Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEEAL. GORPHENAF, 1859. "YR YSBRYDION YN NGHARCHAR/'-RHUB- UDD PR ANUFYDD C^R BYD ANWELEDIG. " Trwy yr hwn yr aeth efe hefyd ac a bregethodd i'r ysbrydion yn ngharchar; y rhai a fu gynt an- ufydd, pan unwaith yr oedd hiramynedd Duw yn aros yn nyddiau Noah, tra y darperid yr arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr," &c—1 Pedr iii. 19, 20. drygionus; am hyny, dylai y dysgyblion fod yn debyg i'w Mheistr, trwy fod yn ddyoddefgar yn ngwyneb gwrthwyneb- iad. Er yr holl wrthwynebiad a ddaog- oswyd i Noah, cadwodd Duw ef rhag niwaid; pan y daeth y diluw, ac y difeth- wyd byd y rhai anwir, yr oedd Duw wedi cau ar Noah yn yr yr arch, a'i amgylchu â'i iachawdwriaeth. (adn. 20.) Nid yw dyoddefiadau y Cristion, gan hyny, yn cynnwys fod Duw wedi ei annghofio a'iadael; na, nidydyw Duw yn annghofio ei bobl, y mae achubiaeth Noah yn dangos fod Duw yn cofio ac yn gofalu am danynt, er ei fod yn gweled yn ddoeth weithiau i ganiatâu iddynt gael eu profi drwy bethau chwerwon. (2 Pedr ii. 9.) Diwedda yr apostol y bennod hon trwy gyfeirio at ddyrchafiad Crist i'r nef. (adn. 22.) Er iddo ef ddy- odddef, a chael ei wrthwynebu, eto, efe a orchfygodd y cyfan, ac a eisteddodd gyda'i Dad ar ei orseddfainc ef, (Dad. iii. 21.) "a'r angylion, a'r awdurdodau, a'r galluoedd, wedi eu darostwng iddo." Ond i bobl Dduw ymddwyn fel y gwnaeth Mab Duw, "rhodio" yn wrol yn ngwyneb anhawsderau " megys ag y rhodiodd efe," fe fydd iddynt hwythau hefyd fel eu Harglwydd, ddyfod allan yn fuddygol yn y diwedd, ac eistedd gyda Christ ar ei orseddfainc ef. Ymddengys mai hyn yw ymresymiad yr apostol yn y testyn a'i gyssylltiadau. Cymhellir sylw y darllenydd, tra yr ymdrechwn I. Egluro'r testyn. " Trwy yr hwn yr aeth efe hefyd, ac a bregethodd i'r ysbrydion yn ngharchar." Mewn trefn i ddeall yr adnod hon, rhaid sylwi ar yr adnod flaenorol:—"Oblegyd Crist hefyd unwaith a ddyoddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr annghyfiawn, (fel y dygai ni at Dduw) wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Ys- bryd, trwy yr hwn yr aeth efe," &c. Y mae yr ymadrodd " ei farwolaethu yny cnawd," yn sefyll yn wrthgyferbyniol i'w "fywhau yn yr Ysbryd." Y mae y 19 Y mae yr apostol yn y bennod hon yn annog y Cristionogion i ymddwyn yn y fath fodd ag i fod yn addyrn i'w proffes. Yr oeddent y pryd hwn yn cael eu her- ìid gan eu gelynion, ac yn dyoddef oblegyd eu crefydd; er hyny, dedwydd oeddent; yr oedd yr apostolion yn ystyr- ied gwasanaethu Crist mor urddasol, fel ag i'w chyfrif yn fraint hyd y nod i ddyoddef er ei fwyn ef. Yn y rhan ddi- wedddaf o'r bennod, y mae yr apostol yn ceisio dal i fyny feddyliau y brodyr Érallodedig, yn ngwyneb eu dyoddefiad- au, trwy eu cyfeirio at Fab Duw, ac at ei ymddygiad ef yn ngwyneb ei ddjodd- efiadau, yn nghyda'i ddyrchafiad yn y diwedd. Y mae Crist wedi dyoddef drosom, gan adael i ni esiampl, fel y canlynem ei ol ef. (1 Pedr iii.21.) Noda yr apostol y ffaith fod Crist wedi dyoddef. "Oblegyd Crist hefyd a ddyoddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr an- nghyfiawn, (fel y dygai ni at Dduw)" &c. (adn. 18.) Gan hyny, os ydyw y Meistr wedi cael anmharch, nid ydyw y gwas i ddysgwy) llawer gwell triniaeth ; os ydyw yr Athraw wedi cael dirmyg, nid ydyw y dysgybl i ddysgwyl llawer o anrhydedd; os ydyw y dihalog wedi dyoddef y fath driniaeth a chael ei gas- hau gan y byd, nid ydyw yn un rhyf- eddod os bydd i'r un ymddygiad gael ei ddangos at ei ganlynwyr. Gan fod ein Harglwydd wedi dyoddef y cwbl yn ddirwgnach,ni ddylai ei blant ymollwng yn eu cyfyngderau. Fe ddyoddefodd Crist, nid yn unig yn nyddiau ei gnawd, ond cyn ei ymddangosiad yn nghyfiawn- der yr amser, yn mherson ei genad (ambassador) Noah; yr oedd efe trwy Noah (adn. 19, 20.) yn pregethu i'r cyn- ddiluwiaid, ac yn eu rhybuddio o'u perygl; ond dibrisio'r cwbl yr oedd y bobl, a gwawdio yr hwn a'u rhybuddiai; eto, er mor groes oedd eu hymddygiad i feddwly Llywydd Dwyfol, fe ddarfu i'w hiramynedd eu goddef am dymhor hir. Yr oedd efe yn amyneddgar tuag at y