Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GREAL. GORPHENAF, 1878. NODION AR Y SWYDD DDIACONAIDD, SEILIEDIG AR ACT. VI. 3. GAN Y PAROH. J. JONES, LLANRWST. Y mae yn perthyn i eglwys Dduw, fel pob cymdeithas neu sefydliad arall, amryw a gwahanol swyddau i'w llanw a'u cyflawni gan ddynion cymhwys a chyfaddas iddynt. Ymddengys fod y cyfryw swyddau yn lliosocach ar y dech- reu nag ydynt yn awr; y pryd hyny yr oedd galw am rai o honynt, nad ydynt erbyn hyn yn anghenrheidiol. Dyru Paul yn ei epistol cyntaf at y Corinthiaid, ddarnodiad cryno o honynt yn ol eu trefn a'u safieoedd. 1. Apostolion. Dyma brif swyddwyr yr eglwys,—dynion wedi eu galw yn ddi- gyfrwng gan Grist ei hunan. Y maent hwy yn agosaf ato ef fel Brenin Seion, o ían eu hurddas a'u hawdurdod, "Yn eistedd ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel." 2. Prophwydi. Dynion dan Ddwyfol ysbrydoliaeth yn rhagfynegi dygwydd- iadau dyfodol; neu gall olygu rhai yn pregethu y gair. 3. Athrawon. Prif orchwyl pa rai oedd addysgu y bobl yn elfenau y grefydd Gristionogol. Yna gwyrthiau, sef dynion wedi eu donio â gallu i wneuthur gwyrthiau. Wedi hyny doniau i iachâu, trwy roddi dwylaw ar y cleifion, a gweddio drostynt. Cynnorthwyau. Tybia rhai mai cyn- northwywyr yr apostolion a feddylir wrth hyn, pa rai a fedyddient y dychweledig- ion, ac a anfonid ganddynt i bregethu i'r öianau nas gallent fyned eu hunain. Llywodraethau. Tybia rhai mai gwein- yddwyr dysgyblaeth a olygir yma, tra y myn ereill mai dynion wedi eu donio â meddyliau dwfn a threiddgar a feddylir, a'u bod felly yn rhai doeth a synwyrol i 19 drin a thrafod holl faterion yr eglwys yn gyffredinol. Rhywiogaethau tafodau, sef gallu i lef- aru ieithoedd nad oeddynt wedi eu dysgu yn mlaen llaw. Dyna y gwahanol swyddau a ddelid i fyny yn yr eglwys ar y dechreu, a myn rhai eu bod yn parhau yr un modd o hyd ; dadleuant fod y swydd apostolaidd felly yn awr fel o'r blaen. Ceir o'n hamgylch fodau ffaeledig fel ninnau, nad yw gywilyddus ganddynt alw eu hunain yn olynwyr yr apostolion; ond gwrthun i ni yw y fath ymhoniad hunanol a thra- haus. Mae yr hen apostolion a ddewisodd Iesu ei hun, er wedi m'arw, yn llefaru eto; ac felly, nid oes eisieu olynwyr iddynt. Gwell genym ei ddau epistol i gynnrychioli Pedr na gorsedd y Pab yn Rhufain, a'r un modd yr hyn a lefarwyd, yr hyn a wnaed, ac a ddyoddefwyd gan y lleill. Peth arall a weithredid yn yr eglwys ar y dechreu sydd wedi ei attal yn awr yw, y gallu gwyrthiol. Y pryd hyny yr oedd anghen am dano er proíì Dwyfoldeb y grefydd Gristionogol, er dangos mai o Dduw yr ydoedd ac nid o ddynion ; ond mwyach nid oes ei eisieu, oblegyd mae y cofnodion a geir yn y gair o'r hyn a wnaed y pryd hyny, yn brawfion digonol i'r un perwyl yn awr. Nid oes ar yr hwn a dderbynia y Beibl fel llyfr Duw, eisieu ychwanegi'wlwyr argyhoeddi mai Dwyfol, ac nid dynol yw crefydd Crist. Y prif swyddau a arosant yn eglwys Dduw yw yr un weinidogaethol a'r ddi- aconaidd. Mae y ddwy hyn o'r fath bwys, fel ag y dylai Cristionogion yn gyffredinol ymdrechu eu hystyried a'u