Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN: Rhif 2.] EBRILL, 1889. [Cyf. VII. PRIFATHROFA I GYMRU. Oddeutu saith mlynedd yn ol, yn fuan wedi dyddiad y Pwyllgor Swyddfaol ag yr oeddwn yn aelod 0 hono, cefais y mwynbad 0 wneud yn hysbys, trwy dudalenau y Contemporary Beview, fy ngolygiadau mewn perthynas i ddyfodol Addysg Uchraddol yn Nghymru. Wedi i gymaint 0 amser fyned heibio, fe ddichon y byddai yn fuddiol i edrych yn ol a chanfod pa gan belled y dygwyd i weithrediad y golygiadau a draethwyd y pryd hwnw, a pha mor bell y cafodd y rhagddisgwyliadau a anwesid yr amser hwnw eu gwirio neu eu gwrthbrofi gan amgylchiadau. Y mae y cyntaf a'r rowyaf pendifaddeu 0 angenrheidiau y wlad—sef cyfundrefn 0 addysg ganolraddol, yn unol âg argymhellion y Pwyllgor Swyddfaol, yr hwn oedd ar y pryd wedi gwneud adroddiad mor rymus yn mhlaid hyny—yn parhau eto yn beth i'w geisio. Gyda Llywodraeth garedig a ffafriol mewn awdurdod, ymddangosai yn anmhossibl ar nas caniateid y gymwynas addawedig yn gynt. Ond yr oedd yn bodoli eisoes allu terfysgol difrifoJ, ag nad oedd neb wedi ei ragweled na darbod ar ei gyfer, yr hyn a wnaeth yn ofer ein holl ragddisgwyliadau am gynydd a ffyniant yn y dyfodol. Yr oedd y blaid Wyddelig newydd gychwyn ar y wleidlywiaeth nad yw ei diwedd wedi dyfod eto, ond pa un, gan nad pa mor nerthol ydyw er hyrwyddo lleshad y Werddon, sydd yn sicr ddiamheu wedi gwanychu y ddwy brif blaid Seneddol, wedi gwneud Deddf Ddiwygiadol fawr y flwyddyn 1885 yn ddieffaith a dinerth am yr amser presenol, wedi rhoddi attaìfa ar ddeddf wneuthuriad, ac wedi gcsod mewn swydd, fel unig ganlyniad eangiad yr etholfraint, Lywodr- aeth Geidwadol sylfaenedig yn agosach i linellau yr hen amser gynt, cyn y flwyddyn 1832, nag yr ymddangosai yn bossibl pan y cyflwynodd y Pwyllgor Swyddfaol eu Hadroddiad. Y mae pwnc y Werddon gyda ni eto. Dyna ydyw byrdwn pob llwyfan wleidyddol, trwy hyd a lled yr holl wlad; tra, yn y cyfamser, gan belled ag y mae unrhyw ädeddfwriaeth uniongyrchol yn myned, y mae ieuenctyd Cymru, wrth ddyfod allan o'r ysgolion elfenol, bron yn union yn yr un cyflwr addysgiadol llwm a diymadferth ag yr oeddynt ynddo yn 1882. Y mae yn wir fod yr ymddeffroad deallol mawr a gymerth le er pan gyhoedd- wyd yr Adroddiad, pa un bynag ai fel ei ganlyniad ai nad ê, trwy yr holl Dywysogaeth, wedi arwain i adtywiad yn yr ysgolion canolraddol a fodolent eisoes, yn y fath fodd ag nas gallesid ei ragdybied saith mlynedd yn ol, a'r hyn sydd wedi gwneud rhyw gymaint er cyfienwi y diffyg addefedig. Ónd, gan belled ag y mae a wnelo deddfwriaeth â'r peth, y mae bechgyn a genethod Cymru, o'r dosparthiadau canolraddol ac isaf, er's dros tair cenhedlaeth ysgol- faol er y fiwyddyn 1881, wedi cael eu gadael i fyned allan i'r byd heb onid ychydig neu heb ddim cyfieustra at ymddyrchafiad deallol, heb ddim moddion, neu yn agos i fod heb ddim moddion, i esgyn yr ysgol addysgiadol, neu i bontio dros yr agendor anhydraidd sydd yn safnrythu cydrhwng yr addysg elfenol oreu a'r ffurf isaf 0 addysg uchraddol. Y mae'r ffaith fod addysg uchraddol, a amddifedir fel hyn o'i ffynhonellau naturiol 0 gyfienwad, mor fiodeuog ag ydyw, yn ymddangos y peth agosaf i wyrth. A defnyddio cyffelybiaeth ag oedd yn gynefìn i ni yn ystod yr ymchwiliad, y mae diwygwyr adäysgiadol Cymreig wedi dewis "aäeiladu o'r pen uchaf," ac y raae'r ystafelloedd yn mrig yr adeilad y foment hon wedi eu llenwi yn lled dda ; er fod bron yn annichonadwy