Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RYTHONES. Cyf. I. MAWRTH, 1879. Rhif. 3. ||í^ gharlotte glliott. YWYD hir o ddyoddef tawel a Christionogol, ac o lafurus gariad dan anfanteision pwysig, yw yr un y bwriadwn ei gyflwyno i sylw ein darllenwyr y tro hwn. Y mae bywyd felly yn llawn addysg. Gwir fod gweithredoedd grymus ac ardderchog i yn gwneuthur mwy o dwrw ac ymddan- gosiad yn mhlith dynion ar y ddaear, ond yn myd yr ysprydoedd, a cherbron Duw a'r angelion santaidd, y mae yn amheus ai nid yw dyoddef yn amyneddgar, a dysgwyl yn ddystaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd, yn cael ei gyfrif o deilyngdod uwch nag hyd yn nod " ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd." O leiaf, y mae bod yn ddyodd- efgar mewn cystudd, a chyflawnu rhyw gymaint o waith dan faich trwm gwendid corph ac iselder ysbryd, " yn wneuthur yn dda." " They also serve who only stand and wait," meddai Milton. Y mae gan Dduw filoedd o weision ufudd iddo, a ehedant ar adenydd y gwynt, a groesant fôr a thir gyda chyflymdra y fellten i wneuthur ei air; y maent yn barod i ymgymeryd a phob baich o ddyledswydd ; ond y maent hwythau hefyd yn gwneuthur gwasanaeth nad ydynt ond yn sefyll a dysgwyl. Prin iawn yw y cyfleusdra i wybod hanes Miss Charlotte Elliott; o ran a wyddom ni nid oes gyfleusdra i'w gael ond cofiant byr, a ysgrifenwyd gan chwaer iddi, i fod yn rhagdraeth i argraffiad diweddar o'i chaniadau; yr un pryd y mae yr hyn a ddadguddiwyd yn ddigon i ateb ein pwrpas ni y tro hwn. Heblaw yn y cymeriad cyffredin o un yn dyoddef trwy ewyllys Duw, fel emynyddts dlos, yr ymddengys y chwaer hon gerbron dynìon. O'r bron na ddywedem