Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWES Y BYD. Rhif 18 MEHEFLN, 1892. Cyf II PE DEUAI CEUST. Meddyliwch fod Seren Bethlehem arall wedi ymddangos ryw 30 mlynedd yn ol, ac yn nhy rhyw weithiwr tlawd mewn rhyw bentref gwleóf- ig, fod Mesiah arall wedi cael ei eni, yr hwn, ar ol dilyn ei alwedigaeth am flynyddoedd yn mhlith y gwaelaf a'r diystyraf o'r bob!, ac yn astudio gyda doethineb a thynerwch anfeidrol ar gyflwr dynoiry w, ai fod yn awr yn 1892, yn cychwyn ar ei weiuidogaeth, yn mha gyflwr y can'iyddai Efe y t yd wedi deunaw canrif o Gristionogaeth ? Ai ni chelai fod helyntion prif genedloedd y byd Cristionogol o dan ly wodraeth Phariseaid ? Ai nid Prydain Grist ionogol \u myned i ryfel i amddiffyn bund- holders yn eu hawl i ysbeilio'r Aiphtiaid ? Ai can mil o ladron a phuteiniaid yn mhrif ddinas y byd ? Ai menywod yn gwneud gwaitlri dynion rnewn gweithfeydd haiarn a glo, a hyny am lai na digon i gynal corph ac enaid wrth eu gilydd p Ai gweitbwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon yn byw bywyd o dlodi, afiendid ac anwybodaeth, heb ddim yn aros ar eu cyfer yn nyddiau henaint a methiant ond tlotty y Sir ? Ai naw rhan o bob deg o dirocdd yr ynysoedd hyny yn cael eu dal a'u hawlio gan ìai na -30,000 o dir- lwyddi, y rhai, yn nghyd a'u perthynasau hyd y drydedd a'r bedwaredd genedlaeth, sydd yn byw ar enillion y dosparth gwael ac anwybodus hwn, fel y cŵu ar y celaneddau ? Ac a gelai Efe sefyllfa pethau rywbeth yn well yn ninasoedd mawrion a rhandiroedd amaethyddol a ffrwythlawn cyfandir Ewrop ? Wrth groesi y Werydd, ai nid y cyfoethog yn ymgyfoethogi a'r tlawd yn myned yn diotach a welai yma hefyd ? Ai nid pobl yn heidio yr heolydd, unig ffordd o fywioliaeth pa rai ydyw tlodi, llygredigaeth a throsedd ? Ai nid tlottai a charcharau yn cael eu llenwi hyd nad oes lle ? Ai nid gormeswyr, cribddeilwyr, a segurwyr, mewn byd ac eglwys, yn pesgu ac ymbingcio ar lafur y gweithiwr tlawd P Ai nid arian yn llywodraethu'r byd yn wleidyddol, cymdeithasol ac eglwysig ? Ai nid capital wedi ei goroni yn frenin, a gwaith wedi ei ddarostwng yn gaethwas dirmygedig P Ai nid ocraeth (interest) fel ffordd o fyw yn cael ei amddiffyn a'i gyfreithloni gan y gyfraith ? Ai nid llyg- redigaeth yn brif nawdd a chymhortb y rhai sydd yn deddt'u a llywodraethu ? Ai nid miloedd ar filoedd o dlodion y prif ddinasoedd a'r centres masnachol yn cael eu malu yn llwch gan greulondeb deddf y supply and demand? Ai nid y ddaear ar yr hon y'n genir ac y rhaid i ni fyw yn cael ei gorfaelio i ddwylaw yr ych^'dig landlords ? A ineddyliwch ei fod yn dyîod gydag ychydig gaulynwyr tlodion. dinod, a diddysg, ac yn dyweud wrth y beudefigaeth fawr Gristionogol, eiu blaenoriaid crefyddol mewn gwlad ac eglwys ; " Edifarhewch, canys neshaodd teyrnas nefoedd! " Edifarhewch ! Newidiwch eich dull o fyw ac o feddwl. Rhoddwch heibio falu y tlodion. Na chymerwch usuriaeth—interest— oblegid dyna ystyr y Beibl i'r term. Rho'wch y ddaear i'r bobl; y ddaear a wnaeth Duw i'w blant. Ymataliwch rhag diraddio llafur a dwyfoii arian. " Gwerth yr hyn sydd genyt, a d}rro i'r tlodion." Beth pe dywedai hyn ? Dy wedai y bobl : " Crank crefyddol ydyw ; Communist. Dylid ei ddanfon i'r bedlam; " YmaithagEf." Mae y cyfi*yw athrawiaethau yu beryglus i gymdeithas. Nonseme i gyd; Dyma oes fawr gwareiddiad Cristionogol. Ni ddylai cranJcs o'r fath gael bod yn rhydd. Tynai i lawr holl waith y ganrif fawreddog hou o lwyddiant a dadblygiad." Ac yna meddyliwch ei fod yn troi ac yn dweud, " Gwae di, Llundain! Gwae di, New York! Gwae di, Washington! Gwae chwí, Ysgrifenyddion a Phariseaid — rhagrithwyr! Yr ydych yn degymu y mintys, yr anis, a'r cwmin, ond yn gadael heibio y pethau trymaf o'r gyfraith, barn a thrugaredd. Gwae chwi dywysogion deülion, y rhai ydych yn hidlo gwybedyn ac yn llyncu camel. Eich ty a adewir yn anghyfanedd. Yr ydych yn siarad am deml fawr eich gwareiddiad diweddar, ond yr wyf yn dywedyd i chwi na adewir maen ar faen o noni ar nis datodir. Dyna efengyl teyrnas nefoedd, a'r hon wyf wedi dyfod i'w sefydlu." Beth fyddai effaith y fath ddysgeid- iaeth, ac yn dyfod fel y byddai oddiwrth Genad Ddwyíol—Anfonedig P Pe llwyddai ei genad- wri, a phe dechreuai y lluaws ei ganlyn, y waedd uniongyrchol fyddai, " Ymaith ag Ef ! Croeshoelier Ef!