Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN: Rhif 3.] GORPHENAF, 1889. [Cyf. VII. CYMRAEG YR OES HON. T MAE Cymraeg yr oes hon o dri math 0 leiaf, sef Cymraeg y cyfieithad awdurdodedig o'r Ysgrythyrau, Cymraeg y newyddiaduron, a'r Cymraeg a ddefnyddir gennym ar lafar gwlad yn ol amrywiol dafodieithoedd amrywiol rannau y Dywysogaeth. Cyfleus, hwyrach, fyddai ystyried ffurf lenyddol y Cymraeg hwn fel yn dechreu gyda dechreu yr unfed ganrif ar bymtheg neu rywle y'nghymydogaeth y bymthegfed ganrif. Cyfnod y CaDol-oesoedd yw y cyfnod cyn hwnnw, yn cyrraedd yn ol dyweder hyd adeg y Gorcbfygiad Nor- mannaidd, neu hwyrach ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg. Gellir galw y cyf- Dod blaenorol i'r Canol-oesoedd yn Gyfnod yr Hen Gymraeg, a'i ystyried fel yn estyn yn o.l i'r seithfed ganrif; ond yma yr ydys yn cyrraedd gororau'r ty- wyllwch, ac nid hawdd canfod dim tebyg i glawdd ffin yr amsernedd. Hwyr- acb y byddai adeg y frwydr fawr rhwng y Cymry âg Ëthelfrith a'i Eingl, pan gollodd y Cymry ddinas Caerlleon ar Ddyfrdwy a"r wlad s'r gogledd iddi, ryw- iaint ynrhy fore i ateb y diben sydd genoym ni mewn golwg yn bresennol. T tu hwnt i Gyfnod yr Hen Gymraeg cyrhaeddir y Cyfnod Brythonig ac ymestyn hwnnw yn ol tu draw i ddyfodiad y Rhufeiniaid hyd amser glaniad y Brython cyntaf i gymeryd meddiant o Ynys Brydain. Gellir drwy gymorth goleuni egwan ieithyddiaeth gymariaethol fyned yn ol y'mhellach fyth i ganol tywyllwch dudew y cynfyd Celtaidd ar y Cyfandir. Ond gwnaiff y Cyfnod Brythonig y tro i ni fel cychwynfa'r daith ar hyn o bryd. Tebyg mewn ystyr ydyw hanes iaith i hanes dyn neu anifel; a gellir symio y cyfan mewn dau air cynwysfawr, ymdreulio ac ymadnewyddu. Os myn neb gan hynny ddeall yn drwyadl pa fodd y cymerodd y Gymraeg y ffurf sydd arni, a pha fodd y daeth ei geiriau i gael eu seinio fel y seinir hwynt gennych chwi a minnau, rhaid iddo olrhain yr holl hanes i lawr drwy y cyfnodau y cyfeiriais atynt; neu, os goddef wch i mi ddefnyddio un neu ddau o eiriau Barddas, rhaid iddo wyhed yr iaith yn treiglo tri o gylchoedd ehang- faith bodolaeth cyn cyrraedd yr Abred y mae yn ei gwisg newyddiadurol yn ei threiglo yn yr oes ddoniol hon. Rhaid iddo hefyd gadw ei olwg yn sefydlog ar hanes y genedl a ddefnyddiai yr iaith; canys rhan o hanes y Cymry yw hanes eu h ìaith. Fel yr awgryniwyd rhennir cyfnodau yr iaith ar y cyfan yn ol symudiad hanesyddol y genedl; ond nis gallwn ar hyn o bryd ymdrîn yn fanylach â'r hanes yn yr ystyr ehangach hon. O ran bynny ceir fod hanes yr iaith yn unig yn f wy o faich nas gallwn ei symud yn ei grynswth, ac o ganlyniad gorfodir ni i'w rannu megys yn dair rhan. Rhyfedd mor naturiol yr a popeth yn dri yn nwylaw Cymro; a dyma sydd i'w ddeall ar hyn 0 bryd wrth drioedd yr iaith Gymraeg: ei seinyddiaeth, ei llythyreniad, a'i chynhwysiad Uenyddol. Nid drwg fyddai dechreu gyda'r llythyrennau, fel y bydd plant gyda'r A, B, C Y gofyniad cyntaf a gyfyd ydyw pa lythyrennaa a ddefnyddiwyd gyntaf gan y Brythoniaid : hwyrach y dywed rhywun Coelbren y Beirdd, ond drwg gennyf orfod ateb na wyr ieithyddiaeth na hanesyddiaeth nemawr i ddim am y Goelbren honno. Triniwyd y pwnc flynyddau yn ol gan Domas Stephens 0 Ferthyr; a danghosodd na f u y llythyrennau hynny erioed mewn arferiad, os na fuont am ryw ychydig tuag amser Owain Glyn Dwr. Llythyrennau penigol y wyddor Ladonaidd ydynt gem mwyaf fel y torreoh hwynt ar bren, gan orfodi