Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ott. VIII.—Ämv. 3.—Mawbth, 1888. CYVAILL-YR-AELWYD: ë%Ut&MU Ptefll äí WmuMtU y titytttty. DEWI SANT. Gan y Parch. G. Tecwyn Parry. fN nhreigliad yr oesau a'u tonau ym- chwyddol, Y llinach Gymroaidd a dreiglodd i lawr Yn llinell unionsyth, yn grev ac urddasol, A swyn ei hathrylith vel ceinder y wawr ; Tra llivai yr " Havren" ei dyvroedd tryloewon Trwy ddolydd a nentydd yn gyvlym a chyson, Nes colli ei hunan yn mynwes yr eigion, A'i glanau yn frwythlon gan lysiau per sawr. Yn swn ei murmuron y ganwyd ein gwron, Ai enw «isialwyd ar donau ei lli'; O gyf y Brythoniaid, gwehelyth y dewrion, Cunedda Wledig—hen deulu o vri; Hen gyf anrhydeddus y deilliodd y seint- iau Vu enwog yn Nghymru yn nhreigliad yr oesau, A'u henwau a erys vel nev oleuadau Ar wybren ddihalog ein hen deulu ni. Mae Non, ei anwyl-vam, yn syllu mewn pryder Ar vaban ei mynwes yn ysgwyd ei vant; Ei chalon a lamai gan donau o bryder, Ei enw barablai," hwn vydd Dewi Sant!" Y bachgen gynyddai yn llawn o vrwd- vrydedd, Lliveiriai ei veddwl hyv donau o vawredd A ddenai edmygedd Deheudir a Gwynedd, A'i enw ddadseiniai ar vynydd a nant. Gwehelyth Wyddelig oedd Non yn ei tharddiad, A'i dad oedd Vrythoniad o galon a gwaed ; Brwdvrydedd dwy galon a darddodd o'r uniad, Brwdvrydedd dwy genedl yn Dewi a gaed; Ymddyrchodd i'r golwg vel seren glaer lachar, Ei galon yn eang, a'i yeddwl yn dreiddgar; A lliv ei oleuni a dreiddiodd ar wasgar Yn llewyrch y nevoedd ar lwybrau eu traed. Hawdd tavlu hyv donau o wawd ar ein gwron [gwlad Ac arllwys nwyv dirmyg ar seintiau ein A savent yn bybyr, a'u tremiad yn eon I wasgar goleuni yn nen Cymru vad ; Yn nyddiau'r tywyllwch addolid y meini, A frovion o'r hanes a gaed yn Nhy Ddewi, Pan holltwyd y " gromlech" a elwid Maen Cati I ladd yr overgoel—enillwyd y gad. Rhyw lu o garnladron a veiddiodd yn eon I dirio yn Dyved ar lanau y wlad ; Y dynol-vwytawyr a'u gwanc yn echryslon, A waeddent am Dewi a'r seintiau i'r gad ; Ymdavlent yn rheibus vel tonau y Morvin I vewn i'r vynachlog a'u tremiad yn erwin; Ond buan y teimlent arogledd y Cenin— A sawr y Geninen ataliodd y brad. 0 ! Gymru vynyddig, hen wlad y Geninen, Mae " adgov uwch anghov " am ddewr- ion dy dir, Yn enyn brwdvrydedd yn nheimlad yr awen [wir; Am lwyddiant y Cymro a'i vamiaith yn Esgyned dy veibion binaclau anrhydedd, A thyved dy verched yn addurni rinwedd, 1 veithrin duwioldeb yn donau gogonedd I'r oesau dyvodol yn gyson a chlir. " Gwyl Dewi " a ddathlir gan Gymry yn gynes, Eu calon ymchwydda yn ngwyl Dewi Sant; Edmygedd ei genedl anwyla ei hanes, A'i chalon ddychlama mewn nwyv ar ei mant; Ei enw a'i hanes a ddeil y Geninen Yn adgov o'i genedl a'i iaith tra bo heul- wen; I A'i volawd ddadgenir ar danau yr awen Tra Mor a Thra Brython gan Gymru a'i flant.