Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ctv. VIII.—Rhiv. 9,-Medi, 1888. CYVAILL • YE • AELW YD: ëìjìmMM W&ẅ »* Wmmttlt xj ë$m*& Y CYMRODOR CYMREIG. DR. JOHNSON A'R GYMRAEG. Papur a ddarllenwyd i Gymrodorion Gaerdydd, Taehwedd \&ved, 1887. Gan Dawdd Mobganwg. ID oes angen i rni hysbysu mai Sais oedd Dr. Sainuel Johnson, a'i vod wedi cyvan- soddi Geiriadur mawr at wasanaeth ei genedl; oblegid y raae'r faith yn ddigon hysbys. Y mae yn hysbys hevyd, mai math o gasgliad, neu grynodeb o eiriau o wahanol ieithoedd hen a rìiweddar yw'r Seisneg. Avraid yw dweyd mai uid lìy vr i'w ddarllen rhag blaen, o'r bron, yw Geiriadur. Y'r wyv vn covio i mi glywed darlîen am hen vrawd yn Ngogledd Cymru, ag oedd yn gryn gyvaill i'r Dr. W. 0. Pugh ; a fan gyhoedd- odd y Dr. ei Siriadur, anvonodd gopi yn anrheg i'w hen g>vaill; ac wedi talm o amser, anvon- odd yr hen vrawd lythyr at y Dr., yn yr hwn y dywedai,. " Weì, Ẃilliam bach, yr wyv wedi darìîen dy lyvr i syd, ond fyn wir nid wyv nemawr callach, ac nis gwn beth oedd dy amcan yn gwneud y vath lyvr cymysglyd—methais i a chael rìim ynddo i egluro unrhyw bwnc o ath- rawiaeth, ac velly ni chevais un budd wrth ei ddarllen." Modd bynag, teimlais inau ryw ysva, neu chwilvrydedd yn ddiweddar, i wybod "»a mor helaeth y devnyddiodd Dr. Johnson yr _aith Gymraeg wrth gyvansoddi ei Eiriadur. Cyvaddevav na ddarllenais y Uyvr yu vanwl, vel yr hen vrawd y cyveiriwyd ato, ond bwriais gipolwg ar bob tudalen, a chevais vod y Dr. wedi bod yn iled onest ar y cyvan i roddi eiddo Ccesar i Ca^sar, trwy gydnabod bod llawer iawn o eiriau \n y Seisne^ wedi eu cymeryd o'r Gym- raeg. Vy amcan inau yn y papur hwn yw nodi rhai o honynt. Gwn mai "esgyrn sychion" iawn i wrandawyr yw rbes o eiriau cyvystyr, gyverbyn a'u gilydd, ac nid gorchwyl hawdd yw eu gwisgo â " giau," heb son am gnawd a chroen. Wel, i gael dechreu, dyma vel y bu. Ar ol cael Geiriadur Mawr Johnson at vy ngwasan- aeth, trwy garedigrwydd vy nghyvaill Cochvarv, gosr.dais y Dr. o'm blaen, i beri iddo adrodd ei gyfes gyda golwg ar y geiriau a gymerodd o'r Gymraeg. Ger vy Haw ddeheu yn vy ymyl, eisteddai y Parch. T. Richards, o Langrallo ; tra yr eisíeddai Cynddelw wrth vy llaw aswy. Pan ddywerìai y Dr. ei gyfes am air, govynwn yn rìrì'ystaw i Richards osoedd ev yn dweyd y gwir ; ac os buasai Richards yn hwyrvrydig i ateb, trown 8t Cynddelw ; a braidd yn ddieithnad yr oeddynt yn cyrìuio, vel yn ngenau dau neu dri o dystion, y mae'r pwnc yn lled bendervynol. Nid rhy w barod iawn oedd y Dr., mwy na rhyw Sais arall, i gydnabod ei ddyled i'r Gymraeg, vel y prawv y brawddegau canlynol, y rhai a geir yn agos i ddechreu ei Eiriadur:— " Though the Britains or Welch were the first possessors of this island whose names are re- corded, and are therefore in civil history always considered as the pre-decessors of the present inhabitants ; yet, the deduction of the English language, from the earliest times of whichwe have any knowledge, to its present state, requires no mention of them ; for we have so few words which can with any probability be refeired to Brüish roots, that we justly regard the Saxons and We/sh as nations totally distinct." Hevyd, y mae'r vrawddeg, " This word is of uncertaiu Ëtymology," yn aml yn nghorf y llyvr, ac y mae yn ymddangos i mi, mai geiriau Cym- raeg yw llawer o honynt. Pa vodd bynag, y geiriau a nodir ganddo ev ei hun, vel rhai yn tarddu o'r Gymraeg, ydynt y rhai a nodav. A. Y mae yn rhyvedd vod y gair cyntav a nodir gan y Dr. o darddiad Cymreig, yn cynwys y cwbl. Gair bychan cynwysvawr ydyw, dim ond tair llythyren, Áll. Yr Holl—oll. AIL the people—Yr holl bobl, &c. B. Y mae'r gair nesav a noda yn un pur anwyl, ac y mae pob uu o honom wedi bod yn llanw hwnw, a'r rhan vwyav o honom yn hof o hono— Babe,—Baby—d'r gäir Baban. Bald yw y nesav, o'r gair Bàl, am vod coìliad y gwalit yn dangos gwynu y croen. Cefyl Bàl y gelwir un â gwynu yn ei dalcen. Y mae'r gair nesav dipyn yn vwy chwareus, a diamheu bod y rhan vwyav o honoch vel vy hun wedi bod yn hofi'r gwrthddrych— Ball— Pêl— Peüen. Chware' pêl, <fec. Pan y mae'r Saeson am wneud arddangosiad anrhydeddus, a thipyn o vyn'd gydag ev, rhaid chwyfìo Banner—ond gair Cymraeg pur ydyw ; a furv ara!l arno yw Baniar. Pan vo angen eillio arnynt, ant at y Barb er, ac y mae eu Barb, a'u Barber hwy, werìi tarddu o Varv (Barv) y Cymro. G wabaniaetha y Saeson a'r Cymry wrth son am Awenyddion—Prydyddion—Poets sy' ganddynt