Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GREAL. MEDI, 1879. Vr anghenrheidrwydd am ddylanwad yr ysbryd glan. GAN í PARCH. W. E. WATKINS, PEMBREY. Dyma. bwnc sydd wedi cael traethu ^rno lawer gwaith, mewn llawer modd, Synt gan y tadau, a chan lawer yn ein ^yddiau ni. Mae awydd ynom ninnau i ÿsgrifenu ychydig arno, nid oblegyd y Çallwn ysgrifenu dim yn newydd arno, °nd gan hyderu y gallwn gynhyrfu yr Sglwysi i deimlad mwy unol, nes ymuno >'n gyffredinol am deimlo ei ddylanwad ÿn fwy nerthol y dyddiau marwaidd hyn. &Iae dau beth yn ein plith yn dangos y *nawr anghen am fwy o ddylanwad yr Ysbryd y dyddiau hyn, sef, sefyllfa farw- tidd a diwaith yr eglwys fawr efengylaidd, ÿn nghydag agwedd difywyd a phechadur- Ut dynion y byd. Nid ydym yn meddwl wrth ddweyd hyn fod pob trigfa o fynydd §eion l'elly ; oblegyd mae ambell i le yn ẁwynhau llawer iawn o ddylanwad neill- duol yr Ysbryd Glân, tra mae ereill yn &mddifad iawn o hono; ond cymmerwn yr eglwys efengylaidd fel cyfangorph yn bresennol o dan ein sylw. Mae rhai add- ewidicm mae yn wir wedi eu cyflawni yn barod i'r eglwys mewn cyssylltiad â'r Ysbryd Glân, ond credwn fod ereill eto heb gael eu cyflawni yn gyffredinol. Mae *hai prophwydoliaethau eto heb ddyfod i ben o barthed i'r Ysbryd, a gwyddom fod cytiawnder o hono mewn addewid, a mwy ì gael ei deimlo a'i fwynhau eto gan eg- Iwys Dduw. Gwaith yr Ysbryd ydyw argyhoeddi y Ijydwybod, goleuo y deall, a throi y feechadur o gyfeiliorni ei ffordd. Tra y byddo pechadur annghrediniol yn y byd, M fydd yr Ysbryd wedi gorphen ei waith. Y mae addewidion i genedl gael ei geni 25 mewn un dydd, i'r hen genedl gael ei dwyn adref i Ganaan, ei himpio i'w hol- ewydden ei hun, cyflawnder y Cenedloedd i ddyfod i mewn, &c, yr hyn sydd heb ei gyflawni eto; ac mae yr oll, i'n tyb ni, yn dangos fod mwy o ddylanwad yr Ysbryd eto mewn ystor, neu i'w ddysgwyl, nag sydd wedi ei deimlo ar y llawr. Mae ag wedd Seion y dyddiau hyn mewn llawer man yn dangos fod mawr anghen am yr Ysbryd Glân. Ni all dim ond hyn fod ar ol, oblegyd mae cystal gwein- idogaeth o ran natur a chynnwysiad, a dyfnder a gwreiddiolder meddylddrychau, yn awr, os nad gwell nag a gafwyd erioed; ond nid oes dim cymmaint o'r enneiniad yn cael ei deimlo mewn llawer Ue, na chymmaint o'i effeithiau i'w weled mewn llawcr man. Mae cymmaint o ddawn ac athrylith yn mysg ein gweinidogion parchus ag a fu erioed, ond nid oes gen- edigion newydd yn Seion ; felly rhaid fod rhy wbeth allan o'i le, a'r rhywbeth hwnw, credwn, yw, nad oes gymmaint o ddylan- wad yr Ysbryd yn cael ei deimlo yn awr ag yn y dyddiau gynt. Na ddigalonwn, oblegyd Mae gyda ni addewidion am dano. '* Ty- walltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir," meddai Duw trwy y proph- wyd Esaia. " Tywalltaf o'm Hysbryd ar bob cnawd," meddai trwy Joel. " A. thywalltaf ar dý Dafydd, ac ar breswyl- wyr Jerusalem, ysbryd gras a gweddiau," meddai trwy y prophwyd Sacharia. Ym- adroddion íhgyrol a phrophwydoliaethol yw y rhai hyn, ond serch hyny, gellir dys- gwyl eu cyflawnder ar yr eglwyn a'r byd.