Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWFÍS Y RYD. Rhif 3. MAWRTH, 1896. Cyf. VI. RHYDDFRYDIAETH. f'N y sefyllfa wladwriaethól bresenol y mae yn gysur i ni feddwl fod yr egwyddorion o iawnder sydd mewn Rhyddfrydiaeth yn anorchfygol yn eu natur, oblegyd nis gellir byth orchfygu raewn '_> gwirionedd yr hyn sydd iawn. Y mae daearegwyr yn dywedyd wrthym fod nerth annghyfrifiadwy y wenithfaen (granite) yn fiurfiad hanesyddoi y ddaear yn gyfryw fel yr ydoedd nid yn unig yn alluog i gael ei gyru ac i ymsaethu i'r lan trwy y cyfryngiad adamantaidd o'r creigiau eraill, ond ei bod hefyd wedi achosi i'r cyfryw greigiau rhwystrol i ledorwedd wrth ochrau y wenithfaen, ac nid mewn gwrth- wynebiad croes i haenau y wenithfaen. Felly hefyd gallwn ddywedyd ddymu y flwyddyn 1832 y gorfodwyd Syr Robert Peel a'r Toriaidi ddi- pan yn deddfau yr ýd, y rhai oeddynt wedi bod yn rwystro ac yn wrth- wynebu mor ffyrnig cyn h}'ny. Beth ydoedd hyny ondy nerth anorch- fygoloiawnder ag ydoedd mewn Rhyddfrydiaeth yn achosirhwystriady diffyn-dollwyr i ledorwedd yn dawel byth oddiar hyny wrth ochrau Rhyddftydiaeth, ac nid mewn sefyllfa groes i Fasnach Rydd ? A phan eilwaith y gorfodwyd Ardalydd Salisbury a'r Toriaid i basio Mesur Addysg Rydd ag oeddynt wedi bod ynymladd yn ei erbyn hyd yr eithaf cyn hyny, beth ydoedd hyny ondnerth y gwirionedd o iawn- der ac ydoedd mewn Addysg Rydd yn achosi Ardalydd Salisbury i ledorwedd yn dawel byth oddiar hyny wrth ochrau Rhyddfrydiaeth, ac md mewn cyílwr gwladwriaethol croes i Addysg Rydd? Fe ddylem gofio mai peth dynol o osodiad Cystenyn Fawr yn y drydedd ganrif ydyw cysylltu crefydd â'r wladwriaeth, a pheth dynol o benodiad Ethelwoif, brenin y Sacsoniaid yn yr wythfed ganrif, ydyw y degwm, ond peth dwyfol, yn ol egwyddorion y Testament Newydd, ydyw gosod ysbrydolrwydd teyrnas Crist yn orphwysedig jn ei chyn- aliaeth ar gariad ewyliysgar a haelioni gwirfoddol ei deiliaid. Y mae naturiaethwyr yn dywedyd wrthym " fod y Uinellau natur- iol a'r tònau sydd i'w cael ar gareg werthfawr y maen muchudd (agate) weithiau yn cymeryd ffurfiau a lluniau penodol o'r prydferth- wch mwyaf, ond darfu i lawer gemydd hynaíol i greu ar arwynebedd y maen muchudd arddangosiad o ddynion, benywod, anifeiliaid,