Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWES Y BYD. Rhif 33. MBDI, 1893. Cyf. III CYMDEÍTHASIAETH. Gan R. J. Derfel. Oymdeithàsiaeth t Beibl : Cyfoeth a. Chy- foethoöion. Beth ydyw cyfoeth? Yr ateb a roddid i'r gofyniad gan lawer, mae'n ddiau genyf, fyddai, mai cyfoeth ydyw aur ac arian bathol ac arian-nodau. Mae y ffaith ein bod drwy afferynoliaeth arian bathol yn gallu prynu beth bynag fydd arnom eisiau yn ddigon naturiol yn arwain yr arwynebol i feddwl fod arian bath- ol yn gyfoeth ynddynt eu hunain. Ond ychydig o ystyriaeth fanwl ar y mater a ddengys i ni yn dra buan nad yw arian bathol nac arian-nodau yn gyfoeth o gwbl. Gellir yn hawdd dybio am ddyn mewn meddiant o lon'd tŷ o aur ac arian ac ar yr un pryd yn dlawd hyd farwolaeth, am nad oes ganddo ymborth i'w fwyta, na diod i'w ddisychedu, na thân i'w gynesu, na dillad i'w gwisgo. Mewn amgylcniad fel yna byddai torth o fara, cant o lò, llestriad o ddwfr, a gwisg o ddillad yn wir olud, tra na byddai yr arian yn werth dim. Nid yw arian fel y cyfryw yn fwyd na diod, na gwisg, na thŷ, na thàn, na dim sydd yn cynorthwyo dyn i fwynhau bywyd. Mewn gwirionedd, nid yw arian yn ddim ond safon i fesur gwerth a chyfrwng i gyfuewid y naill beth am y llall. Mewn geiriau eraill, clorian i bwyso a Uathen i fesur gwerth ydyw arian. Gall unrhyw beth a ddewisir, drwy gydsyniad cyffredinol yn safon i fesur gwerth, Fod yn arian. Fel mater o ffaith, mae agos i bob peth wedi bod yn arian rywbryd yn rhywle neu gilydd. Arian pobl China un amser ydoedd cubes bychain o ddail tê wedi eu gwasgu. Mae rhai llwythau o Indiaid hyd heddyw yn arfer math o gregin yn arian. Mae amser wedi bod yn hanes pob cenedi pan nad oedd ganddynt arian o fath yn y byd. Y prjrd hwnw eerid pob masnach yn mlaen drwy fíeirio. Mae yn amlwg nad yw arian yn gyfoeth, nac yn ddim mwy na llai na safoni fesur gwerth a chyfrwng i gyfnewid nwyddau. Gwaith anhawdd, os nad anmhosibl, ydyw ffurfio darnodiad mewn ychydig eiriau o gyfoeth. Y darnodiad cyffredin o gyfoeth ydyw hwn—cyfoeth ydyw unrhyw beth sydd yn meddu ar werth ffeiriol. Mae hyny yr un peth a dyweud fod pob peth prynol a gwerthol yn gyfoeth. Eglurir y darnodiad drwy ddangoa nad yw yr awyr a'r goleuni yn werthol, am y gellir cael digon o'r ddau heb eu prynu. Er hyny, mae awyr iach a goleuni heulog yn elfenau pwysig i gynyrchiad cyfoeth. Lle mae f'oleuni helaeth ac awyr bur, mae cyfoeth yn »awdd i'w gael; a lte mae goleuni yn brin a'r awyr yn oer, mae cyfoeth yn fach ac ansicr. Heblaw hyny, mae lluaws o bethau yn ein dyddiau ni yn brynadwy a gwerthadwy nad ellir mewn unrhyw ystyr resymol eu galw yn gyfoeth. Gwell darnodiad o gyfoeth na'r bíaenorol fyddai hwn: cyfoeth ydyw unrhyw beth angenrheidiol, defnyddiol, a gwasanaeth- gar i fywyd. Mae y darnodiad yna yn cymeryd pob peth i mewn fel cyfoeth sydd yn angen- rheidiol i fywyd, yn ddefnyddiol mewn bywyd, ac yn wasanaethgar i wnend bywyd yn dded- wydd ; ac yn gadael allan bob peth diangen- rbaid a diles, er eu bod yn meddu ar werth ffeiriol. Mae diod feddwol yn werthol, mwyaf y gresyn, ond nid ydyw yn gyfoeth. Yn lle bod yn gyfoeth mewn gwlad, mae yn gyfoeth ddinystrydd. Gellid colli pob march rhedeg yn y wlad, heb fod cyfeeth y wlad ddim yn llai. Yn wir, y mne llawer o bethau yn y byd y dydd hedddyw y byddai eu colli i gyd yn ychwanegiad dirfawr at gyfoeth gwirioneddol y bobl. Golwg fel yna ar gyfoeth a geir yn y BeibL Dyna ddameg Nathan,—" Dau wr oedd yn yr nn ddinas ; y naill yn gyfoethog a'r llall yn dlawd. Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawn o ddefaid a gwartheg ; a chan y tlawd nid oedd dim ond un oenig fechan." Fel hyn y dywedir am Job,—" A'i olud oedd saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum' can' iau o ychain, a phum' cant o asenod. a llawer iawn o wasan- aethyddion, &c." Cyflwr dechrenol neu gyntaf dyn ydoedd anwarogaeth; ei ail gyflwr ydoedd caethwarogaeth; ei drydydd cyíiwr }'doedd cyflogwarogaeth; mae yn y cyflwr yna yn bresenol. Y cyflwr uesaf rhyddogaetb, ac i