Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

áUEHÄARW, HR. BRìûGENü CWRS Y BYD. Cyf I. Rhif 10. fíYDREF, 1891. Pris Dwy G-einiog. TREFN O'R TRYBLITH, PB cawsai y gweithwyr pan yn gwneud y reil- ffordd, a hefyd weision rheolaidd y Uinell (sef y porters, y guards, a'r drhers,) eu tâl llawn, pe cawsai y rhai hyn wobrwy cyfartal i werth eu llafur, a phe rhoddid i'r teithwyr werth eu harian, ni chawsai y shareholder yr un ddimai fel dŵidend am fenthyg ei gyfoeth. Yn y modd yna yn rhanol y mae yr hyn sydd yn cynrychioli cyfoeth wedi ei symud o ai'ael y gweithwyr î ddwylaw dosbai'th o bobl a wahan- ant en hunain oddiwrth bob llafur. Y mae cyfalaf a Uafur felly wedi eu hysgaru oddiwrth eu gilydd, ac yn ngofal dau ddosbarth o bobl, rhwng y rhai ni fodola unrhyw gysylltiad moesol gwerth o'r enw, Gwelir felly mai tuedd naturiol y gyfundrefn bresenol ydyw gwneud y cyfoethog yn gyfoeth- ocach, a r tlawd yn dlotach; trosglwyddo cyfoeth o logell y gweithiwr i eiddo'r capitalist, cyfoethogi un ran o gymdeithas ar draul tylodi un arall. Mae y trosglwyddiad hwn yn cael ei waeud mewn mil a mwy o ffyrdd, rhai yn gyf- reithlawn ac ereillyn angyfreithlawn, ond i gyd yn anfoesol mewn gwirionedd. Gellir ystyried fod yr oll o honynt yn gynwysedig yn y prif rai canlynol: rhenti, profiû, interests, taxes, spec- ulahons, ac usuriaeth yn gyffredinol. Nìd ydyw y projîts a'r taxes yn ddrwg ynddynt eu hunain, yn wir, yn y gyfundrefn bresenol nis gellir gwneud hebddynt. Rhaid i'r masnachwr gael ei dal am ddosbarthu nwyddau, a rhaid i beir- ianauy llywodraeth gael eu cynal. Enwiry ddau byn am eu bod yn cael eu camddefnyddio mor eithafol, yn arbenig y cyntaf. Am y lleill, maent yn foesol ddrwg—yn anghristionogol. Y mae gweithgarwch cymdeithas ag sydd wedi ei sefydlu yn ol y gyfundrefn bresenol yn dibynu ar gyfalaf a llaf ur. Gwelwyd eisoes fod yn anmhosibl cael cyfalaf heb dlodi. Felly y mae gweithgarwch y gymdeithas yn dibynu ar fodolaeth tíodi. Yn fwy cywir,—dibyna ei gweithgarwch ar y gwahaniaeth a fodola rhwng cyflyrau y gwahanol aelodau yn eu perthynas â chyfoeth. Po fwyaf fyddo'r gwahaniaeth hwn, mwyaf i gyd o waith a wneir, fel rheol; yn enwedigpan y mae y gweithwyr yn anwybodus a gwasaidd. Ond os bydd y gweithwyr wedi eu gosod ar wyliadwriaeth, ac i raddau yn gwybod eu sefyllfa, y mae perygl iddynt wrth- ryfela,—Strihes ydyw y canlyniad. Cyfun- drefn felldithiol ydyw yr un bresenol pan ystyrir fod ei gallu fel peiriant cymdeithasol yn dibynu ar gyfoeth a thlodi. Y mae gan yr egwyddoi isel, wasaidd, greu- lawn hon ei heffeithiau ofnadwy. Y mae y gwahaniaeth sefyllfa rhwng y cyfoethog a'r tlawd heddyw mor fawr nês achosi pobl i weithio bron am ddim. Y mae y cyflogau isel a geir yn ein trefi mawrion mewn llawer galwed- igaeth yn warth i ddynoliaeth. Meibion a merched yn gweithio yn galed o foreu i hwyr mewn awyr afiach, heintus, a phoeth, heb awr o'u heiddo eu hunain. Pleser bywyd wedi diflanu, ac iechyd yn rhoddi ffordd ; ac i radd- au pell moesau yn cael eu chwalu, a'r ystryd- oedd liw nos yn cael eu mynychu. Wrth chwilio i fewn i r bywyd isel anifeilaidd hwn, y mae'r darganfyddiadau yn warthus a thruenus dros ben. Digon yw i yru dynion i godi mewn gwrthryfel yn erbyn y lladron cymdeithasol hyn sydd yn creu y fath drueni, ac yna yn chwerthin am ben y trueiniaid. Son mawr sydd am y ddiod feddwol a'i heffeithiau, ond y mae effeithiau hono yn ym- grebychu ac yn myned yn ddim wrth ei chym- haru ag effeithiau ofnadwy y gyfundrefn fas- nachol bresenol. I raddau pell iawn canlyniad naturiol y gyfundrefn ydyw y meddwdod truenus a geir yn mhlith dosbarthiadau isaf cymdeithas heddyw. Rhwydd iawn ydyw anfon cenhadon i fysg y bobl hyn i'w rhybuddio i garu en gilydd, a bod yn ufuddi'wmeistriaid. ac yn onest yn eu gwaith, ond peth go anhawdd ydyw ufuddhau i'r fath orchymynion. Y mae y gyfundrefn yn dweud yn eglur wrthynt am gashau eu cymydogion, yn peri iddynt wrth- ryfela yn erbyn eu llywodraethwyr, ac yn dysgu anonestrwydd mewn gwaith.