Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfrbb III— Rhif. 5.—Chwefror, 1883. CYFAILL • YR • AELWYD: MICHAEL STROGOFF, NEGESYDD Y CZAR. Gan Jules Veene. (Cyfaddasiad arbenig i " Gyfaill yr Aelwyd" gan Alltud Gwent.) [Sylw.—Cymerwyd y cyfaddasiad hwn, yn nghyd a'r darluniau, o'r copyright edition, trwy ganiatad arbenig y cyhoeddwyr, Mri. Sampson Low & Co , 188, Fleet street.] Penod VIII.—Cyfaill mewn Cyfyngder. ETH Michael yn mlaen yn eofn drwy y tywyllwch tua'r cyfeiriad o'r hwn y daeth y galwadau uchel ain gymorth. Nid oedd amheuaeth yn ei feddwl nad y teithwyr oedd wedi ei flaenori yn y telga oedd mewn cyfyngder. Ond pwy allent fod ? Yr oedd y gwlaw wedi peidio, ond parhäai y gwynt yn ei rym, a chydag anhawsder y cadwai Michael ar ei draed. Daeth y lleisiau yn fwy eglur, ac yn fuan yr oedd Michael yn eu hymyl: ond nis gallai ganfod y personau gan mor dywyll ydoedd, er ei fod yn deall yr hyn a ddywedent. " Wyt ti yn dod yn ol, yr hurtyn ì" ebe un llais. " Ti gei deimlo y fflangell yn yr orsaí nesaf," ebe llais arall. "Wyt ti yn clywed, y gyrwr melldigaid ! Holo!" ebe'r cyntaf. "Dymabetnyw teithio mewn cerbyd yu y wlad hon," ebe'r llall. "Mi a osodaf fy nghwyn o flaen yr awdur- dodau. Twyllo Sais anrhydeddus fel hyn ! Caiff yr adyn ei grogi!" " Wel! mae n ysmaîa, mewn gwirionedd. Cael ein gadael ar y ffordd mewn hauer cerbyd, heb yn wybod i'r gyrwr!" ebe y llall, gan chwerthin yn galonog. " Ni ddaeth y cerbyd hwn erioed o Ffrainc." " Nac o Loegr ychwaith." ^ O'r diwedd, canfu Michael ddau ddyn yn eistedd mewn haner ol telga, gyda'r olwynion wedi ymgladdu yn ddwfn yn y llaid, ac adnabu hwynt fel y ddau ohebydd newyddiadurol fu yn cyd-deithio ag ef ar f wrdd y Caucasus. "Boreu da i chwi, syr," ebe'r Ffrancwr. " Mae'n dda genym eich gweled. Gadewch i mi introducio íÿ ngelyn, Mr. Blount, i chwi." Moesgrymodd Blount, a dywedodd Michael,— " Nid oes angen am hymy, syr ; yr ydym yn adnabod ein gilydd, gan ein bod wçdi bod yn gyd-deithwyr i lawr y Volga." " 0, aie î ie siwr! Mr.------ " Nicholas Korpanoff, masnachydd o Irkutsk," ebe Michael. " Ond gadewch i mi wybod beth sydd wedi dygwydd ag sydd mor helbulus i'ch cydymaith, ond yn achosi y fath ddifyrwch i chwi r " 0, cewch, Mr. Korpanoff," ebe Alcide Jolivet. " Mae ein gyriedydd wedi myn'd yn mlaen, gan ein gadael ni mewn meddiant o haner y telga, heb na gyrwr na cheffylau. Onid yw yn ysmala ì" " Nid peth 'smala o gwbl," ebe Blount. " Pa fodd yr awn i ben ein taith 1" " 0, yn ddigon rhwydd," ebe Jolivet. " Ym- aflwch yn y rhaffau, a thynwch ; cydiaf finau yn yr awenau. a galwaf chwi fy ngholomen fach, ac euwau cyffelyb, ac yna chwi dynwch fel ceffyl. Pan byddwch wedi blino, cymeraf finau eich lle, a gelwch fi yn heu falwoden, neu hen grwban diog, os na fyddaf yn eich cymeryd tua phen eich taith gyda chyflymdra." Gwenodd Michael, a dywedodd :— " Mae genyf fi well cyullun na hwna. Yr ydym wedi cyrhaedd pen y mynydd, ac nid oes geuym yn awr ond myned i waered yr ochrarall. Mae genyf gerbyd yn ymyl, a rhoddaf fenthyg un o'm ceffylau i chwi ; ac felly, os na ddigwydd un ddamwain yn mhellach.cyrhaeddwu Ekaterin- burtr gyda'n gilydd yfory." '"Dyna gynyg tíaelírydig a charedig," ebe Alcide. " Buaswn yn cynyg lle i chwi yn fy ngherbyd," ebe Michael; " ond ni ddeil mwy ua dau, ac y mae íy chwaer a minau yn ei lenwi." "Syr," ebe Harri Blount, "yr ydym gyda diolchgarwch yn derbyn eich cynyg caredig." " Dewch ynte, foneddigion" ebe Strogoff. Disgynodd y ddau o'r darn cerbyd. a dilynas- ant MichaeL Ái y ffordd, yr oedd Jolivet mor llawen ag erioed. " Yn wir, Mr. Korpanoff," meddai, "yr ydych wedi ein gwaredu o helbul difrifol." " Ni wnaethum ond yr hyn a wnaech chwithau, pe yn fy Ue," atebai Michael,