Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GEN I N EN: Rhif. 4-] HYDREF, 1883. [Cyf. I. Y DIWEDDAR BARCH. HUGH JONES, D.D. Nid oes rhyw lawer 0 amgylchiadau arbenigol a chynhyrfiol i'w cofnodi am y diweddar Ddoctor Jones. Lled lyfn a gwastad fu gyrfa ei fywyd o'i dechreu i'w diwedd, ond fod pob cam 0 honi ar i fyny. Nis gwyddom am enghraipht gymhwysach o'r desgrifìad Ysbrydoledig o yrfa y cyfiawn na'r eiddo ef:—" Llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwy- fwy hyd ganol dydd." Brodor oedd 0 Fodedern, Mon. Ganwyd ef Gorphenaf lOfed, 1831. Ei rieni oeddynt Htigh a Jane Jones. Yr oedd ei ddisgyniad 0 wehelyth tra rhagorol : er enghraipht, yr oedd ei hen daid, Edward Jones, Maen- eryr, yn bregethwr, nid anenwog yn ei ddydd, gyda'r Methodsitiaid Calfinaidd; a'i or-hendaid yn beriglor Llanrhyddlad, LlaníHewyn, a Llan- rhwydrus. Yr oedd ei daid, hefyd, yr hwn a breswyliai yn Eingion Chwith, Bodedern, yn nodedig am ei dduwioldeb personol a'i weithgarwch cretyddol. Daethai, drwy y rhinweddau hyn, yn enwog, ac i gario dylan- wad mawr dros gylch eang o'i ardal enedigol. Bu yn gwasanaethu yn y swydd 0 flaenor gyda'r Methodistiaid, gydag ymroddiad a deheurwydd neillduol, am lawer 0 flynyddoedd. Annibynwraig oedd mam Dr. Jones —aelod yn eglwys Saron ; ond mynychai y mab gapel y Methodistiaid, gyda'i dad, yr hwn nad oedd ei hun yn aelod. Ymunodd y bachgen â chrefydd pan rhwng saith ac wyth oed. Amlygodd ei awyddfryd am hyn 0 hono ei hun i'w fam. Archodd hithau i un John Lloyd ei gymeryd gydag ef, a'i gyflwyno i'r írawdoliaeth ; yr hwn yn garedig a wnaeth hyn 0 ran âg ef a'i frawd ieucngach, gan eu cyflwyno i'r eglwys yn gyhoeddus ar nos Sul. Derbyniodd H. Jones ychydig 0 fanteision addysg yn inoreu ei oes, drwy gyfrwng y National School a fodolai yn y gymydogaeth. Amlygodd, pan yn ieuanc iawn, dueddfryd efrydgar gref, a hoffder mawr at ddarllen, yn enwedig at ddarllen yr Ysgrythyrau. Yr oedd y llwyrder gyda pha un yr ymgollai mewn myfyrdod uwcîiben y llyfr a ddygwyddai fod dan ei sylw, ac a ddangosai yn y tymhor boreuol hwn, yn awgrymiadol iawn o'r ymroddiad nodweddol gyda pha un yr ymdaflai i'w efrydiaethau bob amser, a thrwy yr hwn y cyrhaeddodd y fath addfedrwydd dysgeidiol. Yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg o'i oed, prentisiwyd ef yn grydd gydag un William Hughes, yn Bodedern. Pan oedd efe yn ddwy-ar- bymtheg oed, symudodd ei rieui i fyw gerllaw capel y Methodistiaid, Pen-y-maen. Ar hyn symudodd H. Jones ei aelodaeth i'r capel hwn. Yr