Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GENINEN: Ägk|jgrabm %mùhû^sd, Rhif. 4.] HYDREF, 1885. [Cyf. III. CYFIEITHIAD O'R EPISTOL AT YR HEBREAID. 11. VIII. 1 Ond i roddi pen ar y pethau a ddywedir, y mae genym y fath archoffeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfaine y Mawredd yn y nefoedd, 2 yn weinidog y cysegr a'r gwir babell, yr hon a osododd yr Arglwydd, nid dyn. 3 Cauys p^b archoffeiriad, i offrymu rhoddion ac aberthau y gosodír ef ; oherwydd paham rhaid oedd fod gan hwn hefyd yr hyn a offrymai. 4 Pe byddai efe gan hyny ar y ddaear, ni byddai yn offeiriad chwaith, gan fod offeiriaid y rhai a offrymant roddion yn ol y gyfraith ; 5 y rhai ydynt yn gwasanaethu portread a chysgod y pethau nefol, megis y cawn fod Moses wedi ei rybuddio gan Dduw, pan oedd efe ar fedr gorphen y babell: canys, Gwel, medd efe, ar wneuthur ohonot bob peth yn ol y cynllun a ddangoswyd i ti yn y mynydd. 6 Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth ragorach, o gymaint a'i fod hefyd yn gyfryngwr cyfamod gwell, yr hwn a osodwyd yn ddeddf ar addewidion gwell. 7 Canys, pe buasai y cyntaf hwnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i ail; 8 canys yn beio arno y dywed wrthynt, Wele, y mae dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan y cytunaf ar gyfamod newydd â thy Israel ac â thy Juda, 9 nid yn ol y cyfamod yr hwn a wnaethum â'u tadau hwy yn y dydd y cymerais hwynt erbyn eu llaw i'w tywys hwynt allan o'r Aipht, oblegid hwynt-hwy nid arhosasant yn fy nghyfamod i, a minau a'u hesgeulusais hwythaü, medd yr Arglwydd; 10 oblegid hwn yio y cyfamod yr hwn a amodaf â thŷ Israel ar ol y dyddiau hyny, medd yr Arglwydd, Gan ddodi fy nghyfreithiau yn eu meddwl mi a'u hysgrifenaf hwynt hefyd ar eu calonau hwy, ac mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw a hwythau a fyddant i mi yn bobl; n ac ni ddysgant bob un ei gyd-ddinesydd a phobun ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd, oblegidhwy oll a'm hadnabyddant i, o fychan i f^wr; 12 oblegid trugarog a fyddaf wrth eu hanghyfiawDderau hwynt, a'u pechodau hwynt ni chofiaf mohonynt mwyach. 13 Wrth ddywedyd, Newydd, y mae efe wedi gwneyd y cyntaf yn hen; ond y mae yr hyn sydd. yn heneidclio ac yn oedranu yn agos i ddiflaniad. IX. i Yr oedd gan hyny gan y cyfamod cyntaf ddefodau gwasanaeth J>nw a chysegr bydol. 2 Canys pabell a ddodrefnwyd, y gyntaf yr hon yr oedd y canwyllbren ynddi, a'r bwrdd, a dangosiad y torthau, yr hon a elwir Y Cysegr; 3 ond wedi yr ail lèn, y babell a elwir Y Cysegr sancteiddiolaf, 4 yn cynwys allor aur yr arogl-darth, ac arch y cyfamod wedi ei gor- chuddio oddiamgylch âg aur, yn yr hon yr oedd y crochan aur, a'r manna ynddo, a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a llechau y cyfamod, 5 ao uwch ei phen cherubiaid y gogoniant yn cysgodi dros y drugareddfa; am yr hyn bethau nis gellir yn awr ddywedyd bob yn rhan. 6 A'r rhai hyn wedi eu dodrefnu felly, i'r babell g>Titaf yn wir bob amser yr â yr