Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Rhif 5. MAI, 1895. Cyf. V. C Y M D E I T H A S I A E T H. Gan R J. Derfel Llythyr XXX. DlWEDDGLO. Beìlacli rhaid i rni dynu y gyfres o tythrau i derfyn ; nid arn fy mod wedi hysbyddu y pwnc, ond am fod dyled- swyddau eraill yn galw am fy amser. Heb sou am y brigau, mae canghenau pwysig o'r preu heb gael priu eu eyffwrdd. Òs dywed rbywun, ac y mae yn fwy na thebygol fod llawer yn dweyd, y buasai croesaw i mi i'w diweddu lawer yn nghynt, a pheidio eu dechreu 0 gwbl, nid oesgenyf ddim o gwbl i'w ateb ond dweud—bydded felly, cytnnwn i annghytuno. Ar rai 3'styriaethau,bywyd digon diflasydyw eiddo y pioneers. Yn anfynych y d rbynia ddiin ond casineb a gv\awd ac esgeulusdod tra yn fyw, a thipyn o gareg, hwyrach, ar ei fedd yn mhen oesoedd hiwer ar ol iddo farw. Mwy na deugain mlynedd yn ol,yr oeddwn mewn lleiat'rif bychan iawn fel cenedlaetholwyr Cymreig, Nid y w y symudiad cenedlaethol eto wedi cyrhaedd yn ilawn mor bell a'r man y safwn i arno y pryd hwnw. Mae y genedl Gymreig wedi symud yn mlaen lawer iawn er y dj'ddiau hyny. Ond yr wyf finau wedi symud, ac yr wyf yn awr mewn lleiafrif arall, ac yn debyg o ddiweddu fy oes â'r mwyafrif yn fÿ erbyn. Ond rhaid i rywun ddeciireu pob peth—ac os na chaiff y rhagflaenydd fy w i weled y rhod wedi troi, mae yn gallu marw mewn llawn fEydd y lîwydda ei efengyl, ac y daw amser pan l'ydd y mwyafrif o ddyniou yn cael eu llwyodraethu ganddi. Mae diarheb yn dyweyd mai " deupaith gwaith ydyw ei ddechreu." Wel, mae dysgu Cymdeithasiaeth wedi cael ei ddechreu yn y llythyrau hyn, ac yr wyf yn hyderu y cyfyd dysgawdwyr ieuainc o dalent ac athrylith i gario y ddy^geidiaeth yn mlaen. Mae y pwnc yn rhy bwysig, rhy ddyddorol, a rhy doreithiog o bosiblrwydd daionus i'r byd i gael ei adael byth mwy i suddo i ebargofiant. Wrth wneuthur yr ymchwiliad pi'esenol, cefais aîlan fod tipyn o anhawsder ar brydiau i ysgrit'enu yn ystwyth a dealladwy yr. Nghymraeg, ar y pwnc, oherwydd difFyg enwau a broddegau arferadwy i osod allan gynseiliau a gosodiadau y wybodaeth newj'dd. I'r rhai a'm dilynant, feallai y bỳdd y llythyrau hyn yn rhyw gymaint o gymhorth i wella yr enwau a diwygio y geirweddiad. Pa fodd bynag am hyny, gosod gwirionedd yr athrawiaeth gymdeitbasol yn amlwg ac eglur o flaen y darllenwyr, fel nad allai nej^ o ddealltwriaeth cyffi-edin gamgymeryd yr hyn a ddysgir. Yn ein hymchwiliad yr ydym wedi canfod fod ein gwlad yn cael ei phreswylio gan ddwy genedl—cenedl í'echau gyfoethog. a chcnedl /awr dlawd. fc'el dosbarth, mae y genedì fechan yn byw mewn anrhydedd a moethau parhaus, er nad ydynt yn hau nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau, nac yn llafurio, nac yn nyddu—tra y mae y genedl fawr, yr hon sydd yn cyflawni yr holl lafur ac yn cynyrchu yr holl olud, beunydd rnewri tlodi. Yn ol pob rheol a synwyr os dylai neb fod yn dlaw d y setrurwr ddylai fod; ac os dylai neo fod yn gyfoethog y llafurwr ddylai fod. Yr ydym wedi gweled fod y golud a gynyrchir gan weithwyr ein gwlad yn swm anferthol ei fàint, ac y gellid