Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN: Rhif 4.] HYDREF, 1889. [Cyf. VII. Y CYMRY YN GENEDL. {Papyr a ddarllenwyd ger bron Gymrodorion Gaerdydd, Rhagfyr lieg, 1888.) Fe ddywed chwedloniaeth atn ryw aderyn a elwid ar yr enw Phenix, yr hwn, ar ol ei losgi yn lludw, a gyfyd eilwaith yn aderyn byw, mor iach a heinyf ag erioed. Fe brophwydwyd lawer gwaith fod cenedl y Cymry ar roddi i fyny yr yspryd ; a phan feddyl- íom am y galluoedd cryfion sydd wedi codi yn ei herbyn 0 oes i oes, ac am y moddion a'rymdrechion a ddefnyddiwyd er ei difetha, y mae yn rhyfedd na buasai wedi darfod am dani er's llawer oes. Penderfynodd yr Ymerodraeth Rufeinig ei difodi; ond yn lle hyny 8ýrthiodd yr ymerodraeth gadarn hono i ddifodiant, tra y mae cenedl y Cymry eto yn fyw: gorfu iddi alw ei lluoedd banerog yn ol cyn hir ar ol glanio yn ein hynys, cyn gallu cyfiawni ei bwriad dinystriol gyda golwg arnom. Dilyn- wyd rhyfelgyrchoedd Rhufain gan y môr-ladron Angliaidd a Sacsonaidd, a'r Daniaid rhwysgfawr a'r Normaniaid ffroenuchel a ddaethant dros y culfor; a Uawer a gwaedlyd fu y brwydrau a gar- iwyd ymlaen ganddynt gyda'n cyn- dadau. Gyrwyd dewrion Cymru 0 was- tad-diroedd Lloegr i fynyddau a dyffryn- oedd Gwyllt Walia ; meddyliwyd weith- iau eu bod wedi darfod am danynt, a llawer gwaith y canwyd cnul eu cladd- edigaeth ; ond prin yr oedd y byddin- oedd ymosodol beilch a rhwysgfawr wedi codi udgorn buddugoliaeth at eu geneuau cyn canfod fod cenedl y Cymry yn fyw er gwaethaf y cyfan, a'i bod, fel y Phenix, wedi adnewyddu ei nerth wrth fyned trwy dân yr ymosodiadau ; ac mae arwyddion yr amserau yn parhau i ddangos fod digon o fywyd ynddi i'w chynal trwy lawer o dânau ymosodol eto cyn y bydd iddi roddi i fyny yr yspryd. Er hyny oll myn rhai yn y dyddiau hyn nad yw y Cymry yn genedl; nad yw yn ddim ond rhan a chyfran o'r genedl §acsonaidd. Dywedai un o aelodau Gweinyddiaeth Prydain Fawr, yn Nhy y Cyffredin, tua dwy flynedd yn ol, " ei fod yn analluog i wahanu yn ei feddwl Gymru oddiwrth Loegr;" a dywedai Mr. Matthew Arnold mewn erthygl ddiweddar yn y Nineteenih Gen- tnry " mai mewn ystyr farddonol yn hytrach na gwladwriaethol yr ydym yn genedl " Gan fod gwleidlywyr a beirn- iaid, ac eraill gyda hwy, am anwybyddu a gwadu ein bodolaeth genedlaethol, nis gall fod yn annyddorol i ni dreulio ychydig fynydau i chwilio pa un ai ffaith ynte ffug ydyw yr haeriadau hyn. Mewn trefn i ni ddealleingilydd, raae yn ofynol i ni benderfynu beth a feddylir wrth y gair cenedl. Nid oes angen am ddywedyd ei fod yn gyfystyr â'r gair Saesonaeg nation. Yr ystyr a rydd Nuttall i nation yw, " Corpho bobl yn preswylio yn yr un wlad." Ond gwel pawb fod y darnodiad hwn yn rhy eang ac anmhenderfynol. Un wlad yw Affrica fawr, ac un wlad yw America Ddeheuol eang ; ond cynnwysa y naill a'r llall lawer o genedloedd gwahanol. Darnodiad Webster 0 genedl yw " Corph 0 bobl yn preswylio yr un wlad ac wedi eu huno dan yr un deddfau.' Mae rhan gyntaf y darnodiad hwn yr un peth a'r darnodiad blaenorol, ac yn agored i'r un gwrthwynebiad, a difoda yr ail ran 0 hono yr Iuddewon o fod yn genedl. A digenedla hefyd lawer o lwythau Affrica a'r India Ddwyreiniol, obîegyd y mae llawer o'r olaf yn byw dan ddeddfau gosodedig arnynt gaa Brydain Fawr; a rhanai y genedl Iuddewig yn fân dameidiau rhwng y gwahanol genedloedd eraill ymysg y rhai y cartrefant yn ngwahanol barthau y byd. Yn ol y darnodiad hwn y mae yr luddewon wedi peidio a bod yn genedl er's mwy na deunaw can' mlyn- edd, wedi ymgolli o ran eu bodolaeth genedlaethol yn y gwahanol genedloedd y maent yn byw yn eu plith. Darnodiad