Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Rhif 8 AWST, 1895. Cyf. V. DYRCHAFIAD Y DOSBARTH GWEITHIOL. Geibwiredd, Ffyddlondeb X CHA.DW AMSEE DA. Dyma dair line eto yn nghadwen y dyrchafiad, achredwn fod y tair dolen hyn yn gysylltiol anwahanol a'u gilydd. Lle bynag y b«Tddo un o'r rhinweddau ardderchog hyn yn bodoli lled debyg y bydd y ddau arall yn blaguro yn yr un lle. Er fod yn bosibl y ceir rhai amgylchiadau na ddysgleiria pelydrau yr oll i'r un cyfartaìedd Teimlwn y byddai yn galed disgwyl hyny, gan pa mor anwyl yr ymddengys eu bod yn cof- leidio eu gilydd. Hyn sydd amlwg, nas gall y masnachwyr na'r gweith- wyr mewn unrhyw gy lchoedd ddisgwyl dyfodol enwog a llwyddianus heb i'r oll fod wedi eu cyd-gorphori yn eu hanian bersonol yn elfenau llywod- raethol. Maent pe cysylltem sobr- wydd gyda hwy, vr allweddau mwyaf anhebgor i ddyrchafiad anrhydeddus. Fe sonir am ryw bechod o gelwydd bach diniwaid. Ofnwn os oes rhai llai na'u gilydd mewn cosb am eu dyweyd, y collir llawer trwy yr arferiad o arfer y celwydd hwn fel mantell dros uurhyw radd o ymddyg- iad. bach neu fawr. Yr ydym yn sicr o hyn mai dyn diwertn iawn ydyw hwnw, nid ellir ymddiried ynddo. Nid oes iddo barçh mewn unrhyw gylch. Diystyrir ef gan gymdeithas. Dir- mygir ef gan y cyhoedd iselaf fel celwyddwr. A 'beth sydd yn fwy o waradwydd ar gymeriaä na hyny. Yr bedd darlun y bradwyr Cymreig yn gyhoeddus ar y Poliee Newe yr wyth- nos o'r blaen, fel rhai euwog am eu hanwireddau (sef Taplin ac Owen, Manceinion). Mae eu hanes yn sawru yn drwm yn ffroeuau y byd, ac edliwir i'r génedl Cymreig eu hanüdoriiaeth ar gyfrif cymeriadau drylliog a ffiaidd fel hyu. Nid oes dim yn fwy gwerth- fawr mewn unrhyw gysylltiad na dyn geirwir. Mae yn enwog ar gyfrif ei eirwiredd. Hhoddir ymddiriedaeth iddo yn y sefyllfaoedd pwysicaf yn nghylchoedd y byd cyhoeddus am yr adnabyddir ef fel y cyfryw. A daw ei werthfawredd i'r golwg yn amlycach os ydyw y nodweddau eraill wedi cacl eu hamlygu ynddo. Mae mor ffyddlon ac amserol yn ei gylch a'r haul a thymorau y flwyddyn. Gellir ymddibynu arno. Y mae mor sicr o gyflawni ei ymrwymiadau a llanw'r mor. Edmygir ef gan y byd o'i ddeutu fel dyn sydd yn llanw y cymeriadau hyn. Nid oes dim mor bwysig i'r meistr hwnw sydd yn cadw llawer o weith- wyr a fod ganddo ddyn yn ei wasanaeth ac y gall ymddiried ynddo i agor drws y gwaith i'r fynua yn y boreu a chanol dydd. Ac os oes yn aros y gwas da hwn, ac unrhyw ranau yn ngraddau gwobr y gwas da yn yr Etengyl ar wahan i grefydd, credwn fod gan y personau hyny sydd yn dyfod i fyny a'r noaau hyn yn mhlith y lluaws hawl helaeth ynddynt. Er na byddai dim yn f wy dymunol a theüwng yn nghymeriad gweithwyr ein gwlad na'r ymarweddiad i ymenwogi yn y rhinẃeddau hyn yn nghadwen eu dyrchafiad. 5.—Y gris nesaf ydyw Sobewtdd. Nid oes dim y gwyddom am dano yn anurddo cymaint ar y natur dda sydd mewn dyn ag anghymedroldeb. Nid yn mnig darostynga ei chwaeth a'i ddynoliaeth, ond anghymwysa bawb dan effeithiau alcohol i lanw cylchoedd o ymddiriedaeth a gwahanol safleoedd eraill mewn bywyd. Ac ÿ mae y ris hon yn un o'r rhai pwysicaf yn nghymeriàa y gweithiwr, ac yh