Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfres III—Riiif. 1— IIydref, 1882. CYFAILL * YR • AELWYD: OWEN HUGHES: neu, O' FAINC Y CRYDD I'R BENDEFIGAETH. DRAMA BYWYD MEWN TAIR ACT. Gan y Golygydd. Wrth barotoi i godi y llen nnwaith eto ar olyg- feydd y ddrama synü hon, yr ydym yn dymiino cyd- nabod ein rhwymedigaethau i'r lluosog gyfeillion sydd wedi ein calonogi drwy amlygu eu dymuniad am gael ychwaneg o gwmni " Owex Hugiies." Da genym gredu nad oedd y gwersi gynwysid yn y rlian gyntaf o'i hanes yn hollol ddifucíd, a bod y dyddordeH yn ymdrechion y llanc i godi, yn ngwyneb cymaint rhwystrau, i safle uwch yn y byd, yn parhau mor fyw yn mynwesau darllen'wyr CtFAiT.L yb, Aelwyd. Hyderwn y bydd yr Ail Ran yina o'i hanes inor gymeradwy gan y darllenydd ag y profodd y rhan gyntaf: ymdrechwn ninau ei gwneyd mor ddarllen- adwy. ônd, Ust! dyna'r gloch yn canu, a'r llen yn codi i fyny, gan arddangos— YR ACT GYNTAF. GüLYGPA GYNTAF. MaINC Y CllYDD. )AP! Tap! Tap! Ergydion cyflym yn canlyn eu gilydd; a Tap! Tap! íap! yn _ canlyn y rhai hyiiy mor gyöym drachcfn. O'r braidd na aílein dybied mai adsain y Tap ! Tap ! Tap! cyntaf oedd y diwoddaf, oui bac ein bod yn gwybod yn eithaf da fod yr ystafell lìe y tarewid yr ergydion yn rhy fechan, yn rhy gul, yn rhy benisel, i gaaiatau chwareule i'r feiden Adsaiu. " Ha," meddai'r darllcnydd, neu y gwrandaw- ydd, " dau grydd diwyd yn brysur enill eu bara beunyddiol, a phob Tap ! yn dwyn y gwaith yn nes i'w orphen, a'r tâl am dano yn nes i'r llogell." Ie. Nage. Ie, dau grydd diwyd yn prysur weithio. Nage, nid enill eu bara beunyddiol y maent. " 0! rhy w ' thank youjob F " medd y darllen- ydd yn wawdus. Nage.iEto- Edrych o'th gwmpas diarllenydd ; ai tybed y gall y personau sydd wrthi mor ddyfal a diwyd yn yr ystafell fochan yna fforddio gwneyd llawer o " thank you jobs ?" Choelia i fawr ! Edrych ar y ty ! Hen dy tô gwellt ; muriau clai; llawr pridd ; hen wely cw])bwrdd ; dwy ystafell, un yn gegin, a pharlwr, a bedroom;—y llall, a dim ond canol- fttr tenau o wiail cleiog rhyngddo, yn shop waith i'r crydd diwyd ; ysgol arw yn un gongl i'r gegin yn rhoi mynediad trwy dwll ysgwar i'r HoíFt,—gwarchod yr enw,—ystafell fechan yn rhoi lle i'r gwynt oud ddim i'r haul dd'od fewn, ac yn rhy isel i ddyn sefyll i fyuy ynddi. Crogai crochau ar y bachau yn yr hen simdde fawr ger yr ychydig dân mawn ar yr aelwyd ; ond pe byddem yma ryw chwarter awr yn gynt.gwelem mai 'chydig os dim enllin gafodd y teulu gyda'r tato blawdiog o'r ardd, a phrofai y gofal â'r hwn yr oedd geneth fechan ddeng mlwydd oed yn chwalu y tato gweddill yn fwyd i'r gieir oeddent yn clochdar yn y buarth, nad oedd dim yn cael myned yn ofer. Gwir fod yno half-chest yn dysgleirio cymaint fel y gallech yn rhwydd gan- fod eich llun ynddo, ond tipyn o gẁyr gwenyn, gyda digon o " elbow grease ' Mari Hughes, neu Mari fach, oedd wedi cynyrchu y dysgleirdeb yma,—a'r cŵyr hyny hefyd gyda llaw yn gyn- yrch y gwenyn oeddent mor fywiog yn cludo i'r cychod yn yr ardd. Mewn gair, yr oedd pobpeth yn dangos digon o drefu a digon o lauweithdra, ond yn dangos hefyd ddigon o ddyfalwch, ymdrech ddiflino, a thlodi parhaus. Ün o'r manau olaf yn y byd y gellid dysgwyl llawer o " thanìc you jobs /" Ac eto " thanh youjobs" niewn un ystyr oedd ar waith gan y ddau grydd. Nid oedd y^naill na'r llall yn dysgwyl nac yn bwriadu cymeryd yr un tâl am ei waith, ond a gaffai mewn thank you cynes,—a'r pleser fuasai y thank you hyny yn sicrhau yn y fynwes. Llafur cariad oedd gan y ddeuddyn. Ac eto nid yr un cariad. Yr oedd y naill yn gweithio o gariad naturiol; y llall o gariad parch a diolch- garwch, a------rhywbeth arall! Eistedda'r ddeuddyn ar bob i fainc. Y naill yn ddyn yn tynu ar y deugain oed, ac ôl llawer brwydr galed â'r byd ar ei wynebpryd yn ogys- tal a'i ddull. Y llall yn hogyn gwridgoch pym- theg oed, yn ngwyneb llyfndeg, agored, yr hwn nis gellid tybied ei fod wedi gweled nemawr ofìd erioed, ond a oedd, er hyny, wedi ymladd rhagor nag un frwydr ffyrnig—ac wedi dyfod allan yn orchfygwr. Amlwg yw, ar yr olwg gyntaf, mai tad a raab sydd yua yu gweithio ; ruae gwynebpryd byw-