Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENINEN GWYL DEWI. fARGRAPHIAD ARBENIG O'R « GENINEN," Y CYNTAF 0 FAWRTH, 189ÍJ THOMAS STEPHENS. "Ymhob gwlad," medd y ddiareb, "y megir glew." Fel rheol, o gilfachau tawel a neillduedig mae y dynion hyny sydd wedi eu bwriadu gan liagluniaeth i adael eu hol ar y byd, yn dyfod allan. Nis gwyddom, mwy na'r bardd Grey, pa nifer o ddynion y sydd yn huno yn dawel yn yr hen fynwentydd rhwng bryniau Cymru a allasent fod wedi anfarwoli eu hunain mewn gwahanol gylchoedd, oni bai i dlodi lethu eu huchelgais a chyfyng- der amgylchiadau rewi i ffwrdd eu hath- rylith gyda'i bod yn dechreu llifo allan. Ond gallwn fod yn sicr fod aml un yn cysgu yn y f ynwent o dan y '' twmpath gwyrdd-las" a fuasai wedi esgyn i ben pinacl enwogrwydd pe y buasai amgylch- iadau allanol yn ffafriol i dynu allan ei adnoddau mewnol. Er pob anfanteision mae rhai dynion wedi llwyddo i orchfygu amgylchiadau creulawn eu bywyd boreuol, ac wedi dringo i safleoedd uchel. I bob golwg allanol nid y w yr amgylchiadau o dan ba rai mae nifer mawr o ddynion yn gwynebu y byd ond dechreuad o fywyd trafferthus ac o ddinodedd; tra mae ereill, er pob anhawsderau, yn gwneyd i am- gylchiadau blygu, a bod yn fantais iddynt i sylweddoli nôd eu huchelgais. Un o'r dosparth olaf ydoedd y gwr ag y mae ei enw uwchben yr ysgrif hon. Yr oedd yn fab i Evan Stephens o Bontnedd- fechan. Crydd, wrth ei alwedigaeth, oedd tad Thomas Stephens, ac yn enedigol o Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Ar ryw foreu dyddLlun, gadawoddEvan Stephens ei gartref, yn Llandybie, yn nghwmpeini cefnder iddo, i edrych allan am waith. Aethant ill dau ar eu cyfer trwy ganol Sir Frycheiniog, ac yn eu blaen mor belled a Chaerloew ; yma y troisant yn eu holau, wedi bod yn aflwyddianus i gael gwaith. Wrth ddychwelyd arosodd ei gefnder yn Nghrughywel, ac yno y treuliodd weddill ei oes. Aeth Evan Stephens yn ei flaen i Ferthyr Tydfil, lle y cafodd waith ac yr arosodd am ryw dymor. O Ferthyr aeth i Bontneddfechan, ac yno y bu yn gweithio i un Benjamin Morris hyd. nes y bu iddo ymbriodi â merch y Parch. William Wil- liams, gweinidog yr Undodiaid yn Mlaen- gwrach. Yr oedd Evan Stephens yn ddyn o gyneddfau cryflon, ac yn ddarllengar iawn. Yr oedd hefyd yn berchen côf rhagorol; a dywedir ei fod yn gwybod y rhan f wyaf o Esboniad Adam Clarke ar ei gôf. Ganwyd Thomas Stephens yn ngwan- wyn y flwyddyn 1821, yn Mhontnedd- fechan, treflan yn perthyn i Ystradfellte, plwyf yn Swydd Frycheiniog, ond yn ymylu ar Forganwg. Yr oedd Dyffryn Nedd, drigain mlynedd yn ol, yn wahanol iawn i'r hyn ydyw heddyw. Y pryd hwnw nid oedd dim yn tori ar ei ddistaw- rwyddond brefìadau y defaid a'r gwartheg, a rbaiadrau gwylltion afon Mellte. Nid oedd neb yn y cyfnod hwnw wedi breudd- wydio y buasai yr agerbeiriant byth yn aflonydäu ar dawelwch y cwm, na mwg gweitbfeydd glo a haiarn yn cymylu ei brydferthwch. Pan y ganwyd Thomas Stephens, yr oedd ei fro enedigol fel yr oedd gan' mlynedd cyn hyny. Yr oedd y trigolion, o ran eu harferion, yn syml a naturiol; nid oedd dim yn tori ar unffurf- iaeth yn mywyd cyíîredin y gymydogaeth ond dywediadau a gorchestion hen gymer- iadau yr ardal—hen gymeriadau oedd wedi tyfu yn naturiol heb gynllun na safon, fel y bedw ar lethrau y bryniau. Yn y dyddiau hyny yr oedd amrywiaeth hapua iawn i'w weled yn ngbymeriad trigolion y fro ; ond erbyn heddyw ofer i ni edrych am y fath amrywiaeth, gan fod sefydliadau addysg y dyddiau diweddaf hyn yn naddu pawb yr un f ath. *Yr oedd Dyffryn Nedd, er ys oesoedd lawer, yn cael ei ystyried fel un o'r cil- fachau mwyaf nodedig yn Nghymru am hen draddodiadau Cymreig. Glyn Nedd oedd un o hofî fanau y tylwyth têg, neu, fel y gelwid hwy yn Sir Benfro, "y dynion bach têg." Yma, fel y dywedodd Dafydd ab Gwilym, " Yr ydoedd yn mhob gobant Ellyllon mingeimion gant." Yn wir, mae rhai henafìaethwyr wedi awgrymu mai yn Nyffryn Nedd yr oedd llys penaeth yr ellyllon—Gwyn ab Nudd, fel y gelwid ef gan yr hen feirdd Cymreig. Yma y byddai yn lly wodraethu y trigolìon, weithiau yn dyner a phryd arall yn ddigon garw, gan newid plant a denu hen delyn- wyr i rj^w ogof, a'u cadw yno dros byth. Mae ysgrechìadau yr agerbeiriant wedi tarfu ymaith y tylwyth têg; ond ma«