Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Rhif 39. MAWRTH, 1894 Cyf. IV. Y PARCH. THOMAS DAVIES, OLYDACH, YN EI FEDD. Preswyliai dyn a elwid EliasThomas baner canrif yn ol mewn bwthyn bychan llwyd a elwid Blaentir, gerilaw Horeb, Lhtndyssyl, Sir Aberteifi, dyn cymharoi dal, difrifol ei wedd, a bone- ddigaidd ei symudiadau, cerddai nid fel un am fyned drwy y byd heb i neb wybod am dano, eithr fel pe am i'r ddaear deimlo ei bwysau, „ac am i'r oesoedd a ddeuai weled olion ei draed. Dilledydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a dybynai yn hollol am ei fywioliaeth ar ei ddiwrnod gwaith. Yr oedd ei feddwl fel mynydd aml-ochrog o'r hwn yr oedd ffrydiau o ryw fath o athryljíh yn tarddu, a phe buasai yn ddyn cyfoethog galwesid ef yn ddyn mawr, ond gan mai dyn tlawd yçloedd ystyrid ef yn ddyn rhyfedd. Yr oedd y Beibl ar tiaenau ei fysedd, a medrai wthio i'r dwfn wrth esponio, o ba herwydd byddai rhai o hen bererinion Seion yn barod i awgrymu ei Eod yn cyfeiliorni, ond edrychai adran ddarlleugar yr eglwys arno fel nn wedi dysgu mwy na'i holl athrawon. Gwrthododd fwy nag unwaith gymeryd ei dd<-wis yn ddiacon, am, meddai, nad alìai dyn tlawd ddal ei gymharu raewn ffyddlon- deb, haelioni na synwyr a phobl gyi'oethog, y fath ag oedd diaconiaid Horeb yr adeg hono. Gan y byddai efe yn gweithio o gylch y wlad, gwyddai nas yallai fod yn rheolaidò fely lleill yn ughynulliadau yreglwys, ac nid oedd ganddo foddion i fod yn hael i'r tlodion, nis gaìlai fod yn gyd- stâd a'r diaconiaid eraiil yn ei gyfran- iadau eglwysig, ac ofnai y buasid yu edrych arno yn eu plith fel aderyn du. o ba herwydd dewisod 1 aios yn tnhlith yr aelodau yn hytrach na chymeryd ei godi i blith y diaconiaid. Sylw cyff- redin o'i eiddoyn wyneb amgylchiadau digrif oedd, " na nid oes rheswm digon cryf yn Sir Aherteifì i drechu papyr pum punt." Ond byddai y diaconiaid i gyd, yn neillduol ei hen gyfaill a'i gymydog Evan Davies, Maengwyn, yn gosod pwys mawr »r farn Elias Thomas. Bu iddo amryw blant, bechgyn a merched, yn y rhai yr oedd talent.í'e! môr yn digyfor, ond drwy iddynt gael eu troi allan i enill eu tamaid cyn fwybod am Standard I. chwaethach II., ac mewn amgylchiadau cyfyng, ni ddygwyd eu galluoedd gwylltion o dan reol na threfn, ac edrychid arnynt yn fwy fel pJant direidus ac ôd nag fel rhai talentog a galluog. Ond yn yr wyrion cafodd talent ac athrylith y taid le i ymddadblygu, daeth saith o honynt yn bresethwyr, un o'r rhai oedd y diweddar Thomas Davies. Clydach.