Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWES Y BYD. Cyf I. Rhif 11. TACHWEDD. 1891. Pris Dwy G-einiog. TREFN O'R TRYBLITH. PWNC pwysig arall yn nglyn a'r gyfundrefn bresenol ydyw ansicrwydd ac ansefydlog- rwydd bywioliaeth. Yn bresenol, y peth pwys- icaf i ddyn ydyw gofalu am dano ei hun. Y mae hyny yn ei wneud yn anibynol ar ei gymydog, fel y sylwyd eisoes. Y mae yr anibyniaeth hwnw yn gorfodi dyn i gario ar ei ysgwyddau ei hun ganlyniadau ymdrechion ei lafur. Am yr un rheswm y mae sefyllfa fydol dyn yn beth dirgelaidd i raddau pell iawn hyd yn nod ì'w gymydogion agosaf. Nid oes ond efe ei hun a'i Greawdwr yn gwybod yn gywir ei amgylchiadau presenol, ac y mae ei amgylch- iadau dyfodol yn dywyll hyd yn nod i'r dyn ei hun. Dyma ddyn yn cymeryd gwraig acyn "dech- rcu byd" fel y dywedir. Mae y gwr yn fasnachwr, ac yn berchen ar ei fasnach ei hun. Cwestiwn pwysig i'r gwr ar hyn o biyd yd}rw a gaiff efe gefnogaeth yn ei waith. Nis gwyr ei hun. Nid oes neb all ddweud wrtho chwaith. Gall ddweud wrtho ei hun " gwnaf fy mded- swydd, byddaf yn onest, a byddaf yn ddiwyd, nid yn unig er lles fy hun onä hefyd er mwyn fy ngwraig." A ydyw hyny yn ddigon ? A sicrha hyny lwyddiant iddo P Na, fel y gwydd- om oll, ni wyr y dyn fwy na'r marw pa un ai llwyddiant ai aflwyddiant ddilyna ei ymdrech- ion. Y mae y fath dywyllwch 3-n un o effeith- iau mwyaf melldigedig y gyfundrefn bresenol. Y mae yr ansicrwydd hwn sydd yn cydfyned â, ac yn anwahanedig oddiwrth gystadleuaeth yn w arth i ddynoliaeth. Credwn fod yr amheuaeth a leinw galon dyn yn nghylch ei fara beunydd- iol yn achos llawn 75°/0 o bryderon bywyd. Y fath ofid y mae llawer tad yn ddioddef wrth weled ei fasnach yn methu, a'i wraig a'i blant bach yn brin o däillad a bwyd! Y fath greulondeb echrydus yw gweled mam a'i phlant o herwydd colli tad yn angau yn ymladd a'r byd ac yn byw mewn prinder. Yr ydym wedi ymgynefino â gweledigaethau o'r fath, a thrwy hyny wedi yrogaledu ! Ychydig o gydymdeimlad felly sydd tuag at y cyfíryw. Onid rhyfel ydyw bywyd, a pha le sydd i gyd- ymdeimlad ar faes y gwaed. ? Y mae holl weithwyr ein gwlad yn agored i fyw mewn prinder pan yr ant yn rhy hen i weithio. Er eu bod wedi gweithio yn galed drwy eu hoes, ac yn onest i drwch y blewyn, pan ddaw ychydig o selni ar eu traws, a methu gweithio, dyna derfyn ar yr ychydig gysur a gawsant, a therfynant eu dyddiau mewn eisiau. Yn aml caiff charìty le yn niwedcl eu hanes. Pan ddygir i'r goleu wir sefyllfa gweithiwr gonest (ac nid hawdd yw hyny, y mae bron yn well ganddo farw na cbardota) pan geir allan ei fod wedi ei gyfyngu i'w weiy, a'i wraig mewn prinder bwyd yn ei wylio, fe ddaw y cyfoethog yn mlaen yn enw charity (a diolch iddo am h}-ny) ac a rydd am 3-sbaid lonyddwch i'r teulu oddiwrth bryder. 0 mor rhyfedd ydyw effeithiau y gyfundrefn felldigedig hon ! Mae y gweithiwr ar hyd ei oes drwy chwys ei wyneb wedi bod yn creu cyfoeth, y rhan fwyaf o'r hwn yr oedd yn drosglwyddo i wneud y cyfoethog yn gyfoethocaeh.' Y cyfoethog wedi hyny yn neshau at wely y gweithiwr yn enw charity ac yn rhoddi iddo fel anrheg yr hyn mewn gwirionedd oedd yn eiddo personol iddo cyn i'r cyfoethog erioed ddyfod i feddiant o hono, O na welai pob gweithiwr yn eglur ddrygioni y fath weithredoedd. Byddai yma chwildroad mewn byr ainser. Dywed rhai y dylai pob gweithiwr roddi cyfran o'i enillion o'r neilldu erbyn dydd caledi. Dywediad llithrig a pharod anarferol ydyw hwna. Gwyddom mai nid o herwydd diffyg rhag-ofalu y mae rban hclaeth iawn o'n gweith- wyr yn byw mewn eisiau. YT gwirionedd yw, y mae yn amnhosibl i bawb wneud hyny. Yn y gyfundrefn bresenol y mae yn anichonadwy i bawb fod 711 gyfoethog. ' Y mac'r gyfundrefn yn creu cyfoethogion ac yn gorfodi eu bodol- aeth, ond ar yr an pryd yn peri fod tlodion. Nid effaith diffyg meddwl neuanallu uaturiol chwaith sydd yn esbonio y tylodi. Peidied neb a choleddu y fath syniad. Pe gwastad- heid pawb heddyw o ran cyfoeth, gallu meddyl- iol, a deheurwydd mcwn gwaith, ac hyd yn nod pe bjddai pawb wedi eu ìlunio yr un fath, yn berc'hen ar gynheddfau cyfartal yn mhob modd,