Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 01. Dan Olygiaeth BERIAH GWYNFE amdílettoî EVANS. féculu. OYNWYSIAD Cyf. I.—Sadwrn, Mawrth 5, 1881. Bnglynfoni Cyfaill yr Aelwyd, gan Moriesin......... 281 GwUdy« Ruífydd, f?an y Golygydd.............................. 281 Oriel yr Enwofion.-Roger Williams, gan Cadrawd... 283 Oerddoria*th fel Meddyginiaeth, gan Seth P. Jones... 285 T Tri Chynghor.—Ystori Wyddelig, gan W., Tregarth 286 CONGL YR ADRODDWR,— Ieuenctyd. gan Brythonfryn.................................... 288 Morfydd Pryse, gan A. Rhra Thomas, (diweddglo)...... 288 YR Ajoran Gerddorol, gan Alaw Ddu,— Y Cynghaneddiad.-Cystadleuaeth Rhif. 15............... 290 ConglHoIiac Ateb.................................................. 291 Colofn yr Ymchwilgar. gan Alltud Gwent..................... 291 YNodiadur................................................................. 292 YWasg........................................................................ 292 Difyrwch yr Aelwyd................................................. 293 CTTRINach t Beirdd.—Y Bardd o'r Bryn mewn Priodas, gan ün a*i olywodd.................................... 398 öwobrau Cypaill yr Aelwyd............................... 298 At eln DarlleHwyr..................................................... 294 Y Teulu ar yr Aalwyd............................................... 294 8T Danfoner arohebion, P.O. ordert, Poital orders, arian, <fcc. wedi eu oyfeirio, D. Willlamì * Sow, Pablishers, Llanelly. "CYFAILL YR AELWYD." ÖAN MoRIBSIN, LlANYMDDYíRI. WN ar ol Cyfaîll tr Aelwyd,—jm hyf l I ofyn melusfwyd ; Gwledd fraf eisoes a gafwyd O'i gu law i edn ei glwyd. Hudlanc yn dechreu anadlu,—yn nawdd Hen fynyddoedd Cymru • Ac ar ei hynt, deifwynt du Na cheled fyth i'w chwalu. Ond acenion byd cynhes,—anadlont Odlau ar ei fonwea; A'i Aelwyd f'o'n hudolea, Llanwer hi yn llawn o wrea. Bachgen glân, dyddan, bod dydd—a llonwych Fydd lleni'i barwydydd; Bydd oddeutu'n rhanu'n rhydd Oludon i aelwydydd. GWLADYS RUFFYDD: Y8TORI HANESYDDOL AM 8EFYDLIAD CYNTA» CRI8TIONOGAETH YN MHRYDAIN. Gan Y Golygydd. Penod XV. (Parhad.) Tynged Junitjs a'i Wyr, 'EL," ebe Sallust, " ni wn í yn iawn sut i wneyd. Nid wyf yn ystyried y dylid gadael i'r dynion hyn fyned yn rhydd yn ddigerydd." " Maent wedi cael cerydd eisoes," ebe Pudens. " Mae y sarhad o orfod ildio eu harfau i ereill, ac i fod megys carcharorion i'n gwŷr ni, yn sicr yn ddigon o gosb iddynt am a wnaethant. Tyred, Sallust, na fydd annhrugarog! Gad iddynt fyned yn rhydd ar fy nghais." "Ardygais di, ynte, hwy a gâufc fyned yn rhydd," ebe Sallust. "Ond cymeraf ofal i'w hysbysu mai i'th eiriolaeth di yn unig y maenfc i ddiolch am y drugaredd hon. Yn awr, beth am Junius ì" " Wel," ebe Pudens, " nid yw yn gweddu i mi ymyraeth o gwbl yn ei achos ef. Gwyddost nad oedd y teimladau goreu rhyngom yn Rhufain. Pe ymyrwn yn awr, a thrwy hyny sicrhau cosb íddo, priodolid hyny gan bawb i ysbryd dialgar ynof fi.'' "Na, na, gyfaill Pudens, nid pawb," ebe Sallust, "Gan lawer, ynte," ebe Pudeus. "A chan nad wyf yn dewis i'm cymeriad gael ei arddan- gos yn y fath oleu, ni fydd i mi a wnelwyí o gwbl a'i dynged." " Yr wyf yn ofui fod dy ysbryd uchel, a'fch dybiaethau dyrchafedig am dy anrhydedd, yn dy arwain i wueyd cam â thi dy hun," ebe Sallust. "Gadawer i hyny fod," ebe Pudens. " Ond gwell genyf wneyd cam â mi fy hun, na gwneyd cam â neb arall, ac yn enwedig à m gelyn. Ca bob chwareu teg o'm rhan i." Ysgydwrodd Salluat ei beu, ac yna gan droi afc Gwladys, dywedodd,— " Wel, gan fod Pudens mor ffol, rhaid i mi gael erlynydd arall yn y gynghaws. Gan hyny,