Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

íì J ^u 'j ' ■ i *7? <C CWRS Y BYD. Rhif 37. IONAWR, 1894 Cyf. IV. CTMDEITHASIAETH. Gan B. J. Derfel. Llythye XIV. Cyflog a Gwaith. Dywedai Adelina Patti wrth ohebydd ei bod yn derbyn yn America £8ü0 y nôson, a £1,000 am bob cytundeb ychwanegol Oes rhy wun yn y byd a feiddiai ddweyd fod unrhyw un gan- tores yn werth cymaint o swm, neu yn haeddu ei gael ? Paham, meddai rhywun p Am y rheswm holl-ddigonol fod yn rhaid gwasgu a chwysu Uawer- oedd i wueyd y fath swm i un persom. Os bydd un yn cael mwy na'i ran mae eraill yu cael llai. Yn y chwareudai, mae meibion a merehed mor angen- rheidiol i lwyddiant y sefydliad a'r gantores benaf yn cael cyflogau mor fychain fel y maent yn cael traâerth i ddwyn y ddau ben at eu gilydd, am fod un person yn cael gormod. Gor- fodir y cyflogwr wedi hyny i godi tâl mor uchel am eisteddle i wrando fel nad all neb ond y cyfoethogion gael modd i glywed y gantores. Mae y pris yn atalfa effeithiol i bawb o'r bobl gyffredin. Fel yna mae rhoddi symiau anferthol i un person yn gor- fodi y cyflogwr ar y naill law i wasgu a chwysu y chwareuwyr cyffredin, ac ar y llaw aralli godi tâl gormodol oddiar y cyhoedd i wneud y swm i fyma. 0 flaen Dirprwywyr Llafur y dydd o'r blaen, tystiai Ellis Gatley fod dyn- ion yn gweithio ar gamlesi gant o oriau yn yr wythnos am £1 5s. 9c. I. Bellam, o'r dref hon, a ddywedai fod dynion yn gweithio o 104 i 109 awr am £1 2s. yr wythnos. Ac onid oes gwneuthurwyr crysau yu y trefydd yma yn gwnio crysau am naw ceiniog y dwsin, ac er gweithio 15 awr a mwy yn y dydd yn methu enill wyth swllt yn yr wythnos ? Mae gwneuthurwyr blychau magdanau yn gwneud deu- ddeg dwsin am 2|- c; ac er gweithio agos ddydd a nos bob dydd yn yr wylhnos nid allant enill mwy na saith neu wyth swllt yn yr wythnos. Mae Adelina Patti yn derbyn oddeutu can' punt yn yr awr. tra mae chwiorydd iddi yn gweithio yn galed am o geiniog i geiniog a dimau yn yr awr. Ydyw peth fel hyn yn iawn ? Ydyw un ddynes yn werth mwy na deng mil o weithwyr diwyd eraill ? Paham y telir mwy am ganu cân nag am wneuthur crys ? Cyfoeth y wlad ydyw bwyd, dillad, a diddos- rwydd. Mae pawb sydd yn gweithio i gynyrchu ymborth, a dillad, a thai, aphobpethangenrheidioli'wcynyrchu, yn cynorthwj'O i ychwanegu golud y wlad. Ond nid yw canu ynddo ei hun, pa mor gywrain a medrus bynag fyddo y cantwr neuy gantores.yn ychwanegu gwerth dimau at olud y wlad. Paham y telir mwy am foethau nag am angen- rheidiau ? Os dylid taiu mwy i'r naill nag i'r lla.ll, yn ol cyfiawnder, i'r hwn sydd yn cynyrchu mwyaf o olud y dylid talu mwyaf. G-werth y gwasan- ^,ôth ddylai fod mesur y cyflog. I fesnr gwerth y gwasanaeth yn deg, rhaid cymeryd i ystyriaeth galedwch y gwaith, yr anhawsderau, ei iachus-" rwydd a'i aniachusrwydd, ei ddyogel- wch a'i beryglon, ei hyfrydwch a'i ahfoddogrwydd, ei ddymunoldeb a'i annymunoldeb, ac yn enwedig gwerth a i^nyddioldeb yr hyn a gynyrchir. wÊ0 yn bwnc i'w ystyried, ac yn bwnc o Ibwys hefyd, a ddylid gwneud gwahaniaeth o gwbl yn y cyflog am wahanol orchwylion. Ond er mwyn yniresymu y peth, cymerwn yn gan- iataol am funyd fod rhai gweithwyr yn haeddu mwy o gyflog nag ereill. Wrth ba fesur a rheol y penderfynir