Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEEAL. TACHWEDD, 1860. TRAETHAWD AR DDIENYDDIAD (CAPITAL PUNISHMENT), s» A YDYW Y FATH GOSBEDIGAETH YN GYFREITHLON, YN OL YR YSGRYTHYRAU, NEU NAD YDYW? (ffian b $ardj. jR î£oí>erts, ìSetfjel, Eassaleg. (Buddyyol yn Eisteddfod Freiniol Iforaidd Aberdare, 1857.,) CYNNWYSIAD PENNOD IV. Pob deddf ac arferìad yn gymmeradwy neu yn gondemniol yn ngwyneb yr Ysgrythyrau yn ol fel y byddont yn dda neu yn ddrwy yn eu tuedd a'u heffeithiau ymarferol.—Tuedd yr Ysgrythyrau,yn eu dytanwad ar gymdeithas, yn santaidd ac yn llesol.—Dienyddiad ywladol yn. hollol yn y gwrthwyneb, yn gynnyrchìol o lawer mwy o ddrwg nag o dda.— Y ddeddf ddienyddol, fel. y mae yn sefyll yn. bresennol yn y deyrnas hon, yn hollol ancffeithiol i ateb un o ddybenion cyhoeddus cosbedigaeth.—Pfeilhiau yn dangosfody crogbren, yn ei ddylanwad ar gymdeithas, yn iselu y syniad o gyssegredd bywyd; yn caledu y drwgweitliredol; yn achlysur i liosogi troseddau, ac yn hollol ddieffaith ar y collfarncdig er daioni.—Tuedd niweidiol dien- yddiad yn cael e> ddangos yn mhellach oddiwrth ansicrwyMd ei weinyddiad, trwy yr hyn y calonogir drwgweithredwyr, ac yn aml y diebrydir holl amcanion cyhoeddus cyfiawnder cosbedigaethol.—Dienydd- iad yn beryglus ac annyhymhwys fel cosb ddynol, o herwydd ei fod yn ddialw yn ol yn ngwyneb camgym- meriadau a ddichon ddyfod i'r golwg yn ol llaw— Yr ysiyriaethau blaenorol yn dangos fod cenadwrìaeth Crist ac eiddo Calcraft yn hollol wahanol yn eu tuedd a'u heffeithiau ymarferol.—Y cyfnenidiud ag y dadleuir drosto yn nyhosbedigneth Uofruddion yn llawer mwy effeithiol er ateb holl ddybenion cosb, heb- law ei fod yn arbed bywyd y troseddwr fel ag i roddi cyfle iddo i edifarluiu a bwrw ymaith ei bechodait-— Y cynllun wedi ei brofi yn effeithiol mewn gwledydd ereill. OIENYDDIAD YN El DUEDD A'! NOOWEDD YMARFEROL YN ANNGHYDWEDDOL A THUEDD A DYLANWAD YMARFEROL YR YSGRYTHYRAU. GELLiRrlioddicymhwysiadcyffredinol i reol Crist i adnabod gau brophwydi,— " Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt,"—at egwyddorion, deddfau, a sefydliadau, yn gystal a phersonau, a chymmeriadau. Amcan a thuedd yr Ysgrythyrau yw darostwng pechod ; ffrwyth ymarferol Cristionogaeth yw santeiddiad a dyrchafiad dyuoliaeth: beth bynag nad yw yn tueddu i gyn- nyrchu yr un effeithiau, sydd yn wrth- wynebol i ddylanwad "gwirionedd yr efengyl." Beth gan hyny yw tuedd ymarferol àienyddiad? Mae yn amlwg oddiwrth amcan d thueddiad ymarferol yr Ysgrythyrau, mai ewyllys Duw ydyw, i lywodruethau fabwysiadu y deddt'au hyny ag sydd, yn eu cymmeriad ymar- ferol, fwyaf effeithiol i attai troseddau, ac i ddiwytrio y drygionus. A ydyw y gosb o farwwaeth yn ateb i'r rheoì yma? Beth yw tystiolaeth blynyddoedd lawer o brofiad yn y wlad hon a gwledydd ereill ? Yr ydym yn ateb heb un petrus- der, gan nad faiut o les cyhoeddus a gynnyrchir drwy ddienyddiad, fod y drygau sydd yn nglyn âg ef yn an- nhraethol fwy. Os fel esiampl yr ed- rychir arno, er attal troseddau llofrudd- iog, ac amddiffyn bywyd a diogelwch cymdeithas, mae y gosb yn hollol feth- iant; a hyny i'r fath raddau, fel y gellir dweyd fod ei gweinyddiad, yn lle lleihau, yn cynnyddu y troseddau y mae wedi ei bwriadu i'w rhwystro. Mae hwn yn haeriad eofn, ond y mae yn ddiammheuol safadwy, fel y gellir profi oddiwrth ystadegau (statistics) seneddol a gy- hoeddwyd ychydig o flynyddau yn ol ;* oddiwrtíi ba rai yr ymddengys, mai yn ol y graddau y mae cosbau ailraddol yn cael eu sefydlu yn lle dienyddiad, y mae prif droseddau yn lleihau. Mae yr un gwirionedd wedi ei gael allan yn Ffrainc, Prwsia, Belgium, Rwsia, &c, yr hyn sydd yn profi nad yw y ffaith i'w phriodoli i ddim yn ddamweiniol. Ac nid oes anghen am i ni apelio at 3'stadegau; mae digon o ff'eithiau amlwg o flaen llygaid y cyffredin yn profi yr un peth, sef, fod golygfeydd y crogbren yn difoesoli cymdeithas, yn dinystrio y syn- * " The inexpediency of capital punishments proved by statistics derived from official sources." Published by Cash, London. 31