywyllwch ac anwybodaeth, fel nad ydyw yn adnabod dim yn iawn, nac yn canfod pethau fel y maent, nid ydyw yn mwynhau dim gwir gysur, ac nis gwyr i ba le y mae yn myned. Y mae dyn wrth natur yn dywyllwch, ac yn rhodio yn y tywyllwch. Y mae anwybodaeth, cyfeiliornadau, ac ymbellhau oddiwrth Dduw wedi dyfod yn etifeddiaeth í ddyn trwy bechod; ond y mae'r efengyl yn rhoddi goleuni eglur ar bob peth sydd werthfawr iddo fel creadur rhesymol a chyfräol i Dduw am ei ymddygiadau yn y byd yma, a'r canfyniadau yn y byd a ddaw. Dengys bob peth anghenrheidiol iddo ei wybod am briodoliaethau a líywodraeth y Bôd mawr, sefyllfa a ehyflwr dyn, y ffordd i ddyn dderbyn cymmeradwyaeth Duw, natur dedwyddwch dragywyddol; gwneir y dyn yn rhydd oddlwrth y tywyllwch caddugawl yr oedd ynddo o'r blaen. Mawr yw y llawenydd a deimlir yn y fjTiwes, pan y llewyrcha goleuni yr efengyl i'r ystafelloedá tywyll ac anwybodus, ac y gyr y tywyílwch, yr ammheuon, a'r ofnau i gerdded, er rhoddi lle i oleuni a gwjrbodaeth i gartrefu yno yn eu lle. Ni bydd y dyn mwy yn crwydro yn ei feddwl, mewn sefyllfa ofidus, ammheus, ac anobeithiol. Ÿ mae y tywyllwch hanner nos, a'r anwybodaeth oedd yn gordoi ei feddwl, wedi rhoddi eu lle i argyhoeddiadau, goleuni a gwybodaeth; y gofidiau oedd yn trj^wanu ei holl enaid, wedi jTnadael, a gobaith da trwy ras yn tejrnasu yn eu lle. Ni bydd y dyn mwy fel tònau y môr yn cael eu taflu yma ac acw, gan bethau annjrmunol a jTnwthiant i'r meddwl. Y mae gwirioneddau yr efengyl yn eu goleuni eu hunain wedi eu derbyn ganddo ; y mae yn gweled pethau na fuasai rheswm cnawdol byth yn gallu eu dangos iddo; y maent yn rhoddi y fath gymhelliadau gogoneddus at y