Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y RYD Rhif 12. RHAGFYR, 1896. Cyf.YI. 18 0 7. AT GEFNOGWYR "CWRS Y BYD." Anwyl Gyfeillion,— Bydd Cwrs y Byd gydag ymddangosiad y rhifyn hwn yn chwech oed. Faint o ddaioni a wnaeth Duw yn unig a wyr, Mae wedi bod yn onest, anibynol, a hollol ddidderbyn wyneb. Ni ddarfu i mi erioed fachu fy marn wrth lawes credo grefyddol na gwleidyddol neb, ac nid aethum erioed i fewn, ondychydig " i lafur rhai eraill." Drwy fy mod wedi arfer byw gryn dipyn o flaen fy nghymydogion yr wyf yn fynych yn anmhoblogaidd, ond yr wyf yn teimlo yn llawen fy mod wedi cael byw i weled y rhan fwyaf o'r pwyntiau y bûm yn dadlu drostynt yr ugain mlynedd diweddaf yn cael eu cydnabod, hyd yn nod gan y rhai oedd unwaith.yn eu gwrthwynehu yn benboeth, yn bynciau y tu fewn i gylch gwleidyddiaeth ymarferol, megis— 1. Yspeilio ye Aifftiaid. Geilw Ewrop heddyw ar ^Loegr i alw ei mìlwyr adref o'r Aifft. ' 2. Talu cyflogau i Aelodau Seneddol. Curwyd fi i lawr yn nghyfarfod yr aelodau rhyddfrydig dros FHnt am grybwyll y peth yn 1880, ond heddyw y mae yn erthygl yn y "Gredo Ryddfrydig." 3. Gwib gymebiad.H. M. Stanley. Ond erbyn heddyw buasai yn 4da gaü y cyhoedd pe heb addoli cymaint arco, , ,