Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Rhif 46. HYDREF, 1894. Cyf. IV. CYMDEITHASIAETH. Gan B. J. Berfel. Llythyb XXIII. Cymusdebiaeth. Mae dau fath o Gymdeithasiaeth— Cymdeithasiaeth ranol a Chymdeith- asiaeth rryflawn. Mae Cymdeithasiaeth ranol gyda ni yn awr. Gellir dweyd ei bod wedi cychwyn mwy na chan' mlynedd yn ol, ac y mae yu parhau i gynyddu. o gam i gam a gris i ris, yn raddol a sicr, er yn araf, ac ni atelir ei thyfiant nes y bydd wedi dadblygu i Gymdeithasiaeth gyflawn. Cym- deithasiaeth gyfìawn ncu berffaith fydd Cymundebiaeth. 0 dan y ranol, mae unigoliaeth ac undebiaeth, cystad- leuaeth a chydweithrediaeth yn cyd- fodoli. a'r ddwy drefn fel yn cydym- drechu am fuddugoliaeth. Ond o dan gymundebiaeth bydd unigoliaeth a chystadleuaeth wedi peidio a bod, a'r hen arwyddair hunanol, pob un drosto ei hun, wedi rhoddi lle i—pob un i bawb a phawb i bob un. Hanfod cymundebiaeth ydyw cyd- feddianaeth a brawdohaeth. Pan fydd pob peth yn eiddo cyffredin mae yn amlwg na fydd neb yn orgyfoethog na neb yn dlawd. Bydd golud y Wladwriaeth, fel golud y teulu, yn olud i bawb. Yn lle cystadlu yn erbyn eu gilydd byddant yn cyd- weithredu â'u gilydd i gynyrchu y pethau fydd yn eisiau i ddiwallu eu hanghenicn. Gan y dichon pob gweithiwr gyda rhwyddineb gynyrchu digon ar gyfer tri neu f wy, mae yn amlwg na fydd prinder o ddim na phrinder o hamdden i'w mwynhau. Yn awr cynyrchir ymborth yn flaenaf i'w werthu, a'r canlyniad ydyw fod y bobl lawer adeg yn newynu, er fod y nwydd-dai yn ochain o dan bwysau angenrheidiau by wyd. 0 dan y drem newydd cynyrchir ymborth i'w fwyta, ac ni fydd raid i neb fod yn brin tra byddo digonedd yn yr ystordy. Yn awr gwneir diliad i'w gwerthu, a'r canlyniad ydyw fod y rhai a wnaeth y. dilladau yn fynych yn brin, hyd yn nod o garpiau, i guddio eu noethni, er fod y siopiau a'r ystordai yn llwythog o ddilladau, a rhai ohonynt yn braenu wrth gael eu cadw yn rhy hir heb eu gwerthu. O dan y dreíh newydd gwneir dilladau i'w gwisgo, ac ni fydd raid i neb fod heb wisg' na gwisgo dillad gwael tra fyddo dillad yn yr ystordy a modd i'w gwneud. O dan y drefn bresenol adeiledir tai i'w rhentu fel y gallo rhai segur fyw ar lafur rhai eraill, a'r canlyniad weithiau ydyw fod llawer heb dŷ am nad allaut dalu y rhent a'r tai yn weigion am yr un rheswm. O dan y drefn newydd adeiladir tai i'r bobl i fyw ynddynt, ac ni fydd yr un teulu heb dŷ tra fyddo tŷ yn wâg neu fodd i adeiladû un. 0 dan y drefn bresenol mae, o leiaf, un o bob pedwar o'r boblogaeth yn byw mewn segurdod ar lafur eraill. 0 dan y drefn newydd bydd pob un galluog i weithio yn gwneud ei ran o wasan- aeth y cymundeb. 0 dan y drefn bresenol, er mwyn elw, gwneir nwyddau diles a diwerth; cymysgir llawer o bethau gwael gydag ychydig o ddefnyddiau da a gwerthir y nwydd am bris y da i gyd er mwyn cael ychwaneg o elw, neu er mwyn gwerthu yn is na rhywun arall. O dan y drefn newydd gwneir pob nwydd i'w defnyddio. Gwneir pob peth o'r defnyddiau goreu, a rhoddir y gwaith goreu fydd yn bosibl arnynt. Fydd dim pchlysur i gymysgu y gwael a'r da—i ddefnyddio y gwael o gwbl— nac i roddi gwaith sâl ar ddefnyddiau da. Bydd gan bob gweithiwr fodd ac amser i fod yn onest yn ei waith. Bydd gweithio o dan amgylchiadau mor fanteisiol yn gwneud gwaith yn