Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWR8 Y BYD. Rhif 17 MAI, 1892. Cyf II Y DIWEDDAR EOS WYN, ALLTWEN. AEWR " YSTAPELL Y CYSTUDDIEDIG." CYDNABYDDIR gan bawb nad ydyw Cof- iantau hirion ac eithafol, y rhai a ymddengys yn rhy fynych am bersonau cyflredin a diuod, yn ddim amgen na beichiau poenus i feddwí iach a chwaethus; ac ui ddarllenir rhyw lawer ar y cyiryw gan neb y tu allan i gylch bychan cyfeillion a pherthynasau y rhai ymadawedig. Gwir mai da genym glywed canmol ein hanwyliaid a osodwyd yn y gro, dyna deimlad naturiol y rhan fwyaf o houom, a chcir digon, o ran hyny, o ysgrifenwyr galluog yn barod at y gor- chwyl o groniclo Cojìant teilyngach o ddyn Cenedl nag o berson di-ddrwg-di- dda, na adnabyddwyd mo hono erioed gan neb y tu allan i olwg mwg ei fwthyn. Gofynai person yn ddi- weddar pan ddarllenid cof- iant yn ei glywedigaeth, pwy oedd y dyn rhagorol hwnw ? a synai y darllen- ydd at y cwestiwn, am y gwyddai yr arferai yr ym- adawedig fyw yn ei yniyl! Cydnabyddai yr arferai un o'r eww, ond nid o'r fath gymeriad llachar fyw yn ei ymyl dro yn ol. 'A iÿno glod bid farw." Edward Young ydoedd enw priodol gwrthrych ein hysgrif; ond wrth ei enw llenyddol yr adweinid ef yn mhell ac agos. Mab ydoedd i Thomas ac Ann Young, o bentref gwledig Llandysilio, yn sir Benfro, ond symud- asaut fel teulu i ardal Alltwen, pan oedd yr Eos tua deng mlwydd oed. Yn yr oedran yna, gellir cyfrif ddarfod iddo enill enw neillduol fel ysgolor, canys, yn ol tystiolaeth ei fam oedranus, yr hon sydd eto ar dir y byw, Oddiwrth Ddarlun dechreuodd ar ei ysgol yn bedair blwydd oed ; ac erbyn ei fod yn ddeg oed—adeg ymadawiad y teulu a'r ardal—yr oedd Edward bach wedi agos dihysbyddu ffynonell addysg yr ysgol- feistr hwnw. Ni chollai ddiwrnod o'i ysgol ar un cyfrif, o'i ran ef ei hun, ac aberthai lawer i'w chael. Y mae a ganlyn yn profì hyny tuhwnt i bob amheuaeth. Un tro, ymddengys ddarfod i Edward, yn nghyd ag un arall o'i gydysgolheigion, droseddu yn erbyn yr ysgol- feistr, a hawliai yr hen _ _ wron fel iawu am y ti*os- edd fod y ddau, naill ai i dderbyn nifer o wialenod- iau ar eu dwylaw, neu orfod cadw o'r ysgol am dair wythuos. Dewisodd Edward bach y gwialenod- iau; ond y llanc arall a ddewisodd dair wythnos o seibiant. " Mam," meddai y gwr bach, pan yn dangos ei ddwylaw clwyfus iddi, wedi deroyn y driniaeth arw, " mi wèll 'y nwylaw i eto, ond chawswn i byth mo'r tair wythnos ysgol yn ol wedi eu colli uu- waith.'* Dyna wirionedd p\vysig onidê, ddarllen- ydd ? Bellach, cawn y teulu yn ardal Alltwen, ac Edward, y llanc bywiog ac iach, yn mynychu ysgol "hen Dda^s y líhos." Ymddengys nad oedd yr hen frawd hwnw chwaith, .'r«ẅ."i»i879 la^er cyfoethocach na'r cyffredin o ysgolfeistri yr amser hyny mewn gwybodaeth, canys cawn i Edward orfod gadael y lle am y rheswm nad oedd modd iddo ddys^u rhagor yno. Cofier nad oedd yr ysgol- feistr rhagorol Mr. Jenldns yn yr ardal o gwbl yr adeg hono. Cawn Edward yn bresenol, yn dechreu gweithio yn Ngwaith Alcan Pontar- dawe, er nad oedd ond un ar ddeg mlwydd oed ;