Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y G E N I N E N : Cîîlcjrgraton CwieMaetjjoI. Rhif. 2.] EBRILL, 1884. [Cyf. II. ANSELM A GAUNILON : RHESWM A RHESYMEG. Ma.E yn ddiau fod enw Anselm yn hysbys i'r rhan fwyaf o'n darllenwyr ; ac nid yw ei ysgrifeniadau yn hollol ddieithr i'r rhai hyny 0 honynt a deimlant ddyddordeb yn hanes dadblygiad yr athrawiaeth (-î ristionogoì. Yehydig a wyddom am Gaunilon oddieithr yn ei gysylltiad âg Anselm: a thebyg yw na ddaethai ei enw i lawr i'r oes hon oni buasai am ei waith yn dyfod allan yn erbyn Anselm ar y ddadl ar y Bod o Dduw. Yr oedd y ddau yn cydoesi â'u gilydd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Anselm oedd un o'r rhai boreuaf o'n hysgolwyr : cyfrifir ef yn sylfaenj'dd ysgoliaeth, yn gystal a'r mwyaf o athronwyr duwinyddol y Canoloesoedd. Mae treiddgarwch a dwysder ysbrydol ei feddwl wedi enill iddo yr enw Awstinyr Ail. Nodweddid ef gan ddwysder ei gydymdeimlad â dyfnder a dirgelwch y gwirionedd. Er fod rhai yn ei alw yn rhesymolwr, ar gyfrif y defnydd a wnai 0 reswm, a'i ymdrech i ddeall gwirionedd Duw, etto nid oedd neb yn rhoddi mwy 0 le i fíydd ; ac y mae rhai o'i frawddegau ar berthynas ífydd a rheswm yn mysg ymadroddion mwyaf goludog a chynnwysfawr yr holl oesoedd. "Dymunwyf," meddai, yn un o'i draethodau, jn yr hwn y mae yn tywallt ei galon wrth Dduw—" Dymunwyf, i ryw raddau, ddeall Dy wirionedd, yr hwn j mae fy nghalon yn ei gredu ac yn ei garu; oblegid nid wyf yn ceisio ei ddeall er mwyn ei gredu, ond jr wyf yn ei gredu er mwyn ei ddeall; oblegid jr wyf yn credu am y rheswm nas gaílaf ddeall heb gredu." Yr oedd ei ddylanwad iachusol yn ddwys ar grefydd y Canoloesoedd, ac y mae yn parhau i effeithio ar feddwl yr Eglwys hyd y dydd hwn, nid yn unig yn uniongyrchol trwy ei draethodau ef ei hun, ond hefyd yn anuniongyrchol trwy y symbyliad a'r goleuni a dderbynia meddyliau ymchwilwyr ereill trwyddynt. Argoel diammheuol o ddwysder meddwl, mewn myfyriwr ar athroniaeth a duwinyddiaeth, ydyw cydym- deimlad â theithi meddyliorAnselm. Yn myd y prif wirioneddau yr oedd yn treulio ei oes,—y Bod o Dduw, natur a phriodoliaethau Duw, dirgelwch y Drindod, yr Ymgnawdoliad, a'r lawn ; ac yr oedd ei galon yn bywiolaethu ar eu mêr a'u brasder fel yr oedd ei ddeall yn cael ynddynt ddyfroedd digon dyfnion i chwareu. Mae olion meddwl yr enwocaf 0 holl archesgobion Caergainti'w canfod ar bob traethawd dilynol 0 werth ar yr athrawiaethau am Dduw, am Grrist, a'r Prynedigaeth. Nid oedd yr hen dyb ddycbymygol am iawn i'r diafol wedi diflanu yn llwyr o'r Eglwys hyd ym- ddangosiad Cur JDeus Homo. Un o'i draethodau cyntaf oedd y Monologium, yn yr hwn y mae yn sylwi ar y gwahanol resymau dros y Bod 0 Dduw, ar natur Duw, ac ar y Drindod. Yn ganlynol ysgrifenodd y Proslogion, yn yr hwn y mae yn cadarnhau dadl y traethawd cyntaf * Yr oedd y mynach Graunîlon, hefyd, íel y rhaid i bawb addef, yn feddyliwr tra galluog, ac yn rhesymegwr gorchestol; ac nid oedd yn anymwybodol o'i allu, oblegid ni phetrusodd ddyfod allan yn erbyn prif athronydd y ganrif: er ei fod yn grediniwr fel Anselm, yr oedd yn ammheu cywirdeb ei ddadl dros y Bod o Dduw; ac y mae yn sicr ei fod yn gystal rhesymegwr ag Anselm, os nad oedd yn hyn yn rhagori àrno. Etto ni feddylia neb am ei gystadlu ag ef fel meddyliwr dwfndrciddiol. Bai Anselm oedd—gwneyd y pwnc yn bwnc * Ceir cyfieithiad rhagorol o'r Proslogion yn y Bibliotheca Sacra, vol. ii.; a chrynodeb oyr o hono yn Shedd'e History 0/ Christian Doctrine, vol. i,