Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GREAL. MEHEFIN, 1879. DIGIO YN BRIODOL GA.N Y PARCH. J. LLOYD, MERTHYR TYDFIL. Gan ein bod yn aml yn annhrefnus *&wn gyda hyn, feallai y bydd ychydig o ^odiadau ar y pwnc yn fuddiol er cyn- lorthwyo eìn gilydd. Nid yw digio yn- ddo ei hunan yn bechod, ond rhinwedd, Pan y bydd galwad am hyny. Yn aml, Jr ydym yn cael fod yr Arglwydd yn dangoa anfoddlonrwydd at yr hyn sydd yn ddrwg; ac y mae y gallu a gafodd dyn gan ei Grewr, idd ei ddefnyddio pan y bydd anghen, yn y camddefnydd a wneir û hono y mae y niwaid. Yr un modd y taae ein gwahanol alluoedd, pan yn cael Gu camddefnyddio, yn cael eu troi i fod yn arfau annghyfiawnder i bechod. Ym- ofynwn ynte pa fodd y mae digio heb bechu. Byddwn yn ymwneyd â dynion J'n ol eu gwahanol gyssylltiadau teuluol, Cymmydogaethol, a chrefyddol. Rhaid i'r digofaint ddeilliaw oddiar Sgwyddor santaidd, egwyddor sydd yn groes i ddrwg, fel y mae yn ddrwg, lle bynag y byddo—yr un egwyddor oddiar ÿr hon y dangosa y Duw pur ei anfodd- lonrwydd at bechod. Gwelir yn aml ddigofaint yn dyfod i'r amlwg oddiar Cgwyddor wahanol; digia y meistr wrth ei was pan y bydd ei ymddygiad yn groes idd ei feddwl a'i deimlad ef, pan na wneir Sylw o'r un trosedd yn erbyn rhyw un irall. Digia y rhieni wrth eu plentyn, *iid oblegyd fod ei drosedd yn tori y ddeddf sydd yn ei rwymo mewn ufydd- dod iddynt, ac felly yn bechod yn erbyn ì)uw, ond oblegyd fod eu teimladau hwy ar y pryd yn cael eu clwyfo. Digia y brawd crefyddol wrth frawd arall, os bydd y trosedd yn ei erbyn ef ei hunan, Heu ei berthynasau, neu rhyw gyfeillion agos ac anwyl, ond yr un drwg yn erbyn 16 rhyw rai ereill, ni wna sylw 0 hono. Yn awr, nid egwyddor santaidd sydd yn cael ei dangos yma, ond balchder, hunanoldeb, ac hunanles—yr egwyddor ddinystriol a ddaeth i'r byd gyda phechod, sydd yn gwneuthur y fath niweidiau yn y byd moesol, yn cymmylu yn aml, a rhwygo cin gwahanol gymdeithasau. Os digio heb bechu, rhaid edrych ar y drwg fel y mae yn ddrwg, yn ei natur a'i cffcithiau, lle bynag y byddo. llhaid hefyd peidio bod yn rhy barod i ddigio. Gellid meddwl wrth sylwi ar rai dynion, eu bod braidd yn chwilio am le i ddigio, gan mor barod ydynt i ddangos eu hunain ar y tir hwnw, ac y mae yn rhaid bod yn ofalus pa fodd i ymwncyd â hwy, onide ceir teimlo yn fuan eu cyn- ddaredd. Canmolir tymherau gwyllt gan ddynion, o herwydd tawelant, meddant, yn gyffredin yn gynt na thymherau araf. Da yw cael tawelwch buan ar ol storm arw, ond iawn bach yw hyny i ddyn roddi idd ei gymmydog, wedi iddo ei niweidio yn ei berson, neu ei amgylchiadau, neu sathru ei gymmeriad yn y gymmydog- aeth. Na, os digio heb bechu, rhaid bod yn bwyllog, peidio bod yn rhy barod i dramgwyddo at bethau bychain, a'u gwneyd yn fynyddau mawrion o'i flacn. Byddwch ymarhous frodyr. Yn mhellach, rhaid peidio digio mwy na fydd y trosedd yn ofyn. Nid ydym yn aml mor drefnus yn hyn ag sydd yn ofynol. Yn awr, y mae graddau mewn gwahanol droseddau, a gwahaniaeth yn eu tueddiadau. Bydd un trosedd yn erbyn rhyw berson unigol, a'r Uall yn tueddu i niweidio cymdeithas o bobl; bydd un, efallai, yn fwriadol, a'r llall yn