Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfres IV— Rhif 2.— Taohwedd, 1883. CYFATLL-YR'AELWYD: <&$%mMM W$ẁ »* iteraeifo y ëm^ MICHAEL STROGOFF, NEGESYDD Y CZAR. Gan Jtjles Yerne. (Cyfaddasiad arbenig i " Gyfaill yr Aelwyd," yan Alltud Gwent.) íSylw —Cvmerwvd y cyfaddasiad hwn, yn nghyd a'r darluníau, o'r copyright edition, trwy ganiatad ' * hoeddwyr, Mri. Sampson Low & Co, 188, Fleet street.J Penod XXIII.—Y Negesydd Twyllodrus\—-(Parhad.) y cy- 'WjRANOETH ymgymysgodd Ifan Ogareff a'r nŵf swyddogion, y milwyr, a'r dinasyddion, a (2* derbynid ef yn wresawgar gan bawb. Ym- welodd a'r amddiffynfeydd. Ymdyrai y swyddog- ion o'i gwmpas, a holent ef am ci daith, ac am y rhyfelgyrcb. Gorliwiai yntau rif a llwyddiant y gelyn, ond ar yr un pryd, dywedai fod yn rhaid iddynt oll golli pob dafn o waed cyn rhoddi Irkutsk i fyny. Nid oedd yr amheuaeth leiaf yn meddwl neb o honynt nad ydoedd Ogareff yr hyn a honai ei fod, sef negesydd yr Ymerawdwr. CÌybu Wassili Fedor am ei ddyfodiad, ac aeth ato y cyfie cyntaf a gafodd, er ceisio cael rhyw newyddion am ei ferch. Gobaith gwan oedd am hyny, ond tybiai ei fod yn bosibl y gallai glywed rhywbeth a liniarai ei bryder. Hysbys- odd ef am ei ofnau yn nghylch ei blentyn, y gallai fod wedi syrthio i ddwylaw y gelynion, ac amlygodd o dan ba amgylchiadau yr oedd wedi gadael ei chartref. Ymddangosai Ogareff yn gyfeillgar i Wassili Fedor, ac amlygai ddyddordeb yn ei hanes. Ond nid oedd ef yn adnabod Nadia, er ei fod wedi ei chyfarfod yn Ichim, nid oedd wedi gwneyd sylw o honi, felly, ni allai roddi dim gwybodaeth am dani i'w thad. " Pa bryd," gofynai, " y gadawodd hi diriog- aethRwsiaf " Tua'r un amser a chwithau," ebe Wassili Fedor. " Gadewais i Moscow ar y 15fed o Orphenaf." " Rhaid fod Nadia yn gadael Moscow y pryd hyny. Dyna oedd ei bwriad, yn ol y llythyr a gefais oddiwrthi." "Aoeddhiyn Moscow y dyddiad hwnwf gofynai Ogareff. " Oedd yn sicr erbyn y dyddiad hwnw." "Wel! . . . " ebe Ogareff. Yna ych- wanegodd, "Ond, na, rwy'n camgymeryd y dyddiad. . . . Yn anffodus, mae yn bur debyg ei bod wedi croesi y terfyn, ac nid oes genych oid gobeithio iddi aros pan glywodd am ymgyrchy Tartariaid!" Plygodd Wassili Fedor ei ben yn drist! Yr oedd yn adnabod Nadia yn rhy dda, a gwyddai na fuasai dim yn ei hatal rhag myn'd yn mJaen. Gallasai Ogareff ag un gair fod wedi symud baich o bryder oddiar feddwl Wassili Fedor, trwy ei hysbysu am y proclamasiwn a gyhoedd- wyd yn Nijni Novgorod, yn gwahardd i neb ymadael o'r diriogaeth, buasai Fedor yn rhwym o gredu fod Nadia eto yn Rwsia, ac yn ddyogel. Ond ni soniodd Ifan Oganef air am hyny. Aeth Wassili Fedor allan mewn tristwch mawr. Yr oedd pob gobaith am ddyogelwch Nadia wedi ei chwalu. Yn ystod y deuddydd canlynol, holodd yr LTchel Dduc Ogareff amryw weithiau parthed yr hyn a glywodd yn y Palas Ymerodrol yn Moscow. Atebodd yntau yn ddibetrus fod yr ymgyrch wedi ei ddwyn yn mlaen mor ddirgel- aidd fel yr oedd y gelyn mewn meddiant o linell yr Öbi pan gyrhaeddodd y newydd i Moscow, a bod y llywodraeth mewn canlyniad mewn cyfìwr anmharod i anfon milwyr yn ddioed dros y terfyn, i atal ymgyrch y gelyn. Gwnaeth Ogareffy defnydd goreu o'i arnser i archwilio yr amddiffynfeydd, a'r manau gwanaf ynddynt, fel y gallai fanteisio ar ei wybodaeth yn y dyfodol. Talodd sylw neillduol i borth Bolchaia, trwy yr hwn y bwriadai ollwng y gelyn i fewn i'r dref. Yn yr hwyr aeth i ben y mur, ger y porth hwn, yn holiol hyderus na allai neb o'r Tartariaid ei adnabod, gan fod eu gwersyll filldir o ffordd o'r man lle y safai. Ond yn ddisymwth canfu ryw un yn ymsymud o dan y mur. Yr oedd Sangarre wedi dyfod yno, gan beryglu ei bywyd er mwyn agor cymundeb ag ef. Yr oedd y gwarchaedig wedi cael llonyddwch er's deuddydd oddiwrth ymosodiadau y'Tartar- iaid. Yr oedd eu magnelau wedi dystewi ar ol ei ddyfodiad ef i Irkutsk. Yr oedd hyn yn unol a'i orchymyn ef ei hun. Hyderai y byddai y dystaŵrwydd a'r llonyddwch hwn ar ran y gelyn yn foddion i suo y trigolion i deimlad o fwy o