Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Rhif 27 MAWRTH. 1893. Cyp III JOHN PENRY, "neu IOAN AP HENRI/' PAN oedd John Penry yn 20 mlwydd oed, ae wedi bod dros flwyddyn yn y brif-athrofa, ^anwydlÌhysPrichard,awdwr Canwylly Cyu.ry, yn nhref Llanymddyfri, heb fod yn mhcll iawn o Llangamarch a'r Cefnbrith. A sicr yw fod hanes John Penry, oa nad ei berson, yn gwbl adnabyddus i'r Ficer yn nyddiau ei-blentyndod, eanys nis gallasai dyn o'r fath fod yn guddiedig yn yr oes houo. Ceisiodd, a cheisia rhai ddadleu nad oedd y Cymry yr amser hwnw mor druenus eu cyflwr ag y darlunia Penry hwynt, a'i fod yn gwneud hyny fel esgus dros derfysgu y wlad a'r eglwys ; ond y mae yn amlwg oddi wrth gerddi, neu bregeth-gerddi yr hen Ficer, y rhai ni chvfansoddwyd. a "dyweud y lleiaf. 14 o flynyddoedd wedi claddu Penry, fod pethau yn llawn gwaeth yn Nchymru nagoedd efe wedi ddweud, acyr oedd y Beibl yn Gymraeg wedi bod yn pu dwylaw y rhftii fwyaf o'r amser wedi marwolaeth Peury. YTn 1593, onite y gorphenodd yrEsgob Morgan ei waith ? Mae yn amlw« fod y Ficer hefyd fel Penry yn awyddus am lesoli ei gydgenedl. .Yn ei bregetb-gerdd. " Cyngor i wrando a darllain Gair Duw." dywed : — " Ni chyst Beibl i ni weithian Ddim tu hwnt i goron arian; Gwerth hen ddaf'ad a fo marw Yn y clawdd ar noswaith arw. " Mae'rcobleriaid a'u morwynion A'r rbai gwaetha'n mysg v Saeson Bob yr hii a'r Reibl ganddynt Ddydd a nos yn darllen ynddynt. " Mae'r penaethiaid gryda ninau A'r tableri ar y byrddau ; Heb un Beibl nac un plygain Yn eu tai na neb i'w darllain " Pob merch tincer gyda'r Saeson Feder ddarllain llyfrau mawriou ; Ni wyr merched llawer scwier Gyda ninau ddarllen pader. " Gwaradwydd tost fydd i'r Brutaniaid Fod mewn crefydd mor ddieithriaid ; Ac na wyr y canfed ddarllaiu Llyfr Duw 'n ei iaith eu hunain." Dadleuai Penry dros gael 300 o wyr dysgedig o'r prif ysgolion i ymsef}Tdlu yn y trefi ac ar lanau y môr lle yr oeddid yn siarad Saesneg, a bod i'r Cymry oedd mewn bywiolaethau yn Lloegr, ga^ 1 eu galw adref i gymeryd gofal plwyfi Cymreig. Y"r oedd yn llawdrwm iawn ar y gwyr hyny oedd yn ddigon galluog, ond yn rliy ddiog i bregethu ; ac amlwg yw fod y Ficer yn gweled pethau yn yr un goleuni _yn ei ddyddiau yntau, dywed : — " Llef gan hvnv ar y ffeiriaid Am roi bwyd i borthi'th enaid ; 'H wyt ti 'n rhoi dy ddegwn iddyn' Pâr i nhwythau dori 'th newyn. " Pe doe Suddas i bregethu 'Fengyl Crist ti ddylit ei dysgu ; Fe all y fengyl gadw d' enaid Er ith athro dost gamsyniad. '• Os dy fugail fj-dd anweddaidd A'i athrawiaeth yn Gristnopraidd, Dysc ei wers na ddysc ei arfer, Gochel feiau Paul a Pheder. " C\mer berl o enau llyffan, Cymer air o enau'r aflan, Cymer win o botel fudur, Cymer ddysg o ben pechadur." A cheir yn ei gân, " Hil Brutus," ddarlun- iadau o fywyd cymdeithasol a theuluaidd y Cymry. yn neillduol eiddo y gwyr mawr, mwy torcalonus, 'ie, duach na dim a ge r yn }Tsgrifau Penry, dywed:— " Y"mbescu ar bechod fel moch ar y callod Ymlenwi ar bob diod fel ychen ar ddwr, Yrmdroi mewn puteindrafel perchill mewn llaca Yw'n crefydd, heb goffa'n Cyfryngwr. " Mae'r ffeiriad, mae'r ffarmwr, mae'r hwsmon, [a'r crefftwr, Mae'r Baili a'r Barnwr a'r bonedd o'r bron Bob un am y cynta yn digio'r Gorucha', Heb wybòd pun waetha'u harferion. " Mae'n anfoes i'm draethu ein campau ni 'r Oymry