Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENINEN GWYL DEWI (ARGRAPHIAD ARBENIG O'R "GWNINEN," Y CYNTAF 0 FAWRTH, 1889.) DEWI SANT: EI SAFLE YN HANESIAETH GWLAD AC EGLWYS. Cedwir Dydd Gwyl Dewi ar y dydd cyntaf o Fawrth ; ac ystyrir ef yn nawdd sant Cymru. Rhaid fod rhyw reswm droshynny; ond pan elir i chwilio am dano y mae yn anhawdd cael gafael arno. Un o'r cymmeriadau hynny ydyw Dewi Sant ag sydd wedi taflu cymmaint o oleuni o'u hamgylch nes cuddio eu hunain. Nid peth anghyffredin ydyw hyn mewn dynion mawr yn blodeuo mewn llawer oes nes attomna'r chweched ganrif. Fod Dewi Sant yn gymmeriad mawr a disglaer sydd eglur oddi wrth yr ôl a adawodd ar hanesiaeth a chwedlon- iaeth gwlad; ond pa bryd y bu fyw, pwy oedd ei rieni, pa le y bucheddai, a pha beth a wnaeth, dyma gwestiwnau i'w hatteb gennym gan gystal ag y gallwn mewn cylch bychan a chyda defnyddiau prinion. Yr oedd Dewi Sant yn oesi mewn cyfnod hynod o dywyll a therfysglyd ar Gymru, pan oedd y Saeson yn ciìgwthio y Brython o diroedd Lloegr, a'r Brython yn eu tro, ac o dan bwys yr ymosodiad- au ar eu gororau gogleddol, dwyreiniol, a de-ddwyreiniol, yn dirwasgu ar gyn- breswylwyr Cymru, a'u cilgwthio dro- sodd i'r Iwerädon, neu eu darostwng danynt, a'u trawsffurfîo yn rhan o honynt eu hunain. Amlygir hyn yn NGWAEDOLIAETH DEWI SANT. Yr oedd Dewi Sant yn orwyr i Cunedda Wledig, blaenor enwog y llwythau Brythonaidd o'r Gogledd, sef Gogledd Lloegr, y rhai a feddianasant Gymru ar ol ynaadawiad y Rhufeiniaid o'r wlad. Dywedir yn Achau y Saint:— "Dewi ap Sant {Xanthus, Cymraeg Sandde) ap Ceredig ap Cunedda Wledig, ap Edeyrn {Eternus) ap Padarn {Pater- nus) Beisrudd." Cyttunir yn gyffredin fod yr haniad a'r achau hyn yn hollol gywir; a gwelir felly fod Dewi Sant yn hanu o deulu brenhinol Cymru, ac fod yn dra thebyg y disgynai o waedoliaeth flufeinig yn gystal a Brythonaidd. Ond cawn hefyd ei fod yn ŵyr i Brychan Brycheiniog, gan fod Ceredig ei daid wedi priodi merch Brychan Brycheiniog. Profa y Proffeawr Rhys {Geltic Remains, tudalen 250) fod Brychan a'i deulu â mwy o waedoliaeth Wyddelig yn perthyn iddynt nag o waed Brythonaidd. Hanai Dewi felly o waedoliaeth dwy o " Dair Gwelygordd Sanctaidd Ynys Prydain," ac ar yr un pryd perthynai i'r ddwy hiliogaeth oedd yn ffurfìo gwraidd cyff ein cenedl. Dyry y Croniclau Cymreig {Annales Gambrae) amser ei enedigaeth yn y fiwyddyn 458 ; ond y mae yn eglur fod hyn yn rhy foreu o haner can mlynedd. Ganwyd ef yn Swydd bresenol Penfro, yn agos i safle Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi, yr hon a sylfaenwyd ganddo ; a dygwyd ef i fynu yn Hen Fynyw {Old Mentvia), sefydliad Rhufeinig tua dwy filldir o Dŷ Ddewi. Er cymmaint a gym- mylir ar hanes bywyd Dewi Sant, cawn ddigon i brofi iddo gyssegru ei holl fywyd i wasanaethu Duw a'i gydgenedl. Daeth yn ieuangc yn enwog am ei sancteiddrwydd, a'i lwyr ymroddiad i efengylu i bawb o'i amgylch. Cafodd iddo ei hun y cymmeriad o fod yn wlad- garwr enwog. Pa fodd y bu hyn ? Ai am ei fod yn hanu o'r cyff cenedl hynaf yn Nghymru, brodorion cyntefig y De heubarth, Siluriaid a Dyfedwyr, yn Wyddyl ac Iferniaid, yn gystal a Brython ? Ymddengys iddo droi bron yr oll o'i ymdrechion fel efengylwr i bregethu i'r rhai hyn ; a sefydlodd ei fynachlog, neu drefedigaeth a brawdol- iaeth grefyddol, yn nghanol y Dyfedwyr. Yn nyddiau Dewi Sant cynhaliwyd dwy synod, neu gynghorfa Eglwysig, yn Llanddewi Brefi, a'r hyn a alwyd ar ol hynny " Y Cynghor Buddugol." Cymmerwyd yn ganiattaol hyd yn dra diweddar mai amcan y synodau hyn oedd gwrthwynebu cyfeiliornad y Mor- ganiaid, fel y dywedasai Rhyddmarch, ysgrifenwr enwog "Buchedd Dewi Sant;" ond bu i ddarganfyddiad di- weddar hanes y cynghorau hyn (dan yr enwau "Sinodus AquilonalisBritanniae," ac " Altera Sinodus Luci Victoriae") yn Ffraingc, brofi mai eu hamcan oedd ffurfio deddfau a rheolau dysgyblaeth Eglwysig, y rhai ydynt hyd etto ar gael. Dywedir yn y Trìoedd—-" Tri Gwes- teion Gwynfydedig Ynys Prydain;