Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEEAL. MAI, 1866. TRAETHAWD AR AMSERYDDIAETH A CHYNNWYSIAD LLYFRAU PROPHWYDOL YR HEN DESTAMENT. €?an ÿ ÿarclj. $, Jones, îLlantWtn. " Kfe (Duw) a anronodd atynt hwy brophwydi, i'w troi hwynt at yr Arglwydd."-EsRA. " Ac y mae genym »ir ÿcrach y prophwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, fel ar ganwyll yn llew- yrchu mewn lle tywyll, Iiyd oni wawrio ydydd, ac oni chodo y sereu ddydd yn eich calonau chwi."—Pedr. Dosbarthai yr Iuddewon yr Hen Destament i y Gyfraiíh, y Prophwydi, a"r Salmau; (Luc xxiv. 44.) ond y dosbarthiad mwyaf cyíFredin o hono yn awr ydyw i y Pum' Llyfr, gan Moses, y Llyfrau Hanesiol, y Llyfrau Bardd- onol neu Ymarferol, aW Llyfrau Prophwydol. Y Uyfrau prophwydol priodol ydynt y rhai hyny o Esaiah hyd Malachi, yn cynnwys un ar bymtheg, wrth gyfrif Galarnad Ieremiah fel attodiad i'w brophwydoliaethau. Gelwir y rhai hyn yn brophwydol am mai prophwydoliaethau, neu ragfynegiad o ddygwyddiadau dyfodol, ydyw prif destyn eu liymdriniaeth, er y cynnwysant weithiau, rai darnau hanesiol ac ymarferol. Ar gyfrif maint eu hysgrifeniadau, gelwir y pedwar cyntaf yn Brophwydi mwyaf, a'r deuddeg diweddaf yn Brophwydi lleiaf. Mae canwyll ddwyfol gwir brophwydoliaeth wedi bod yn goleuo yn llaw yr Ysbryd tragywyddol, ac yn tafìu ei llewyrch gwan ar dywyllwch moesol ein planed, bron yn mhob oes o'r byd, o ddechreunos trueni dyn, hyd oni wawriodd y dydd, ac y cyfododd " Haul Cyfiawnder, a meddyginiaeth yn ei esgyll." Yr oedd gan Dduw ei brophwydi yn y byd, yn awr ac yn y man, o Adda hyd Samuel, ac o Samuel hyd Solomon, ond nid oes un o brophwydi y cyfnodau hirfaith hyn wedi gadael cymmaint ag un Uyfr prophwydol ar ei ol; ac nid yw amseriad y llyfrau sydd genym dan sylw yn dechreu hyd yn agos i gant a hanner o fiynyddoedd ar ol Solomon; ac y maent oll gyda'u gilydd, yn ymestyn dros gyfnod o bedwar can' mlynedd, yn dechreu tuag wyth can' mlynedd, ac yn diweddu tua phedwar can' mlynedd cyn Crist. Mae y testyn sydd genym dan sylw, yn ol y geiriad uchod o hono, yn ymranu yn naturiol yn ddwy ran—amseryddiaeth a chynnwysiad y llyfrau prophwydol; ac yn y drefn hon y cawn sylwi arnynt. AMSERYDDIAETH Y LLYFRAU PROPHWYDOL. "d consideration of the chronological order of the prophetic writings will often suggest important instructions."—Nicholls. "Much of the obscurity, which hangs over the prophetic writings, may le 13