Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

• Y GEEAL. RHAGFYR, 1878. DYDDORI MODDION GRAS, GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, MOUNTAINASH. Hhaid i eglwys Dduw wrth foddion gras er ei gwneyd yn eglwys rasol, ac i gadw ei lle a'i henw yn deilwng yn y byd. Gras Duw a'i gwnaeth hi yn eglwys i Dduw yn y byd, ac y mae efe wedi darparu moddion gras ar gyfer ei hanghen ■wrth deithio trwy y byd. Moddion gras yw ei bara beunyddiol er ei chryfhau i'w gwaith, a'i ífynnonau adfywiol i'w-had- loni wrth deithio dylfrynoedd llychlyd a rhiwiau gorserthog. I gyfiawni gwaith mawr a phwysig fel eiddo eglwys Dduw, rhaid wrth fwyd iachus a diod bur, ac heb waith digonol i dreulio, buan yr eir i flino ar fwrdd goreu moddion gras, fel yr Israeliaid ar y manna. Mae Duw yn trefnu cydbwysedd yn mhob cylch— ymborth er cymhwyso i lafur, a llafur er rhoddi blas ar yr ymborth. Bei'ir y wledd weithiau, pan mae'r diffyg ar y cylla, a hyny'n aml o ddiffyg ymarfer- iad. "Y llawn a sathr y dil mel." Teb- ygol y byddai moddion gras yn fwy dyddorol i lawer, pe byddai mwy o waith ac ymarferiad grasol yn cael eu cyflawni. Mae darllen y gair a'i fyfyrio, a gweddio yn y dirgel, yn foddion gras personol i'r Cristion. Byddai ymarferiad ffyddlon o'r moddion hyn yn debyg o'u gwneyd yn fwy dyddorol i'r ymarferwr, ac yn sicr o wneyd y moddion cyhoeddus yn fwy dyddorol hefyd. Mae darllen yr Ysgryth- yrau a gweddio yn y teulu, yn foddion gras teuluaidd, wedi ei brofi yn dra gwerthfawr i eglwys Dduw erioed. Mae cynnaliad ffyddlon a doeth o'r gwasanaeth crefyddol yn y teulu, yn debyg o ddwyn rhai ffrydiau gwerthfawr i gronfa'r modd- ion cyhoeddus. Tebygol fod modd dydd- ori llawer ar y gwasanaeth crefyddol yn 34 y teulu mewn llawer man, lle mae ychyd- ydig o allu a chymhwysder, trwy roddi" egluriadau byrion ar ranau o'r Beibl ar adegau, a pheidio arfer meithder gormod- ol a llawer o unffurfìaeth. Ond moddion mwy cyhoeddus yr eglwys oedd genyf mewn gòlwg wrth gychwyn, ac at hyny yr amcanaf arwain y darllenydd. Mae cystadleuaeth fawr y dyddiau hyn yn y byd crefyddol, fel yn y byd naturiol —pob plaid grefyddol am wneyd ei hun yn enwog, ac er mwyn bod yn enwog, yn ymestyn i fod ar y blaen mewn dyddordeb. Gellid tybied ei bod yn rhedegfa gréfydd- ol yr oes hon. Gresyn na byddai'r holl rai sy'n rhedeg mor awyddus am y blaen, yn gosod nod y gamp yn mhellach draw— cyrchu at Grist, yn lle at ddyn. Y blaid buraf, mae yn bossibl, yw yr olaf mewn ymdrech i fod yn ddyddorol, fel pe yn ymwybodol o ragoroldeb ei nwyddau, eu bod yn hunangymhellawl. Diau nad oes eisieu addurno'r gwirionedd ei hun, i'r neb sydd am ei feddu, oblegyd addurn penaf dyn ydyw'r gwirionedd ; ond y mae eisieu iddo gael chwareu teg i ddangos ei hun fel y mae yn yr Iesu. Gellir gosod allan fasnachdy y nwyddau goreu mor afier, nes colli llawer o gwsmeriaid da. Nid oes eisieu myned tu faes i'r gair, a'r Ysbryd Glân, a synwyr cyffredin, i geisio dim i wneyd moddion gras yn ddyddorol. Ar yr hen butain o Rufain y mae eisieu yr addurniadau allanol, i guddio y rhych- au ffiaidd sydd ar ei gruddiau hagr! Pethau meirw sydd eisieu eu gwisgo; mae pob peth byw a'i wisg yn tarddu o hono ei hun, a hòno yn brydferth. Pa fwyaf Beiblaidd y byddo moddion gras, mwyaf prydferth a grasol ydyw. Sain -S